Zarathustra
| Zarathustra | |
|---|---|
| Ganwyd | Ray, Unknown |
| Bu farw | Balkh, Unknown |
| Galwedigaeth | proffwyd, sylfaenydd crefydd, bardd, ysgrifennwr, gwneuthurwr gwyrthiau |
| Tad | Porushaspa |
| Mam | Dohodo |
| Priod | Hvōvita |
| Plant | Porvchyista, Isat Vastar |
Proffwyd Iranaidd a sefydlydd Zoroastriaeth oedd Zarathustra neu Zoroaster (efallai tua 628 - 551 CC; mae rhai awdurdodau'n awgrymu dyddiad llawer cynharach).
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ymddengys iddo gael ei eni yng nghyffiniau Tehran. Credir ei fod yn offeiriad yn y grefydd baganaidd amldduwiog hynafol a fodolai'r adeg hynny. Dywedir iddo gael gweledigaeth o'r duw Ahura Mazda, a orchmynodd iddo greu crefydd newydd seiliedig ar ei addoliaeth.
Cyflwynodd Zarathustra gyfres o ddiwygiadau i'r hen grefydd, gan gynnwys gwaharddu defodau orgiastiaidd. Serch hynny ni waharddwyd offrymu anifeiliaid a daeth addoli'r tân sanctaidd (symbol pennaf Mazda fel duw'r haul a'r goleuni), elfen hynafol iawn yng nghrefydd y wlad, i fwynhau rhan ganolog yn y grefydd newydd.
Llenyddiaeth
[golygu | golygu cod]Cedwir yr athrawiaeth a briodolir i Zarathustra yn emynau y Gathas a'r Avesta; y mwyaf adnabyddus o'r gweithiau hyn yw'r Zend Avesta.
Dylanwad
[golygu | golygu cod]Ysgrifennodd yr awdur Almaenig Friedrich Nietzsche ei gyfrol ddylanwadol Also sprach Zarathustra, a gyhoeddwyd yn 1883-5.