Cyrene
Jump to navigation
Jump to search
![]() | |
Math | Greek colony, safle archaeolegol, Municipalities of Libya, emporia, polis ![]() |
---|---|
Sefydlwyd |
|
Cylchfa amser | UTC+2 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Libia ![]() |
Arwynebedd | 131.675 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 32.8167°N 21.85°E ![]() |
Cadwyn fynydd | Jebel Akhdar ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd ![]() |
Manylion | |
Dinas o'r cyfnod clasurol yw Cyrene, yn hen dalaith Cyrenaica, ger arfordir Gwlff Sirta (Sirtes) yn Libia.
Yn ôl traddodiad fe'i sefydlwyd gan y brenin Battus yn 630CC. Mae'r enw, fel enw'r dalaith, yn dod o'r dduwies Cyrene fam Aristæus, ei mab gan Apollo. Roedd yn ddinas enwog yn yr Hen Fyd, wedi'i lleoli yng nghanol gwastadedd atyniadol tua 11 milltir o'r Môr Canoldir. Cyrene oedd prifddinas y Pentapolis ("Y Pump Dinas"), ardal bwysicaf y dalaith. Cafodd nifer o wŷr enwog eu geni yno, yn eu plith y bardd ac ysgolhaig Callimachus (m. c.240CC), y polymath Eratosthenes (275CC-195CC), Anniceris, Carneades ac Aristippus. Daeth dan reolaeth y Rhufeiniaid yn 97CC.
Mae safle Cyrene ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd.
ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]
- J. Lempriere, A Classical Dictionary (London, d.d.)
- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities, gyda ychwanegiadau gan H. Nettleship a J.E. Sandys (Llundain, 1902).