Cytundeb St Andrews

Oddi ar Wicipedia
Cytundeb St Andrews
Enghraifft o'r canlynolcytundeb Edit this on Wikidata
DyddiadHydref 2006 Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Mae Cytundeb St. Andrews (Saesneg: St Andrews Agreement; Gwyddeleg: Comhaontú Chill Rímhinn) yn gytundeb rhwng llywodraethau'r Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon a’r holl brif bleidiau gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon. Fe'i llofnodwyd ar 13 Hydref 2006. Cynhaliwyd y trafodaethau rhwng 11 ac 13 Hydref 2006 yn nhref Saint Andrews yn yr Alban, a dyna roddodd y llysenw ar y Cytundeb.

Cyd-destun[golygu | golygu cod]

Erbyn mis Tachwedd 2002 bu'n rhaid i Lywodraeth San Steffan ddychwelyd i sustem rheolaeth uniongyrchol dros Ogledd Iwerddon. Roedd hyn er gwaethaf cadarnhau Cytundeb Gwener y Groglith, a sefydlu strwythur cymhleth o sefydliadau ar gyfer Gogledd Iwerddon, gan ddefnyddio'r modd o gydgymdeithasoldeb (math o lywodraeth ar gyfer cymdeithasau rhanedig iawn, megis Libanus).

Bu cynnydd sylweddol ers 1998 mewn adfer heddwch ac ymddiriedaeth rhwng y gymuned Unoliaethol Brotestanaidd (pobl sydd, yn fras, yn credu mewn bod yn rhan o'r Deyrnas Unedig) a'r gymuned Gatholig cenedlaetholwyr Gwyddelig (pobl sy'n credu, yn fras, mewn ail-uno Iwerddon fel un gwlad). Roedd y cynnydd yma yn gynnwys rhyddhau carcharorion,[1] a dad-filwreiddio sefydliadau teyrngarol a’r IRA. Roedd mwyafrif gweithredwyr gwleidyddol Gogledd Iwerddon hefyd yn cydnabod bod angen dod â chynrychiolwyr y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon a’r Gogledd at ei gilydd a hefyd pleidiau gwleidyddol Gwyddelig y Chwe' Sir, er mwyn i'r heddwch barhau. Ond roedd anghydweld ar sawl pwynt pwysig gan gynnwys Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon yn llyffethair i ailgychwyn llywodraeth 'lleol' gan Weinthrediaeth Gogledd Iwerddon ('llywodraeth' ddatganoledig y Dalaith).

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Senedd-dŷ Stormont gyda cherflun o'r arweinydd Unoliaethol Edward Carson ar y blaen

Cytunodd pob un o'r pleidiau a grwpiau ar gynllun i adfer Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon (Senedd Gogledd Iwerddon):

  • Ymrwymodd Sinn Féin i gydnabod cyfreithlondeb heddlu newydd Gogledd Iwerddon - Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon a sefydlwyd yn 2001[2], sef Cwnstabliaeth Frenhinol Ulster (RUC) gynt, a ddiwygiwyd gyda'r nod o warantu cydraddoldeb recriwtio rhwng Catholigion a Phrotestaniaid[3]).
  • Ymrwymodd plaid y DUP i ffurfio llywodraeth glymblaid gyda chenedlaetholwyr Sinn Féin.
  • Ymrwymodd llywodraeth San Steffan i hyrwyddo datganoli pwerau cyfiawnder a heddlu i'r Weithrediaeth dros gyfnod o ddwy flynedd.[2]

Roedd addewid i roi statws a chefnogaeth i'r iaith Wyddeleg (a Sgoteg Wlster) yn y Cytundeb hefyd ond doedd dim gweithred neu strategaeth ar hyn. Cymaint felly fel y ffurfiwyd An Dream Dearg - mudiad protest hawliau yr iaith Wyddeleg - yn 2016.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Agnès Maillot (2018). L'IRA et le conflit nord-irlandais (yn Ffrangeg). Gwasg Prifysgol Caen. ISBN 978-2-84133-875-7.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Maillot 2018, t. 296.
  2. 2.0 2.1 Maillot 2018, t. 309.
  3. Maillot 2018, t. 303.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: cydgymdeithasoldeb o'r Saesneg "consociationalism". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.
Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Ogledd Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.