Edwina Currie
Edwina Currie | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 13 Hydref 1946 ![]() Lerpwl ![]() |
Man preswyl | Whaley Bridge ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, nofelydd, dyddiadurwr, ysgrifennwr ![]() |
Swydd | Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU ![]() |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol ![]() |
Priod | Ray Currie, John Jones ![]() |
Gwefan | http://www.edwinacurrie.co.uk/ ![]() |
Cyn-Aelod Seneddol Seisnig ydy Edwina Currie (ganwyd Edwina Cohen; 13 Hydref 1946). Fe'i hetholwyd fel Aelod Seneddol Y Blaid Geidwadol ym 1983. Bu'n Weinidog Iechyd Ieuaf am ddwy flynedd, cyn ymddiswyddo ym 1988 oherwydd anghydfod ynglŷn â salmonela mewn ŵy. Erbyn i Currie golli ei sedd seneddol ym 1997, roedd hi wedi dechrau ar yrfa newydd fel nofelydd a darlledwraig.
Bywyd personol[golygu | golygu cod]
Ar 1 Gorffennaf 1972, priododd Ray Currie, cyfrifydd, yn Barnstaple, Dyfnaint. Roedd Edwina a Ray yn destun rhaglen ddogfen ar y BBC yng nghyfres The Other Half a ddarlledwyd ym mis Mawrth 1984. Cawsant ddau blentyn. Ysgarodd y cwpl yn 1997. Yn ystod y briodas cafodd Currie garwriaeth gyda John Major, a fyddai ddiweddarach yn Brif Weinidog. Datgelwyd hyn gan Currie ym mis Medi 2002.
Ar 24 Mai 2001 yn Southwark priododd John Jones, ditectif wedi ymddeol a gyfarfu ar ei rhaglen radio yn 1999.[1] Mae'n byw yn Whaley Bridge, Swydd Derby.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Frequently asked questions Archifwyd 14 November 2006 yn y Peiriant Wayback., Edwina Currie's official website, 1 September 2004. Retrieved 11 March 2007.
- ↑ "Whaley Bridge's Edwina sparks more controversy". Buxton Advertiser. 28 February 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 April 2014. Cyrchwyd 27 April 2014.
- Egin Saeson
- Aelodau Seneddol y Deyrnas Unedig
- Cyn-fyfyrwyr Coleg y Santes Ann, Rhydychen
- Genedigaethau 1946
- Gwleidyddion Seisnig yr 20fed ganrif
- Llenorion Seisnig yr 20fed ganrif
- Llenorion Seisnig yr 21ain ganrif
- Merched yr 20fed ganrif
- Merched yr 21ain ganrif
- Nofelwyr Saesneg
- Nofelwyr Seisnig
- Pobl o Lerpwl
- Saeson Iddewig