Theodor Herzl

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Theodor Herzl
Theodor Herzl.jpg
Ganwyd בִּנְיָמִין זְאֵב הֶרְצֵל Edit this on Wikidata
2 Mai 1860 Edit this on Wikidata
Pla Edit this on Wikidata
Bu farw 3 Gorffennaf 1904 Edit this on Wikidata (44 oed)
Achos: Niwmonia Edit this on Wikidata
Reichenau an der Rax Edit this on Wikidata
Man preswyl Dibilingwe Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Ymerodraeth Awstria, Awstria-Hwngari Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth newyddiadurwr, Cyfreithiwr, Dramodydd Edit this on Wikidata
Priod Julie Naschauer Edit this on Wikidata
Perthnasau Stephen Norman Edit this on Wikidata
Gwobr/au Q31092475 Edit this on Wikidata
Llofnod
Theodore Herzl signature.svg

Roedd Theodor Herzl (Hebraeg: תאודור הרצל; Hwngareg: Herzl Tivadar; 2 Mai 18603 Gorffennaf 1904) yn ymgyrchydd, gweledydd, newyddiadurwr, awdur a chyfreithiwr Iddewig a aned yn Hwngari ond a ystyrir yn Awstriad. Gwelir ef fel tâd mudiad Seioniaeth gyfoes.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Herzl ar balconi Gwesty'r Trois Rois, Basel ar gyfer Cyngres Seinistiaid y Byd, 1901

Ganed Herzl yn Pest, sydd bellach yn rhan ddwyreiniol o ddinas o phrifddinas Hwngari, Budapest i deulu Iddewig Ashkenasi. Magwyd ef yn siarad Almaeneg ond nid Iddeweg. roedd yn gallu siarad Hwngareg hefyd. Mae'r stryd y ganwyd ef ynddi, Tabakgasse (yr enw swyddogol ar y pryd, ond yr enw Hwngareg Dohány utca wedyn) sydd bellach yn Amgueddfa Iddewig. Roedd y tŷ drws nesa i'r Synagog Fawr, sef y synagog fwyaf yn Ewrop.[1] Ar ôl cwblhau ei astudiaethau yn y Gymnasiwm Efengylaidd yn Budapest, ac wedi marwolaeth sydyn ei chwaer, Paula yn 1978, symudodd i ardal Fienna i astudio cyfraith a llenyddiaeth, gan gymryd ei doethuriaeth yn ôl y gyfraith yn 1884. Yn y Brifysgol roedd yn aelod o urdd genedlaetholgar geidwladol gyda'r arwyddair Ehre, Freiheit, Vaterland ("Anrhydedd, Rhyddid, Mamwlad"), yr Albia ond ymddiswyddodd mewn protest dros ei hagweddau gwrth-semitig. Serch hynny, roedd Herzl yn Germanoffil ac yn dymuno ei weld fel aelod o'r diwylliant Almaeneg ei hiaith a'i hagwedd. Ni roddai lawer o fri ac ystyriaeth i'w hunaniaeth Iddeweg.

Germaniffil[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n bwysig nodi bod Herzl yn Germanoffil cryf pan oedd yn wr ifanc ac yn dymuno ei weld fel aelod o'r diwylliant Almaeneg ei hiaith a'i hagwedd. Ni roddai lawer o fri ac ystyriaeth i'w hunaniaeth Iddeweg. Gwelai'r Almaenwyr fel y Kulturvolk (cenedl ddiwylliannol) flaenaf yng Nghanolbarth Ewrop[2] a cofloediodd y ddelfryd Almaenig o'r Bildung, lle byddai person, wrth ddarllen gweithiau a llenyddiaeth uchel fel Goethe a Shakespeare yn dod i werthfawrogi pethau prydferth bywyd a dod yn berson gwell yn foesol (hafalau y feddylfryd Bildung prydferchwch gyda daioni).[3] Trwy Bildung, credai (neu, efallai gobeithiau) Herzl y gallai Iddew Hwngareg fel efe, ddiosg ei "nodweddion Iddewig cywilyddus" a grwyd gan ganrifoedd o dlodi a gorthrwm, a dod yn pobl gwar Canol Ewropeaidd, yn wir Kulturvolk ar hyd llinellau'r Almaenwyr.[3]

Teulu Herzl[golygu | golygu cod y dudalen]

Herzl gyda'i blant; lladdodd dau o'r tri eu hunain a lladdwyd yr ifancaf mewn gwersyll angau Natsiaidd

Priododd Herzl â Julie Naschauer, Iddewes o deulu gyfoethog yn Fienna, ar 25 Mehefin 1889. Doedd eu priodas ddim yn un hapus, yn rannol oherwydd bod Herzl mor agos i'w fam, nad oedd yn hoff o Julie. Doedd gen i wraig fawr o ddiddordeb yn ei gennad wleidyddol.

