Neidio i'r cynnwys

Graig, Casnewydd

Oddi ar Wicipedia
Graig
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,256, 5,492, 6,159 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCasnewydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,434 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.577°N 3.063°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001047 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJayne Bryant (Llafur)
AS/au y DURuth Jones (Llafur)
Map

Cymuned a ward etholiadol yn ninas Casnewydd yw Graig. Saif yng nghornel ogledd-orllewinol y sir. Roedd poblogaeth y gymuned, sy'n cynnwys pentrefi Basaleg, Rhiwderyn, Pentre-poeth a Machen Isaf, yn 5,492 yn 2001.

Gerllaw Basaleg mae Gwernyclepa, cartref Ifor Hael, prif noddwr Dafydd ap Gwilym. Arferai eglwys Basaleg, Eglwys Sant Basil, fod yn gell yn perthyn i Abaty ynys Wydrin. Ceir mawsoliwm teulu Morgan, Tredegyr ynddi. Cyn iddynt symud i Dredegyr, roedd y teulu yn byw ym Mhlas Machen, ger Machen Isaf.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jayne Bryant (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Ruth Jones (Llafur).[1][2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014


Eginyn erthygl sydd uchod am Gasnewydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato