Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1997
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pob un o'r 659 sedd yn y Tŷ Cyffredin. | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Nifer a bleidleisiodd | 71.3% | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Mae'r lliwiau'n dynodi'r pleidiau llwyddiannus. Ni chynhwyswyd Gogledd Iwerddon * Newidiwyd y ffiniau ^ Nid yw'r rhifau yma'n cynnwys Y Llefarydd | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Cynhaliwyd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1997 ar 1 Mai 1997. Canlyniad yr etholiad oedd newid llywodraeth am y tro cyntaf ers deunaw mlynedd, gyda'r Blaid Lafur dan arweiniad Tony Blair yn ennill mwyafrif mawr dros y Blaid Geidwadol dan arweiniad John Major. Enillodd Llafur 66% o'r seddau yn Nhy'r Cyffredin, gyda mwyafrif o 179, eu mwyafrif mwyaf erioed. Collodd y Ceidwadwyr bob sedd oedd ganddynt tu allan i Loegr, ac roedd eu cyfanswm o seddau yr isaf ers dyddiau Dug Wellington. Collodd nifer o wleidyddion amlwg y blaid eu seddau, yn cynnwys Michael Portillo, Malcolm Rifkind, Michael Forsyth, William Waldegrave, Edwina Currie, Norman Lamont a David Mellor. Enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol y nifer uchaf o seddau iddynt hwy neu'r Rhyddfrydwr eu hennill ers dyddiau David Lloyd George.
Yng Nghymru cadwodd Plaid Cymru eu gafael ar eu pedair sedd, tra gadawyd y Ceidwadwyr heb unrhyw sedd yng Nghymru. Yn yr Alban enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban dair sedd i ddyblu eu nifer o seddau i 6. Pleidleisiodd 31,286,284 (71.2%).
Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1997 | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Plaid | Seddi | Etholiadau | % | |||||