Der Judenstaat

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Clawr Der Judenstaat

Llun enwog Herzl ar lan gwesty'r Trois Roi yn Basel ar gyfer 5ed Cyngres Byd-eang y Seionistiaid, 1901

Pamffled wleidyddol, chwyldroadol oedd Der Judenstaat (Almaeneg: yn llythrennol "Gwladwriaeth yr Iddewon"; Saesneg: The Jews' State) [1] ond cyfieithir fel rheol fel "Y Wladwriaeth Iddewig" (Saesneg: The Jewish State) [2] a ysgrifennwyd gan Theodor Herzl.

Cyhoeddwyd Der Judenstaat yn 1896 yn Fienna a Leipzig gan M. Breitenstein's Verlags-Buchhandlung. Isdeitlir y pamffled yn "Versuch einer modernen Lösung der Judenfrage" ("Cynnig ar ddatrysiad gyfoes i'r cwestiwn Iddewig"). Bwriadwyd y teitl "Annerchiad i'r Rothschilds", gan gyfeirio at y tylwyth bancio arch-gyfoethog,[3] yr oedd Herzl yn bwriadu cyflwyno'r araith i'w sylw. Gwrthododd Barwn Edmond de Rothschild gynllun Herzl, gan ofni y gallai fygwth Iddewon yn y Diaspora. Pryderai hefyd y gallai hefyd beryglu ei aneddiadau ei hun ym Mhalesteina.[4]

Ystyrir y llyfryn yn un o destunnau pwysicaf y mudiad Seionaeth. Ynddo mae Herzl yn darlunio sefydlu gwladwriaeth Iddewig annibynnol yn ystod y 20g. Mae'n dadlau (gydag un llygad ar ddarllenwyr a chefnogwyr posib ymhlith cenedl-ddynion a'r llall ar yr Iddewon eu hunain) mai sefydlu gwladwriaeth Iddewig fyddai'r ffordd mwyaf effeithiol o osgoi gwrth-semitiaeth. Mae'r llyfryn yn annog Iddewon i brynu tir ym Mhalesteina, oedd yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid ar y pryd. Gydag adlais rhyfedd o ddyheadau Cymry cenedlaetholgar fel Michael D. Jones a'r Wladfa, ystyriwyd sefydlu gwladwriaeth Iddewig yn yr Ariannin hefyd, a gan Herzl yn Uganda hefyd rai blynyddoedd yn ddiweddarach.

Poblogeiddiodd Herzl y term "Seioniaeth", a fathwyd gan Nathan Birnbaum.[5] Bu breuddwyd Herzl o greu Gwladwrieth Iddewig yn llwyddiant rhyfeddol pan grewyd Israel annibynnol yn 1948, cwta hanner can mlynedd yn ddiweddarach - llawer cynt na'r rhelyw o fudiadau cenedlaetholaidd eraill Ewrop megis Cymru.

Cyd-destun[golygu | golygu cod y dudalen]

Herzl 1904, blwyddyn ei farwolaeth

Roedd Theadore Herzl yn Iddew seciwlar a anwyd yn Budapest ac a oedd wedi ei gymathu, ac yn hapus i gael ei gymathu i fywyd dosbarth canol Almaeneg ei hiaith. Siaradai Ffrangeg ac wrth adrodd ar y Affair Dreyfus pan cyhuddwyd Iddew o filwr Ffrengig ar gam, synwyd Herzl gan rym teimladau gwrth-semitiaeth mewn gwlad ddatblygiedig, soffistigedig, 'gwâr' fel Ffrainc. Daeth Herzl i'r casgliad nad oedd unlle'n saff i'r Iddewon. Ei ateb oedd iddynt greu gwladwriaeth eu hunain. Credai y byddai hynny'n tynnu'r esgus o wrth-semitiaeth oddi ar agenda wleidyddol a chymdeithasol yng ngwledydd Ewrop (gan na fyddai Iddewon ar ôl yno) ac y byddai'r weithred o gael gwladwrieth eu hunain gyda thir eu hunain yn gwneud yr Iddewon yn genedl gryfach yn eu golwg hwy a'u cenedl-ddynion.

Dywed, yn y fersiwn Saesneg:

"The Jewish question persists wherever Jews live in appreciable numbers. Wherever it does not exist, it is brought in together with Jewish immigrants. We are naturally drawn :into those places where we are not persecuted, and our appearance there gives rise to persecution. This is the case, and will inevitably be so, everywhere, even in highly civilised :countries—see, for instance, France—so long as the Jewish question is not solved on the political level."[6]

Mewn casgliad, dywed y llyfr:

Therefore I believe that a wondrous generation of Jews will spring into existence. The Maccabeans will rise again.

