Graham Greene
Graham Greene | |
---|---|
Ganwyd | Henry Graham Greene 2 Hydref 1904 Berkhamsted |
Bu farw | 3 Ebrill 1991 Vevey |
Man preswyl | Berkhamsted |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, dramodydd, newyddiadurwr, sgriptiwr, hunangofiannydd, awdur plant, ysbïwr |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | A Gun for Sale, The Power and the Glory, The Third Man, The Quiet American |
Prif ddylanwad | Evelyn Waugh, Ford Madox Ford, François Mauriac, G. K. Chesterton, H. Rider Haggard, Henry James, Joseph Conrad, Karl Stern, Marcel Proust, Miguel de Cervantes, Robert Louis Stevenson |
Tad | Charles Henry Greene |
Mam | Marion Raymond Greene |
Plant | Lucy Caroline Greene, Francis Greene |
Gwobr/au | Gwobr Goffa James Tait Black, Gwobr Hawthornden, The Grand Master, Gwobr Shakespeare, Gwobr Dos Passos, Gwobr Jeriwsalem, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Commandeur des Arts et des Lettres |
Gwefan | http://www.grahamgreenebt.org/ |
Ysgrifennwr, sgriptiwr a beirniad llenyddol o Loegr oedd Henry Graham Greene (Berkhamsted, Swydd Hertford, 2 Hydref 1904 – Vevey, Swisdir, 3 Ebrill 1991). Fe'i ystyrir fel un o'r nofelwyr gorau'r 20g, ei lyfrau'n ennill llwyddiant rhyngwladol ac yn sail i nifer o ffilmiau poblogaidd.
Mae ei waith yn archwilio materion moesol amwys bywyd cyfoes.[1] Mae nifer o'i deitlau fel The Confidential Agent, The Third Man, The Quiet American, Our Man in Havana a The Human Factor yn adlewyrchu'i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ryngwladol adeg y rhyfel oer a'i gefndir a phrofiadau yn y byd ysbio.
Er iddo wrthod y label 'nofelydd Catholig' mae dylanwad neu themâu Catholig yn wraidd i lawer o'i waith, yn arbennig Brighton Rock, The Power and the Glory, The Heart of the Matter a The End of the Affair;[2][3]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Fe'i ganwyd i deulu gyfoethog a dylanwadol yn ysgol breifat fonedd Berkhamsted ble roedd ei dad yn brifathro. Y pedwerydd o saith o feibion, ei frawd ieuangaf, Hugh, yn mynd ymlaen i fod yn bennaeth y BBC.
Wedi'i gam-drin ac yn anhapus yn ei ysgol breswyl, fe geisiodd gyflawni hunanladdiad sawl tro (yn cynnwys trwy chwarae Roullete Rwsieg), ym 1921, yn 17 oed, fe'i anfonwyd i seiciatrydd yn Llundain i leddfu ei iselder.[4]
Ym 1922, tra yng Ngholeg Balliol, Rhydychen fe ymunodd â'r Blaid Gomiwnyddol am gyfnod byr [5]
Ar ôl graddio fe weithiodd Greene fel newyddiadurwr, yn gyntaf yn Nottingham ac wedyn fel is-olygydd i The Times, yn Llundain. Briododd â Chatholig, Vivien Dayrell-Browning, gan droi'n Gatholig ei hun. Cawson ddau o blant ond yn 1948 fe adawodd Viven, ond ni chawsant ysgariad oherwydd eu daliadau Catholig.[6]
Gyrfa lenyddol
[golygu | golygu cod]Llên Lloegr yn y 19eg ganrif |
---|
Llenyddiaeth plant |
Athroniaeth a'r gwyddorau |
|
Fe gyhoeddodd ei lyfr cyntaf The Man Within ym 1929, a fe'i roddodd y gorau i'w swydd er mwyn canolbwyntio ar lenyddiaeth. Ni werthodd ei ddau lyfr canlynol yn dda, ond fe lwyddodd ei nesaf Stamboul Train (1932), ac fel llawer o'i waith canlynol fe'i addaswyd i'r sinema (Orient Express, 1934).
Brighton Rock (1938) oedd y cyntaf o nofelau Greene i gynnwys yr holl elfennau a ddaeth yn nodweddiadol o'i waith diweddarach. Gwrth-arwyr mewn cyfyng-gyngor dwys, plotiau 'thriller' wedi'u gosod mewn bywyd isel cyfoes ac yn Brighton Rock yn fe ychwanegodd elfen arall; cyd-destun diwinyddol Catholig.[7]
Yn wreiddiol fe rannodd Greene ei waith i ddau gategori: ei lyfrau 'thriller' fel The Ministry of Fear a Brighton Rock, a alwodd 'adloniant'; a'i waith llenyddol fel The Power and the Glory, a ystyriodd â gwerth llenyddol iddynt.
