Pythagoras
Gwedd
Pythagoras | |
---|---|
Ganwyd | Πυθαγόρας Samos |
Bu farw | Metapontum |
Man preswyl | Crotone |
Dinasyddiaeth | Samos |
Galwedigaeth | mathemategydd, athronydd, gwleidydd, llenor, cerddolegydd, damcaniaethwr cerddoriaeth |
Adnabyddus am | theorem Pythagoras, triawdau Pythagoraidd, Platonic solid |
Prif ddylanwad | Pherecydes of Syros, Anaximandros, Thales, Zarathustra |
Mudiad | Pythagoreanism, athroniaeth y Gorllewin |
Tad | Mnesarchus |
Priod | Theano |
Plant | Mnesarchus, Myia, Damo, Telauges, Arignote |
Athronydd a mathemategwr Groegaidd enwog oedd Pythagoras (582 CC - 496 CC), a aned yn Samos.
Roedd gan Pythagoras ddiddordeb mewn seryddiaeth, cerddoriaeth (darganfu ef sut mae cynganeddion yn gweithio) ac, yn bwysicaf, mathemateg.
Mae'n fwyaf enwog am ei Theorem: fod hyd yr hypotenws mewn triongl ongl sgwâr wedi'i sgwario yn hafal i'r hydoedd y ddau ochr arall wedi'i sgwario a'i adio at ei gilydd (a²+b²=c²).
Darganfu Pythagoras hefyd na all ail isradd 2 fod yn rhif cymarebol.
Roedd gan Pythagoras nifer o ddisgyblion a oedd yn dilyn ei ddysgeidiaeth a'i gredoau. Roeddent yn casáu ffa a chredai Pythagoras iddo fod yn rhyfelwr o Gaerdroea mewn bywyd cynharach.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Geodedd: cangen o fathemateg gymhwysol