Bu iddynt 3 o blant, Paula, Hans a Margaritha (Trude). Roedd Paula yn dioddef o isleder meddyliol ac yn gaeth i heroin. Bu farw yn 1930 yn 40 oed. Magwyd Hans fel cenedl-ddyn a bu'n ymgodymu gyda'i ffydd a'i hunaniaeth. Saethodd ei hun ar ddiwrnod angladd ei chwaer, Paula, roedd yn 39 oed yn marw. Lladdwyd Trude yn gwersyll angau Theresienstadt yn 1943. Hebryngwyd unig ddisgynydd Herzl, Stephan Theodor Neumann, mab Trude, i Loegr yn 1935 i ffoi rhag tŵf gwrth-semitiaeth yn Awstria. Newidiodd ei enw i Norman a bu'n ymladd gyda byddin Prydain yn yr Ail Ryfel Byd. Ymwelodd â Phalesteina ar ddiwedd 1945 a dechrau 1946 gan ysgrifennu am ei brofiad a gyda'r bwriad i ddychwelyd. Yn anffodus, oherwydd cymlethdodau teithio i Balesteina yn hwyrach yn 1946, yn ddiwaith, yn ddigroeso gan elfennau o heirachiaeth y mudiad Seionaidd a wela ef, efallai fel her iddynt, ac yn ddigalon o glywd hanes marwolaeth ei deulu yn y Rhyfel, lladdodd ei hun ar 26 Tachwedd 1946 drwy neidio oddi ar bont Massachusetts Avenue yn Washington, D.C.

Dreyfus[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1891 daeth Herzl yn ohebydd Paris o'r papur newydd Awstriaid, y Neue Freie Presse. Ym Mharis, dilynodd a gohebodd ar sgandal wledidyddol yr oes, Affair Dreyfus lle diarddelwyd milwr Iddewig o fyddin Ffrainc ar amheuaeth o ysbïo i'r Almaenwyr. Synwyd a brawychwyd Herzl gan y sylwadau a'r sarhâd gwrth-Semitaidd a daflwyd at Dreyfus gan rhannau o'r wasg, gwleidyddion, a chymdeithas Ffrainc. Doedd heb ddisgwyl y fath ymateb gan wlad 'gwâr' fel Ffrainc. Credir gan rai i Affair Dreyfus fod yn lai o ddylanwad ar Herzl ag y credwyd ar un adeg. Yn ôl rhai, roedd Herzl yn credu fod Dreyfus yn euog ond fod Herzl wedi ei ddychryn gan banllefain "marwolaeth i'r Iddewon" gan y torfeydd. Credir bod tŵf y gwleidydd gwrth-Semitaidd Karl Lueger yn Fienna yn 1895 effaith fwy arno, ac yn wir, ysgrifennodd ddrama Die Neues Ghetto ("Y Geto Newydd") ar y pwnc. Dylid cofio hefyd tua'r un cyfnod, gwelwyd progromau gwrth-Iddewig yn Rwsia lle lladdwyd ugeiniau o bobl a helwyd nifer mwy o'u cartrefi. Beth bynnag yr union wreichiogyn, gwelwyd dro pedol ym mywyd Herzl wrth iddo ystyried ei hunaniaeth a pha mor sydyn y gall cenedl-ddynion droi ar Iddewon. Daeth i gredu nad oedd modd i'r Iddewon ymdreiddio ac i gredu bod angen i'r Iddewon ymddihatru eu hunain oddi wrth Ewrop er mwyn byw'n rhydd.[4] O ganlyniad i hyn, dechreuodd grisialu syniadaeth a ddaeth yn Seioniaeth ac a oedd yn cyniwair ymysg rhai Iddewon eraill tua'r un adeg ac ychydig cyn hyn.[5]

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Seremoni ail-gladdu Herzl, ar Fryn Herzl, Jerwsalem, 1950
Bedd Herzl gyda'r arysgrifiad 'Herzl' mewn Hebraeg, iaith na ddysgodd erioed