Wrth ei yrfa datblygu, ddaeth Greene a'i ddarllenwyr i'r casgliad bod ei nofelau 'adloniant' fel The Human Factor, The Comedians a The Quiet American hefyd â sail lenyddol ac athronyddol gwerthfawr.[8] Ysgrifennodd Greene llawr o straeon byrion a sgriptiau llwyddiannus ond roedd wastad yn ei ystyried ei hun yn nofelwr.
Ffilmiau
[golygu | golygu cod]Mae nifer fawr o nofelau Greene wedi'u haddasu yn ffilmiau llwyddiannus. Mae'r wefan IMDB yn rhestri 71 o deitlau yn seiliedig ar waith Greene rhwng 1934 a 2013. Mae rhai wedi'u ffilmio ddwywaith fel The Quiet American ym 1958 a Brighton Rock ym 1947 ac yn 2010.
Fe ysgrifennodd y sgript ar gyfer y clasur o ffilm noir The Third Man (1949). Mae'r ffilm yn ymddangos yn aml ar rhestri ffilmiau gorau. Yn gyntaf yn rhestr y British Film Institute, yn ail yn rhestr Time Out ar gyfer ffilmiau Prydeinig.[9][10]
Ysbïo a chyfeillgarwch gyda Kim Philby
[golygu | golygu cod]Fe gafodd Greene ei recriwtio i ysbïo dros wasanaethau cudd Prydain M16 ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd. Ei rheolwr yn MI6 oedd Harold 'Kim' Philby a ddaeth yn gyfaill agos. Fe'i anfonowyd gan Philby i Sierra Leone i weithio fel asiant cudd. Roedd ei brofiad fel ysbïwr a'i wybodaeth o'r byd cyfrinachol yn ffynhonnell ac ysbrydoliaeth amlwg i Greene trwy gydol ei yrfa lenyddol.
Yn y 1950au ddaeth hi'n amlwg roedd Philby wedi llwyddo i dwyllo pawb o'i amgylch am flynyddoedd gan ysbïo dros yr Undeb Sofietaidd. Fe drosglwyddodd Philby rai o gyfrinachau pwysicaf y gorllewin i'r Comiwnyddion gan achosi carchariad a marwolaethau ysbïwr a gwrthwynebwyr Comiwnyddiaeth. Fe lwyddodd Philby dianc i Foscow ond fe arhosodd Greene yn gyfaill iddo gan ysgrifennu cyflwyniad i'w hunangofiant My Silent War ac yn ei ymweld ym Moscow ym 1987.[11][12][13][14]
Crefydd a gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]Wedi tröedigaeth yn 22 oed, fe arhosodd Greene yn Gatholig trwy weddill ei fywyd, yn cyfarfod â'r Pab, yn gyfaill agos i offeiriad fel Tad Leopoldo Durán ac yn peidio ag ysgaru ei wraig er iddynt wahanu.[15].
Mae gwaith Greene yn aml yn portreadu brwydr enaid unigolyn o safbwynt Catholig gyda phechod yn hollbresennol a'r ymdrech parhaus i ddatrys cyfyng-gyngor ac osgoi syrthio. Mae prif gymeriad ‘’Brighton Rock’’ hyn yn oed yn datgan: "These atheists, they don’t know nothing. Of course there’s Hell, flames, damnation, torments."[16][17]
Mae'r dilema rhwng ffyddlondeb neu frâd yn ganolog i lawer o'i waith Greene. Er enghraifft, mae Holly Martins prif gymeriad The Third Man yn darganfod fod ei gyfaill Harry (Harold) Lime wedi twyllo pawb o'i amgylch. Mae Martins yn cael ei rhwygo rhwng aros yn ffyddlon i'w gyfaill neu i'w dwyllo yntau a'i fradychu i'r awdurdodau. Mae cymhariaeth amlwg gyda chyfeillgarwch Greene a (Harold) "Kim" Philby.[18]
Mae The End of the Affair yn ymchwilio poendod cariad, a chenfigen ysgrifennwr a'i gariad cudd gyda merch briod ag ysbrydolwyd gan berthynas Greene gyda Catherine Walston.[19]
Ar ddiwedd ei yrfa fe ddechreuodd Greene leisio pryderon am imperialaeth yn llyfrau fel The Quite American a ysgrifennwyd yn y 1950au, fe rhagweldodd ymyrraeth Unol Daleithiau yn Fietnam yn y degawdau canlynol. Mae The Comedians (1966) yn ymdrin â thrais gwleidyddol yn Haiti[20] a The Honorary Consul yn yr Ariannin. Fe gefnogodd y mudiad asgell chwith Sandanista yn Nicaragua yn eu brwydri i wrthsefyll ymdrechion llywodraeth yr Unol Daleithiau i'w disodli a chefnogodd orffeniad Catholig o blaid Diwinyddiaeth Chwyldroadol rhag amheuon y Fatican.[21]
Blynyddoedd olaf
[golygu | golygu cod]Fe dreiliodd i flynyddoedd olaf mewn fflat bach yn Vevey ar ochr LlynVevey yn y Swisdir, yr un dref a Charlie Chaplin a ddaeth yn gyffaill iddo.[22]
