Geodedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hen golofn geodetig a wnaed yn 1855; Ostend, Gwlad Belg.

Cangen o mathemateg gymhwysol yw geodedd (Saesneg: Geodesy, geodetics) a gwyddorau daear. Mae'n ddisgyblaeth sy'n delio gyda mesur a chynrychioli'r Ddaear (neu unrhyw blaned arall) yn weledol, ar ffurf map, siart neu graffiau; mae hyn yn cynnwys meysydd disgyrchiant y blaned mewn gofod 3-dimensiwn, ble mae amser yn newid. Mae hefyd yn astudiaeth o ffenomenâu megis symudiadau crwst y Ddaear, llanw a thrai a symudiad y pegynnau magnetig ac i gyflawni hyn mae'r gwyddonydd (neu'r geodeddwr) yn cynllunio rhywdwaith rheoli byd-eang drwy ddefnyddio'r awyr a'r tir.[1]

Diffiniad[golygu | golygu cod y dudalen]

Daw'r term o'r gair Groeg geodaisia (yn llythrennol: "rhaniad y Ddaear") — ac mae'n ymwneud yn bennaf â lleoliad o fewn meysydd disgyrchiant o fewn amser sy'n amrywi. Rhennir y maes gan yr Almaenwyr yn ddau: "Geodedd Uwch" ("Erdmessung" neu "höhere Geodäsie"), sy'n ymwneud â mesur y Ddaear ar raddfa byd-eang, a "Geodedd Ymarferol" neu "Geodedd Peiriannol" ("Ingenieurgeodäsie"), sy'n ymwneud â mesur rhannau llai a mwy lleol o'r Ddaear, gan gynnwys tirfesur.

Geodeddwyr cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]