Let me repeat once more my opening words: The Jews who wish for a State will have it.

We shall live at last as free men on our own soil, and die peacefully in our own homes.

The world will be freed by our liberty, enriched by our wealth, magnified by our greatness.

And whatever we attempt there to accomplish for our own welfare, will react powerfully and beneficially for the good of humanity.

Prif Bwyntiau'r Pamffled[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Mae Herzl yn trafod mewn peth manylder sut fyddai sefydlu gwladfa yn yr Ariannin neu Balesteina. Mae'n dweud fod angen creu Cwmni Iddewig er mwyn prynu tir i sefydlu'r wladfa. Amcangyfrifodd swm o 1 biliwn Mark Aur. Mae hefyd yn sôn am adeiladu tai gweithwyr, cyflwyno gwasanaethau llafur i weithwyr di-grefft, a manylion megis cyflwyno'r diwrnod gwaith 7 awr o hyd, teulu a hyfforddiant yn ail.[7] Dylai'r "heddlu diogelu" fod yn 10 y cant o fewnfudwyr gwrywaidd.
  • Ar ôl delio â'r llwybr anodd o godi arian, mae Herzl yn disgrifio cymeriad y wladwriaeth Iddewig. Mae'n rhagamcanu strwythur eithaf heterogenaidd, lle dylai pawb allu cymryd traddodiadau ac arferion ei grŵp lleol gydag ef. Mae hyn hefyd yn gwneud y broblem o integreiddio yn amgylchedd anghyfarwydd yn haws i'w gyflawni.
  • Cyfansoddiad. Yn ôl Herzl, dylai cyfansoddiad y wladwriaeth fod yn eithaf hyblyg a modern. Credai mai'r frenhiniaeth seneddol neu weriniaeth aristocrataidd oedd y mathau gorau o lywodraeth, ond mae'n cydnabod bod diffyg brenhiniaeth Iddewig yn nacáu hyn. Yn ei farn ef, math o aristocratiaeth oedd yr ateb gorau yn y gymdeithas symudol gymdeithasol gyda llawer o gyfleoedd i bobl symud ymlaen mewn cymdeithas. Roedd yn erbyn Refferendwm fel sail y ddeddfwriaeth gan ddweud, "because in politics there are no simple questions that can only be answered with yes and no. And the masses are even worse than the parliaments, subject to any erroneous beliefs, inclined towards every strong crier. Before the assembled people can do neither external nor internal policy."[8]
  • Iaith. Delia Herzl gyda'r her fod yr Iddewon yn y Diaspora yn siarad dwsinnau o ieithoedd gwahanol. Efallai, nad yw'n syndod i Herzl fel Germnanoffil gynnig mai Almaeneg fyddai iaith y Wladwriaeth Iddewig gan nodi mai dyna oedd iaith nifer fawr o'r Iddewon a'r ffaith fod Iddeweg yn chwaer iaith iddi. Noda y gallai'r Almaeneg fod yn brif iaith y wladwriaeth yn gynt ac yn llai trafferthus nag ieithoedd eraill. Diystyra ymdrechiodd adferwyr yr iaith Hebraeg megis Eliezer Ben-Yehuda i wneud yr iaith yn iaith y Wladwriaeth Iddewig. Dywedodd; "Ni allwn siarad Hebraeg gyda'i gilydd. Pwy ohonom sy'n gwybod digon o Hebraeg i ofyn am docyn trên yn yr iaith honno?"
  • Crefydd. Cymerodd Herzl farn glir ar greu gwladwriaeth secilar gyda gwahaniad clir rhwng crefydd a "Felly, fe gymerodd Herzl sefyllfa seciwlar ar y pwynt hwn, gyda gwahaniad llym o grefydd a'r wladwriaeth.[9]
  • Baner. Nododd Herzl hyd yn oed fanylion y faner. Cynigiodd baner wen gyda saith seren aur arno i gynrychioli'r saith diwrnod waith. (gyda'r dyluniad yma roedd Herzl yn torri Rheol Tintur, er, gellid nodi fod baner Caersalem yn gwneud hynny hefyd.

Palesteina[golygu | golygu cod y dudalen]

Doedd Herzl ddim o'r farn fod yn rhaid i'r Wladwriaeth Iddewig fod ym Mhalesteina. Yn Der Judenstaat mae'n cynnig yr Ariannin ac yn hwyrach ymlaen roedd yn blediol dros Uganda fel lleoliad y Wladfa.

