Gwarchae Castell Coety (1404-5)

Oddi ar Wicipedia
Gwarchae Castell Coety

Roedd Gwarchae Castell Coety yn warchae gan fyddin Cymru, dan arweiniad y Tywysog Owain Glyn Dŵr ar gastell Seisnig Coety ym mhentref Coety, ychydig i'r gogledd-orllewin o ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'n nodedig gan i'r Cymry gynnal y gwarchae am gyfnod mor hir ac am iddynt ddefnyddio powdwr gwn am y tro cyntaf.

Roedd Arglwyddiaeth Coety'n un o sawl arglwyddiaeth o fewn Morgannwg, ac yn un o'r cyfoethocaf. Yn 1400 deilydd yr Arglwyddiaeth oedd Syr Lawrence Berkerolles (m. 1411), a fu'n trigo yno ers 1384. Etifeddodd y castell (a Castell Newydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Llanharri a Newland Castle, Swydd Amwythig) gan ei fam Katherine Turbeville. Aeth ati i gryfhau a dodrefnu ei gastell, gan orffen ychydig cyn y cafwyd gwarchae dan arweiniad Owain Glyn Dŵr, Tywysog Cymru.

Gwarchae Castell Coety (1404-5)[golygu | golygu cod]

Ochr deheuol y castell.

Ceir tystiolaeth i'r Cymry, a oedd yn gwarchae ac yn ymosod ar Gastell Coety, ddefnyddio powdwr gwn; mae'n bosib iddynt gael cymorth y Ffrancwyr gyda hyn. Yn sicr, difrodwyd y muriau gogleddol allanol yn fawr, a hynny ychydig wedi i Owain Glyn Dŵr gynghreirio gyda Ffrainc. Dyma'r cylch hiraf gan fyddin Cymreig yn ne Cymru; dim ond cyrchoedd y Cymry ar gestyll Harlech ac Aberystwyth (cyrchoedd llwyddiannus) a chastell Caernarfon (aflwyddiannus) a barodd yn hirach. Credir i'r ddau frenin, y Tywysog Glyn Dŵr a Harri IV, brenin Lloegr a'i fab, y tywysog Harri ddod yma ryw bryd yn ystod y gwarchae.[1]

Dengys cryfder y ddau warchae ar Gastell Coety, a'r ffaith iddynt barhau am gyfnod mor hir, mor bwerus oedd y fyddin Gymreig, a chymaint o straen ydoedd ar goron Lloegr.

Y cefndir[golygu | golygu cod]

Ar 16 Medi 1400, ymosododd y Tywysog Owain a'i wŷr ar dref a chastell Seisnig Rhuthun, ac ymhen blwyddyn datblygodd yn wrthryfel cenedlaethol, dros annibyniaeth Gymru gyfan. Enillodd frwydr Bryn Glas ar 22 Mehefin 1402, ger Llanandras ar y ffin rhwng Swydd Henffordd a Powys ac ystyrir hon yn fuddugoliaeth bwysig i Owain; cymerwyd arweinydd y fyddin Seisnig, Syr Edmund Mortimer, yn garcharor. Yn nes ymlaen byddai'n priodi Catrin, ferch Owain, ac yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda'r Mab Darogan yn erbyn brenin Lloegr. Yn 1402 hefyd, pasiodd Senedd Lloegr y Deddfau Penyd, cyfres o ddeddfau yn erbyn y Cymry. Dan y deddfau hyn, gwaherddid unrhyw Gymro, heblaw esgobion, rhag dal unrhyw swydd gyhoeddus, rhag dwyn arfau a rhag byw mewn unrhyw fwrdeistref Seisnig.

Yn 1403, cododd Henry Percy (Hotspur) mewn gwrthryfel yn erbyn y brenin, a gwnaeth gytundeb ag Owain. Lladdwyd Percie ar 21 Gorffennaf 1403, ond agorwyd y drws i lawer o'r teulu ac uchelwyr eraill o Loegr ymuno dan faner Glyn Dŵr. Yn Hydref, ymosododd y Llydawyr a'r Ffrancwyr ar ddwy gastell, ar y cyd gyda milwr Glyn Dŵr: Castell Cydweli a Chastell Caernarfon; er i'r cyrchoedd fod yn fethiant, roeddent yn ddraenen finiog yn ystlys y Saeson. Ar 10 Mai 1404 cynhaliodd Owain gyfarfod o Senedd Llywodraeth newydd Cymru ym Machynlleth a gytunodd i wneud cais am gymorth milwrol gan Ffrainc, ac erbyn 14 Mai cafwyd cynghrair swyddogol rhwng Cymru a Ffrainc.

