Gershom Scholem

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gershom Scholem
Gershom Scholem 1935 (cropped).jpg
Yr Athro Gershom Scholem ym 1935.
Ganwyd5 Rhagfyr 1897 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
Bu farw21 Chwefror 1982 Edit this on Wikidata
Jeriwsalem Edit this on Wikidata
DinasyddiaethIsrael Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, llyfrgellydd, hanesydd, addysgwr, ysgrifennwr, academydd, llyfryddiaethwr, llyfrgarwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amMajor Trends in Jewish Mysticism Edit this on Wikidata
PriodFania Scholem, Elsa Helene (Escha) Bergmann Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Israel, Gwobr Bialik, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Gwobr Harvey, gwobr llenyddiaeth academi y celfyddydau cainBafaria, Gwobr Reuchlin, Cymrawd yr Academi Brydeinig Edit this on Wikidata

Athronydd ac hanesydd Almaenig-Israelaidd oedd Gershom Scholem (5 Rhagfyr 189721 Chwefror 1982) sydd yn nodedig am arloesi astudiaeth academaidd y Cabala ac am ei gyfraniadau at ysgolheictod cyfriniaeth Iddewig.

Bywyd cynnar a theulu (1897–1915)[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Gerhard Scholem ar 5 Rhagfyr 1897 ym Merlin, prifddinas yr Almaen Imperialaidd, i deulu Iddewig a fu'n trigo yn y ddinas ers dechrau'r 19g. Ei dad oedd Arthur Scholem, Iddew a oedd wedi cymhathu ym mywyd dosbarth-canol Berlin ac a uniaethai'n genedlaetholwr Almaenig. Gweithiodd Arthur yn argraffwr, ac wrth ei fusnes daeth Gerhard yn gyfarwydd â llyfrau ers ei flynyddoedd cynnar.

Erbyn ei arddegau, gwrthodai Gerhard daliadau gwleidyddol ei dad, gan gydymdeimlo â'r achos Seionaidd ac yn falch o'i hunaniaeth Iddewig. Ar liwt ei hun, aeth i'r ysgol gymunedol Iddewig leol i ddysgu'r Hebraeg ac astudio'r Talmwd gyda chymorth rabi Uniongred. Mabwysiadodd y ffurf Hebraeg ar ei enw, Gershom, a darllenodd yn frwd am hanes, crefydd, a diwylliant yr Iddewon. Yn ôl un stori, prynodd ei fam bortread o Theodor Herzl fel anrheg iddo adeg y Nadolig 1911, a chafodd y llun ei hongian ar y goeden Nadolig.

Yn sgil ffrae rhwng Gershom a'i dad, cafodd ei fwrw allan o'r tŷ a bu'n rhaid iddo fyw gyda Seioniaid ifainc eraill yng ngorllewin Berlin, gan gynnwys Zalman Rubashov (a fyddai'n Arlywydd Israel) a Shmuel Yosef Agnon. Cafodd ei alw i'r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a gwasanaethodd am ddau fis cyn iddo gael ei alw'n "seicopath" a'i ddadfyddino.

Addysg (1915–22)[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceisiodd fod yn Iddew ffyddlon am gyfnod byr yn ystod ei ieuenctid, ond trodd at seciwlariaeth yn y pen draw a byddai ei feddylfryd seciwlar yn siapio'i ysgolheictod Cabalaidd a'i hanesyddiaeth Iddewig trwy gydol ei oes. Erbyn iddo gychwyn ar ei gyrsiau mathemateg, athroniaeth, ac Hebraeg ym Mhrifysgol Friedrich Wilhelm, Berlin, ym 1915, roedd Scholem wedi ymddiddori'n drylwyr â gweithiau'r Cabala. Rhodd y gorau i'w wersi mathemateg bur wedi ychydig o dymhorau. Ym Mhrifysgol Friedrich Wilhelm, cyfarfu â nifer o'i gyfoedion blaenaf, gan gynnwys Martin Buber, Hayim Nahman Bialik, ac Ahad Ha'am, a magodd gyfeillgarwch agos â Leo Strauss a Walter Benjamin.

Aeth Scholem i sawl prifysgol arall, yn ôl yr arfer yn yr Almaen yr adeg honno, ac ym 1917, penderfynodd Scholem fyddai'n ymfudo i'r Tir Sanctaidd wedi iddo orffen ei addysg. Astudiodd resymeg fathemategol dan diwtoriaeth Gottlob Frege ym Mhrifysgol Jena, ym Mhrifysgol Bern yn y Swistir, ac ieithoedd Semitaidd ym Mhrifysgol Maximilian Ludwig ym München. Am ei draethawd estynedig, cyflwynodd gyfieithiad anodiadol o un o lyfrau hynaf y Cabala, Sefer ha-Bahir, a derbyniodd ei radd o Brifysgol Maximilian Ludwig yn Ionawr 1922. Cyhoeddwyd y gwaith hwnnw, Das Buch Bahir, yn Leipzig ym 1923.[1]

Gyrfa llyfrgell (1923–33)[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym Medi 1923, ymfudodd Scholem i Fandad Palesteina. Penodwyd yn llyfrgellydd yr adran Hebraeg yn llyfrgell Prifysgol Hebraeg Jeriwsalem, ac wrth ei swydd byddai'n casglu a chatalogio'r llawysgrifau Cabalaidd.

Gyrfa academaidd (1933–65)[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymunodd â chyfadran y Brifysgol Hebraeg ym 1925, a fe'i penodwyd yn athro cyfriniaeth Iddewig ym 1933. Gwasanaethodd yn ddeon y brifysgol o 1941 i 1943.

Ym 1946, pennodd iddo'r gwaith o achub ac adfer trysorau diwylliannol Iddewig wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Bu'n athro gwadd i sawl prifysgol yn Unol Daleithiau America, gan gynnwys Prifysgol Brown (1956–57). Derbyniodd radd er anrhydedd o Brifysgol Yale ym 1978.[2]

Diwedd ei oes (1965–82)[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymddeolodd Scholem ym 1965, a chafodd ei benodi'n athro emeritws. Gwasanaethodd yn llywydd Academi Gwyddorau a Dyniaethau Israel o 1968 i 1974.

Roedd yn aelod o Academi Americanaidd y Celfyddydau a'r Gwyddorau, Academi Americanaidd Ymchwil Iddewig, ac Academi Frenhinol yr Iseldiroedd.[2]

Bu farw yn Jeriwsalem ar 21 Chwefror 1982 yn 84 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) "Gershom Scholem" yn Stanford Encyclopedia of Philosophy (Prifysgol Stanford, 2013). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 31 Gorffennaf 2021.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) "Gershom Scholem, Professor Of Jewish Mysticism, Is Dead", The New York Times (22 Chwefror 1982). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 31 Gorffennaf 2021.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

Bywgraffiadau
  • David Baile, Gershom Scholem: Master of the Kabbalah (New Haven, Connecticut: Yale University Press, 2018).
  • Amir Engel, Gershom Scholem: An Intellectual Biography (Chicago: The University of Chicago Press, 2017).