Yn Der Judenstaat mae'n datgan dau farn wahanol mewn cyd-destun ac agwedd i'r Arabiaid brodorol petai'r Wladfa i'w sefydlu yno. Noda'n optimistaidd, wrth drafod yr Andersnatiotsionale (gall gyfeirio at bobl frodorol, boed yn Arabaniaid neu'n Indiaid brodorol).

Mae'n nodi o ganlyniad i fewnfudo torfol o Iddewon i wlad Arabaidd fe all problemau gyda'r boblogaeth leol, Arabaidd, godi. Ond mae'n ceisio anwybyddu'r broblem yn fwy na dim. Er mwyn byw gyda phobl a chrefyddau eraill, mae Herzl yn nodi: "Os ddigwydd iddi fod y bydd yna genhedloedd eraill o wahanol grêd yn byw yn ein plith, yna byddwn yn rhoi iddynt amddiffyniad anrhydeddus a'r cydraddoldeb cyfreithiol."[10]

Ond, mewn man arall yn y llyfr, dydy Herzl ddim mor naïf. Mae'n gwrthwynebu mudiadau sydd heb gefnogaeth yr awdudodau Otomanaidd, i hyrwyddo Iddewon i ymsefydlu ym Mhalesteina. Gan ddyfynu, "important experiments in colonization have been made, though on the mistaken principle of a gradual infiltration of Jews. An infiltration is bound to end badly. It continues till the inevitable moment when the native population feels itself threatened, and forces the government to stop a further influx of Jews. Immigration is consequently futile unless we have the sovereign right to continue such immigration," (o fersiwn Saesneg 1896, tudalen 95).

I'r perwyl hynny, roedd Herzl yn Der Judenstaat ac yn ei weithredu gwleidyddol ac ymarferol dros Seioniaeth yn canolbwyntio ei ymdrechion ar ennill hawl a chydweithrediad gyfreithiol a stadudol gan awdurdodau Ymerodraeth yr Otomaniaid ym Mhalesteina.

Altneuland[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwaith fawr boblogaidd arall Herzl oedd ei nofel iwtopaidd, Altneuland. Mae'n noferl dyfodoliaeth, sy'n ceisio darlunio mewn ffordd mwy meddal a phoblgaidd yr angen am wladwriaeth Iddewig. Mae'r llyfr yn sail ar gyfer nofel Wythnos yng Nghymru Fydd gan Islwyn Ffowc Elis. Chwaraeir ar ystyr y teitl, 'Hen Wlad Newydd' yn llyfr Judith Maro, Iddewes a symudodd i Gymru yn 1947 wedi bod yn rhan o frwydr annibyniaeth y wlad. Yno maen'n cynnig awgrymiadau ar adeiladu y mudiad cenedlaethol yng Nghymru ar sail llwyddiant yr Iddewon yn Israel.[11]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Sachar, Howard (2007) [1976]. History of Israel: From the Rise of Zionism to Our Time (3 republication ed.). New York: Random House. p. 39. ISBN 978-0-375-71132-9. 
  2. Overberg, Henk (2012) [1997]. The Jews' State - A Critical English Translation (1 ed.). Plymouth, UK: Rowman & Littlefield. p. 3. ISBN 978-0765759733. 
  3. Herzl, Theodor (1988) [1896]. "Biography, by Alex Bein". Der Judenstaat [The Jewish state]. transl. Sylvie d'Avigdor (republication ed.). New York: Courier Dover. p. 40. ISBN 978-0-486-25849-2. Adalwyd 2010-09-28. 
  4. Pasachoff, Naomi (October 1992). Great Jewish Thinkers: Their Lives and Work. Behrman House. p. 97. ISBN 0874415292. Adalwyd 2 January 2016.  Check date values in: |access-date=, |date= (help)
  5. Harper, Douglas. "Zionism". Online Etymology Dictionary. http://www.etymonline.com/?term=Zionism.
  6. Herzl, Der Judenstaat, cited by C.D. Smith, Israel and the Arab-:Israeli Conflict, 2001, 4th ed., p. 53
  7. https://en.wikisource.org/wiki/The_Jewish_State_(1896_translation)/The_Jewish_Company
  8. https://en.wikisource.org/wiki/The_Jewish_State_(1896_translation)/Society_of_Jews_and_Jewish_State
  9. https://en.wikisource.org/wiki/The_Jewish_State_(1896_translation)/Society_of_Jews_and_Jewish_State
  10. https://en.wikisource.org/wiki/The_Jewish_State_(1896_translation)/Society_of_Jews_and_Jewish_State
  11. https://www.independent.co.uk/news/obituaries/judith-maro-writer-and-jewish-patriot-who-fought-with-haganah-in-palestine-6272185.html