Ym 1896 cyhoeddodd ei bamffled chwyldoradol, Der Judenstaat ("Y Wladwriaeth Iddewig"). Ynddo mae'n argymell ac yn rhoi canllaw ar sefydlu gwladwriaeth benodol i'r Iddewon er mwyn iddynt fyw a llewychu mewn heddwch. Crisialau ei syniad fod yr Iddewon yn genedl (nid yn dim ond yn grefydd) ac bod angen tiriogaeth arni fel pob cenedl arall er mwyn ffynnu yn rhydd fel cymdeithas a chrefydd ac yn rhydd o wrth-Semitiaeth. Ei obaith oedd y byddai llwydraethau Ewrop yn deall hyn hefyd ac yn gweld y syniad o Wladwriaeth Iddewig o fantais iddynt hwythau gan y byddai'n tynnu'r Iddewon allan o Ewrop yn tynnu ymaeth yr achos dros wrth-Semitiaeth. Roedd y llyfryn yn sbardun i sefydlu y mudiad gwleidyddol Seioniaeth yn 1897, a oedd yn ceisio arwain Wladwriaeth Iddewig.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl ei farwolaeth, claddwyd ei gorff nesaf i'w dad yn Döbling cyn cael ei drosglwyddo - yn unol â'i ddymuniadau ewyllysiol - ym 1950 yn Jerwsalem, lle cafodd ei gladdu ar fryn yn ei anrhydedd ei enw Bryn Herzl. Ar y daith ddiwethaf y Pâb Ffransis ag Israel, ymlweodd â bedd Herzl. Dyma'r tro cyntaf i unrhyw Bâb ymweld ag hi.

Seioniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ynghyd â Max Nordau, Herzl yw tad Seioniaeth a sylfaenydd y mudiad Seionaidd a ffurfiwyd yn y Gyngres enwog yn Basel ym 1897, lle cafodd ei ethol yn llywydd. Cefnogodd hawl yr Iddewon i sefydlu gwladwriaeth Iddewig, lle bynnag y bo'n bosibl ym Mhalestina. Dylai'r famwlad hwn groesawu'r Iddewon a oedd am symud yno neu na allent fyw'n heddychlon yn y wlad lle'r oeddent yn byw.

Camau a Champau Herzl[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfr Altneuland

Mewn cyfnod rhwng cyhoeddu Der Judenstaat ar ddechrau 1896 a'i farwolaeth yn 44 oed yn 1904, roedd Herzl yn ffigwr a ffwlcrwm i gyfnod rhyfeddol o deithio, gwleidydda, ysgrifennu a chyfarfodydd. Ac hynny yn dreth ar ei iechyd, ei deulu a'i gyfoeth. Credai Herzl ei fod yn holl bwysig i lwyddiant ei fenter ei fod yn cael cefnogaeth pwerau mawrion Ewrop. Credai hefyd fod cael ei weld yn trafod Gwladwriaeth Iddewig gyda brenhinoedd ac ymerodraethwyr yn dyrchafu'r fenter ym meddwl yr Iddewon eu hunain. Ceir amserlen bras o'i weithgaredd wleidyddol yma.[6]

