Rhiwderyn

Oddi ar Wicipedia
Rhiwderyn
Mathmaestref, pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCasnewydd, Graig Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5815°N 3.0694°W Edit this on Wikidata
Cod OSST260874 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJayne Bryant (Llafur)
AS/auRuth Jones (Llafur)
Map

Pentref bychan yng ngorllewin Casnewydd, De Cymru, yw Rhiwderyn (Seisnigiad: Rhiwderin), sydd wedi'i leoli yng nghymuned a ward etholiadol Graig.

Saif y pentref gwreiddiol nesaf at groesfan wastad ar hyd Rheilffordd Cwm Ebwy ac yn agos at ffordd yr A468 o Gasnewydd i Gaerffili. Mae'r tai ychwanegol ar ochr arall y briffordd, o'r enw Rhiwderin Heights, bron wedi uno Rhiwderyn gyda'r pentref cyfagos Basaleg.

Ysgol Pentrepoeth yw'r ysgol gynradd leol. Gwasanaethwyd y pentref gan rheilffordd Rhiwderyn hyd 1954.

Mae'r pentref hefyd yn agos at hen rheilffordd B&MR (Brecon and Merthyr Tydfil Junction Railway).[1] Heddiw, mae'r rheilffordd yn terfynu yn Chwarel Machen a dim ond trenau clwydo nwyddau sy'n ei ddefnyddio.

Capel Cynulleidfaol Rhiwderin a Eglwys Bresbyteraidd Rydd Rhiwderin yw'r addoldai lleol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Brecon and Merthyr Tydfil Junction Railway". The Railway News 105: 289. 1916.