Bu farw ym 1991 yn 86 oed o leukaemia[2] and was buried in Corseaux cemetery.[22]
Detholiad o'i waith
[golygu | golygu cod]- The Man Within (1929)
- Stamboul Train (1932) (hefyd o dan y teitl Orient Express yn yr Unol Daleithiau
- It's a Battlefield (1934)
- England Made Me (hefyd o dan y teitl The Shipwrecked) (1935)
- A Gun for Sale (1936)
- Journey Without Maps (1936)
- Brighton Rock (1938)
- The Lawless Roads (1939) (hefyd o dan y teitl Another Mexico yn yr Unol Daleithiau)
- The Confidential Agent (1939)
- The Power and the Glory (1940)
- The Ministry of Fear (1943)
- The Heart of the Matter (1948)
- The Third Man (1949)
- The End of the Affair (1951)
- Twenty-One Stories (1954) (straeon byrion)
- Loser Takes All (1955)
- The Quiet American (1955)
- The Potting Shed (1956)
- Our Man in Havana (1958)
- A Burnt-Out Case (1960)
- The Comedians (1966)
- Travels with My Aunt (1969)
- The Honorary Consul (1973)
- The Human Factor (1978)
- Doctor Fischer of Geneva (1980)
- Monsignor Quixote (1982)
- The Tenth Man (novel)|The Tenth Man (1985)
- The Last Word (1990) (straeon byrion)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Diemert, Brian, 1996. Graham Greene's Thrillers and the 1930s. McGill-Queen's Press
- ↑ 2.0 2.1 Graham Greene, The Major Novels: A Centenary gan Kevin McGowin, Eclectica Magazine
- ↑ Mark Bosco (21 Ionawr 2005). Graham Greene's Catholic Imagination. Oxford University Press. t. 3.
- ↑ Pico Iyer (5 Ionawr 2012). The Man Within My Head: Graham Greene, My Father and Me. Bloomsbury Publishing. t. 9.
- ↑ Michael Shelden, ‘Greene, (Henry) Graham (1904–1991)’, Oxford Dictionary of National Biography, online edition Oxford University Press, Hydref 2008; [1]; adalwyd 15 Mai 2011
- ↑ Henry J. Donaghy (1983). Graham Greene, an Introduction to His Writings. Rodopi. t. 13.
- ↑ The Other Graham Greene – Part 1, England Made Me, BBC Arena, 1989.
- ↑ "Greene, Graham | Authors | guardian.co.uk Books". London: Books.guardian.co.uk. 22 July 2008. Cyrchwyd 2 June 2010.
- ↑ http://news.bbc.co.uk/1/hi/entertainment/455170.stm,
- ↑ http://www.timeout.com/london/film/the-100-best-british-films
- ↑ Christopher Hawtree. "A Muse on the tides of history: Elisabeth Dennys", The Guardian, 10 Chwefror 1999. Adalwyd 16 Ebrill 2011.
- ↑ Robert Royal (Tachwedd 1999). "The (Mis)Guided Dream of Graham Greene". First Things. Cyrchwyd 2 Mehefin 2010.
- ↑ "BBC – BBC Four Documentaries – Arena: Graham Greene". BBC News. 3 Hydref 2004. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-03-03. Cyrchwyd 2 Mehefin 2010.
- ↑ [2]
- ↑ http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/europe/1005484.stm
- ↑ Graham Greene, Brighton Rock (1938)
- ↑ [3]
- ↑ [4]
- ↑ "Graham Greene, uneasy Catholic – TLS Highlights – Times Online". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-10-03. Cyrchwyd 2014-08-14.
- ↑ http://greeneland.tripod.com/comedians.htm
- ↑ [5]
- ↑ 22.0 22.1 "Graham Greene finds no Swiss cuckoo clocks". Swissinfo.ch. 19 Mai 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-22. Cyrchwyd 2 Mehefin 2010.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Genedigaethau 1904
- Marwolaethau 1991
- Cyn-fyfyrwyr Coleg Balliol, Rhydychen
- Dramodwyr yr 20fed ganrif o Loegr
- Dramodwyr Saesneg o Loegr
- Llenorion Catholig o Loegr
- Llenorion straeon byrion yr 20fed ganrif o Loegr
- Llenorion straeon byrion Saesneg o Loegr
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o Loegr
- Nofelwyr Saesneg o Loegr
- Pobl a aned yn Swydd Hertford
- Pobl fu farw yn y Swistir
- Pobl fu farw o liwcemia
- Sgriptwyr ffilm o Loegr
- Ysgrifwyr a thraethodwyr yr 20fed ganrif o Loegr
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Saesneg o Loegr