1896, Mehefin - Yn Istanbwl, prifddinas Ymerodraeth yr Otomaniaid (oedd yn rheoli Palesteina ar y pryd), ceisiodd Herzl gwrdd gyda'r Ymerawdwr, y Swltan Abdulhamid II er mwyn pwyso ei achos dros i'r Iddewon gael gwladfa ym Mhalesteina, fel rhan o Ymerodraeth Twrci a gan addo talu dyledion yr Ymerodraeth a cynorthwyo gyda rhoi trefn ar y sefyllfa ariannol. Methodd â chwrdd â'r Swltan ond cafodd gyfarfod gyda nifer o bobl bwysig gan gynnwys y Vizier Fawr (Grand Vizier)[7]
1896, Gorffennaf - Traddodi araith o flaen miloedd o Iddewon yn Llundain (y rhan fwyaf yn newydd-ddyfodiad) a chwrdd gyda'r Order of Ancient Maccabeans. Y Maccabeans wedi bod yn oeraidd tuag ato ym mis Tachwedd 1895 ond teimladau twymach ato wedi cyhoeddi Der Judenstaat a chwrdd â'r Grand Vizier.
1897 - Sefydlu papur Seionistaidd, Die Welt o'i goffrau ei hun, yn Fienna.
1897, - Cynal Cyngres Seionistaeth y Byd (World Zionist Congress) yn Basle, Y Swistir (gwrthododd Iddewon München iddynt gwrdd yno rhan ofn llid gwrth-Semitiaid. Etholwyd ef yn Llywydd y Gyngres a daliodd y swydd honno hyd nes ei farwolaeth yn 1904.
1898, Hydref - Cwrdd â'r Keizer Wilhem II ym Mhalesteina.[8] Dyma oedd ymweliad gyntaf Herzl â Phalesteina. Trefnodd yr ymweliad i gyd-fynd gyda'r Kaizer a bu i'r ddau gwrdd ddwy waith. Gobeithiau Herzl y gallai'r Kaizer gynorthwyo i greu Gwladfa ym Mhalesteina.
1898 - mis Mai cyhoeddi The Jewish State yn Saesneg.
1899 - Mynychu Confensiwn yr Hâg, cynhadledd rynglwadol a drefnwyd i geisio delio â materion rhyngwladol mewn ffordd heddychlon. Lobïodd dros hawliau'r Iddewon i wladwriaeth.
1901, Mai - Cyfarfu Herzl â'r Swltan Abdulhamid II, ond gwrthododd y Swltan gynnig Herzl i roi siarter i'r Iddewon ymsefydlu ym Mhalesteina mewn tâl am yr Iddewon yn ad-drefnu ei ddyled.[9]
1902–03 - Rhoddodd dystiolaeth i Gomiwiswn Brenhinol Brydeinig ar 'Mudo Tramorwyr' (Alien Immigration). Daeth i gyswllt achos gyda Joseph Chamberlain, Ysgrifennydd Gwladol y Trefedigaethau, a oedd wedi negodi gyda Llywodraeth yr Aifft i gael siarter i sefydlu gwladfa i'r Iddewon yn Al 'Arish ar benrhyn y Sinai, yn ffinio â de Palesteina.
1902 - Cyhoeddi Altneuland ei nofel dyfodoliaeth ar wladwriaeth Iddewig. Cyfieithwyd y nofel i'r Hebraeg fel 'Tel Aviv' - sail yr enw ar 'y ddinas Hebraeg Gyntaf'
1903 - Ceisiodd Herzl ennill cefnogaeth y Pâb Piws X i'r syniad o wladwriaeth Iddewig. Gan nodi byddai Palesteina yn cynnig lloches saff i'r Iddewon oedd yn dianc rhag pogromau a gorchrwm yn Rwsia. Atebodd cennad y Pâb, y Cardinal Rafael Merry del Val na allai'r Eglwys Gatholig wneud penderfyniad o blaid yr Iddewon tra bod yr Iddewon yn gwadu mai Iesu Grist oedd y Messeia.
1903, Awst - Codwyd y posibilrwydd o greu Gwladfa Iddewig yn Uganda ger bron Cyngres y WZO yn Basel yn Awst 1903. Dadleuodd Herzl o blaid rhinwedd y cais gan ei fod yn well na dim Gwladfa. Ond diflannodd unrhyw frwdfrydedd a cehfnogaeth i'r syniad gyda marwolaeth Herzl ei hun a cymerwyd oddi ar agenda Cyngres y WZO yn 1905.

Diwrnod Herzl[golygu | golygu cod y dudalen]

Dethlir Diwrnod Herzl (Hebraeg: יום הרצל) fel gwyliau cenedlaethol o gyflwr Israel. Mae'n disgyn ar y degfed dydd o'r mis Hebraeg Iyar (gall fod rhywbryd rhwng Ebrill a Mehefin), i goffáu bywyd a meddwl am yr arweinydd Seionaidd.[1]

Manau sy'n Anrhydeddu Herzl[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Israel - dinas Herzliya. Strydoedd mewn sawl lleoliad: Rehovot, Rishon LeZion, Guedera, Kiryat-Malakhi, Be'er Ya'akov, Ma'alot-Tarshiha, Netanya, Jerwsalem, Tel Aviv-Jaffa, Tirat Carmel
  • Jerwsalem - ail-gladdwyd ef mewn bedd anrhydeddus ar Fynydd Herzl
  • Ewrop - ceir enwau strydoedd mewn sawl dinas: Basel, Budapest, Edlach an der Rax (Awstria), Fiena
  • Paris - enwyd Place Theodor Herzl ar 5 Gorffennaf 2006. Mae yn y 3ydd Arrondissement ar gyffordd ffyrdd Turbigo Reaumur.

