Eratosthenes

Oddi ar Wicipedia
Eratosthenes
GanwydἘρατοσθένης Edit this on Wikidata
276 CC Edit this on Wikidata
Cyrene, Apollonia Edit this on Wikidata
Bu farwAlexandria Edit this on Wikidata
Galwedigaethmathemategydd, seryddwr, bardd, llyfrgellydd, hanesydd, ysgrifennwr, cerddolegydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, daearyddwr, marwnadwr, athronydd Edit this on Wikidata
Swyddpennaeth Llyfrgell Alexandria Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amsieve of Eratosthenes, Catasterismi Edit this on Wikidata

Ysgolhaig ac athronydd Groegaidd amryddawn (fl. 275 CC - 195 CC efallai), yn enedigol o ddinas Cyrene, ar arfordir Gwlff Sidra (Syrtes) yn Libya, Gogledd Affrica.

Bywyd[golygu | golygu cod]

Dechreuodd ei addysg yn ei ddinas enedigol cyn symud i Athen i astudio athroniaeth. Rhoddodd ei ddarlith gyntaf ar athroniaeth yno. Yn 247 CC fe'i gwahoddwyd i Alecsandria gan Ptolemi III Euergetes i gymryd drosodd fel llyfrgellydd yn lle Callimachus yn llyfrgell enwog y ddinas; yr ail yn unig i ddal y swydd honno. Mesurodd gylchedd y Ddaear a gradd yr ecliptig. Dywedir iddo farw o wrthod cymryd bwyd yn 195 CC, gan fod ei lygaid yn dechrau methu ac nid oedd yn medru parhau â'i waith.

Gwaith[golygu | golygu cod]

Roedd yn feistr ar bron pob cangen o wyddoniaeth a dysg yr Hen Fyd, gan gynnwys hanes, daearyddiaeth, geometreg, seryddiaeth, athroniaeth, gramadeg a barddoniaeth. Oherwydd y doniau hyn enillodd iddo ei hun y teitl Pentathlos "Meistr ar y Pum Camp" (anrhydedd a roddid fel rheol i athletwyr penigamp). Dywedir hefyd ei fod y cyntaf i ymarddel yr enw Philologos "Cyfaill Dysg (neu Wybodaeth)". Gellid dweud mai Eratosthenes yw sefydlwr daearyddiaeth wyddonol (mawr oedd dyled Strabo, yr enwocaf o ddaearyddwyr y byd clasurol, iddo). Ei gyfrolau pwysicaf yw:

  • Y Geographica (3 llyfr). Ffynhonnell bwysig yng ngwaith Strabo. Nid oes testun ohono wedi goroesi.
  • Y Chronographia. Llyfr sy'n ceisio defnyddio seryddiaeth a mathemateg i sefydlu cronoleg hanes.
  • Llyfr ar Yr Hen Gomedi Roeg.
  • Y Catalogoi. Cymysgedd o seryddiaeth a chwedloniaeth. Casgliad o'r hen chwedlau yn ymwneud â'r sêr oedd yn cael ei dilyn gan restr o'r sêr unigol yn y cytserau cysylltiedig. Mae'r Catasterismoi, sy'n rhestru 44 cytser a 475 o sêr, ynghyd â chwedlau, wedi goroesi ac yn seiliedig ar waith Eratosthenes.
  • Hermes. Arwrgerdd.
  • Erigone. Telyneg (elegy) enwog yn ei dydd.

Drylliau yn unig o hynny oll sydd wedi goroesi, y rhan fwyaf mewn dyfyniadau a chyfeiriadau gan ysgrifenwyr clasurol diweddarach.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities, gyda ychwanegiadau gan H. Nettleship a J.E. Sandys (Llundain, 1902).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • Geodedd: cangen o fathemateg gymhwysol