Esclusham

Oddi ar Wicipedia
Esclusham
Mathcymuned Edit this on Wikidata
LL-Q9309 (cym)-Jason.nlw-Esclus.wav Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,515 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,658.07 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0338°N 3.0669°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000225 Edit this on Wikidata
Map
Mynydd Esclus, Esclus

Cymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam yw Esclusham,[1] (neu Esclys). Saif i'r de-orllewin o dref Wrecsam, ac mae'n cynnwys pentrefi Y Bers a Rhostyllen. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 3,401.

Ardal lofaol oedd rhan o'r gymuned, a saif hen lofa'r Bers ger Rhostyllen. Mae'r gymuned yn cynnwys Croes Foel, lle'r oedd gefail y gofaint enwog, y brodyr Davies. Ceir Amlosgfa Wrecsam yn y gymuned, ar safle hen Neuadd Pentrebychan, sydd wedi ei dymchwel. Dymchwelwyd Plas Cadwgan, oedd yn dyddio o'r 14g, hefyd, a Plas Gronw, hen gartref Elihu Yale. Ceir rhan o Glawdd Offa yn y gymuned.

Pwynt uchaf y gymuned yw Mynydd Esclus, sy'n rhan o Waun Rhiwabon.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Esclusham (pob oed) (3,515)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Esclusham) (470)
  
13.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Esclusham) (2681)
  
76.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Esclusham) (474)
  
32.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Defnyddir sillafiad safonol Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd 2008; tud 549
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]