Herzl a Chymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu i Herzl wneud ymweliad byr iawn â Chaerdydd yn 25 Tachwedd 1895 i ymlwed â Colonel A. E. W. Goldsmid,[10] sefydlydd y Jewish Lads’ Brigade, y Maccabaeans. a phennaeth Chofefei Tzion ym Mhrydain ac Iwerddon a oedd wedi symud i Gaerdydd yn 1894 i fod yn uchel-swyddog yn y Fyddin Brydeinig. Cymerodd Goldsmid ran yn yr alldaith i Al 'Arish.[11] ac aeth hefyd cyn hynny i weld ymdrechion gwladychu Iddewig yn yr Ariannin ac yna Palesteina. Roedd Herzl yng Nghaerdydd fel rhan o daith hwy gan ymweld ag Iddewon y ddinas am un noson. Arohosodd Herzl yn nhŷ Goldsmid, The Elms.[12]

Dewisiodd David Lloyd George fel gyfreithiwr, i ddelio â'r gwaith o sicrhau tiriogaeth i'r Iddewon yn Al 'Arish, Sinai yn ystod ei drafodaethau gyda Llywodreth Prydain yn 1903. Dyddirol nodi i Lloyd George fod yn Brif Weinidog Cymru pan trosglwyddwyd Palesteina i feddiant Prydain ac yn 'Gartrefwlad i'r Iddewon' yn 1917.

Llyfryddiaeth Herzl[golygu | golygu cod y dudalen]

Clawr Der Judenstaat

Yn ychwanegol i'r llyfryddiaeth eang, dylid cofio i Herzl gyfrannu cannoedd o erthyglau i'r wasg.

Llyfrau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dramâu[golygu | golygu cod y dudalen]

    • Kompagniearbeit, comedi mewn un act, Fienna 1880
    • Die Causa Hirschkorn, comedi mewn un act, Cienna 1882
    • Tabarin, comedi mewn un act, Fienna 1884
    • Muttersöhnchen, mewn pedair act, Fienna 1885 (Later: "Austoben" by H. Jungmann)
    • Seine Hoheit, comedi mewn tair act, Vienna 1885
    • Der Flüchtling, comedi mewn un act, Vienna 1887
    • Wilddiebe, comedi mewn pedair act, mewn cyd-awduraeth â H. Wittmann, Fienna 1888
    • Was wird man sagen?, comedi mewn pedair act, Fienna 1890
    • Die Dame in Schwarz, comedi mewn pedair act, mewn cyd-awduraeth â H. Wittmann, Fienna 1890
    • Prinzen aus Genieland, comedi mewn pedair act, Fienna 1891
    • Die Glosse, comedi mewn un act, Fienna 1895
    • Das Neue Ghetto, drama mewn pedair act, Fienna 1898. Unig ddrama Herzl sy'n cynnwys cymeriadau Iddewig.[13] Cyfieithwyd fel The New Ghetto gan Heinz Norden, Efrog Newydd 1955
    • Unser Kätchen, comedyi mewn pedair act, Fienna 1899
    • Gretel, comedi mewn pedair act, Fienna 1899
    • I love you, comedi mewn un act, Fienna 1900
    • Solon in Lydien, drama mewn tair act, Fienna 1905
  • Eraill

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. https://web.archive.org/web/20140824034128/http://jewish.hu/view.php?clabel=herzl_tivadar
  2. Elon, Amos (1975). Herzl, p. 23, New York: Holt, Rinehart and Winston. ISBN 978-0-03-013126-4.
  3. 3.0 3.1 Buruma, Ian Anglomania: A European Love Affair, New York: Vintage Books, 1998 page 180.
  4. Rubenstein, Richard L., and Roth, John K. (2003). Approaches to Auschwitz: The Holocaust and Its Legacy, p. 94. Louisville. Kentucky: Westminster John Knox Press. ISBN 0-664-22353-2.
  5. Shlomo Avineri, Theodor Herzl's Diaries as a Bildungsroman, Jewish Social Studies, New Series, Vol. 5, No. 3 (Spring - Summer, 1999), pp. 1-46.
  6. http://www.jewishagency.org/herzl/content/24756
  7. http://www.jewishagency.org/herzl/content/24756
  8. http://www.shapell.org/manuscript/theodor-herzl-in-jerusalem-on-the-move-to-create-a-state
  9. http://www.jewishagency.org/herzl/content/24756
  10. http://www.jewishmag.com/140mag/daniel_deronda/daniel_deronda.htm
  11. http://cardiffshul.org/history/
  12. http://www.jewishmag.com/140mag/daniel_deronda/daniel_deronda.htm
  13. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref' Balsam