Y ddau warchae[golygu | golygu cod]

Digwyddodd y gwarchae cyntaf yn 1404 ychydig wedi i'r fyddin Gymreig gipio cestyll Aberystwyth a Harlech a llosgwyd Castell Caerdydd yn ulw; teithiodd y gwrthryfelwyr Cymreig oddi yno i Goety. Ar yr un pryd, cafwyd gwarchae ar y Fenni. Ymunodd Cymry Morgannwg fel un gŵr gyda'r Fyddin Gymreig. Roedd yma nifer fawr o Lydaw a Ffrain, criw o rhwng 2,600 a 10,000 o filwyr a oedd wedi glanio ym Mhenfro yn Awst.

Roedd arglwyddi'r Mers yn bryderus y gallai'r Gwrthryfel ehangu i'w tiroedd hwy, felly, codwyd y mater yn Senedd Lloegr a chytunwyd i wario symiau enfawr o arian ar fyddin o 2,500 o ddynion o siroedd y Mers a ddaeth ynghyd yn henffordd ar 13 Tachwedd 1404, dan arweiniad y tywysog Henry a'i frawd iau Thomas o Lancaster. Penodwyd Thomas yn arweinydd y fyddin, oherwydd fod ganddo mwy o brofiad na'i frawd. Methiant fu eu hymdrech.

Codwyd y gwarchae am ychydig yn Nhachwedd 1404, ac felly cyfeirir ati fel dwy warchae, nid un, fel rheol. Parhaodd y gwarchae hyd at ddiwedd 1405.

Ym Medi ceisiwyd godi'r gwarchae eildro, gyda brenin Lloegr yn arwain y tro hwn. Glaniodd nifer o longau'r brenin yn Aberogwr (a hwyliodd o Friste, ond suddodd sawl llong mewn storm. Teithiodd Henry o Henffordd, gyda'i filwyr, ar 10 Medi, ond ar y ffordd i Gastell Coety, daliwyd dros 50 o gerbydau cludo bwyd ac arfau gan y fyddin Gymreig a dygwyd coron Henry, ond medrodd ddianc yn ei ôl i Henffordd, a'i gynffon rhwng ei goesau. Parhaodd ymdrech y Saeson hyd at 29 Medi.

Dywedir i lawer o wŷr Morgannwg droi tua Gwynedd er mwyn ymladd ym myddin Glyn Dŵr.

Archaeoleg[golygu | golygu cod]

Ceir olion y gwarchae ychydig i'r gogledd o'r castell (RCAHMW 224-5), 25-35 metr o'r wal. yr ail dystiolaeth o warchae yw'r bwlch yn y wal gogleddol a chredir fod y ddau beth yma'n gystylltiedig: y peiriannau tafl a'r wal a ddinistriwyd. Mae'n fwy na thebyg mai peiriannau tafl wedi'u gyrru gan bowdwr gwn oedd y rhain; peiriant a elwir yn bwmbart. Gwyddom i'r fyddin Saesnig ddefnyddio powdwr gwn wrth warchae cestyll Aberystwyth (1407) a Harlech (1409). Gwyddom hefyd i fwmbartiaid gael eu defnyddio'n aml yn y cyfnod hwn mewn gwarchae e.e. yn 1375 Ffrainc pan ddefnyddiwyd sawl bwmbart a fedrai daflu cerrig crwn 100 pwys (45 kg). Er mwyn cadw'r bwmbart yn gadarn, heb symud pan ffrwydrai, codwyd llwyfanau mawr pren, gyda physt pren anferthol (neu weithiau waliau carreg) i mewn i'r ddaear. Codwyd hefyd fur amddiffynnol o'i flaen, gan ei fod o fewn cyrraedd saethau'r gelyn, a'i symud eiliadau'n unig cyn tanio at y waliau. Dylid cofio y gallai saethau (bwâu hirion) daro targed dros 300 metr i ffwrdd.[2]

Mae felly'n debygol i'r Saeson o fewn y castell ildio i'r Fyddin Gymreig, ond mae hefyd yn bosib i ail gyrch y Saeson fod yn llwyddiannus ac i'r gwarchae gael ei godi. Un peth sy'n gwbwl sicr, roedd cynnal y gwarchae am gyfnod mor hir, a'r defnydd o beiriannau bwmbart yn arwydd fod y Fyddin Gymreig yn un hynod o bwerus a soffistigedig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: