Dawnswyr Nantgarw

Oddi ar Wicipedia
Dawnswyr Nantgarw
Enghraifft o'r canlynolgrŵp dawnsio gwerin Edit this on Wikidata

Mae cwmni Dawnwyr Nantgarw yn gwmni dawnsio gwerin Cymreig o ardal Caerdydd. Maent yn cystadlu ac yn gwneud perfformiadau mewn digwyddiadau a gwyliau amrywiol. Maent yn rhan o draddodiad dawnsio Nantgarw.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd Dawnswyr Nantgarw yn 1980 gan Eirlys Britton a fu'n aelod o Gwmni Dawns Werin Caerdydd,[1] gyda'r aelodau'n ymarfer yn Hen Ganolfan yr Urdd Caerdydd ar Heol Conwy, Pontcanna pan gofynodd Gari Samuel, athro yn Ysgol Heol y Celyn, Pontypridd a hyfforddwr gyda Chlwb Rygbi Caerdydd i Eirlys Britton ffurfio tîm dawnsio gwerin i berfformio yn un o gyngerddau'r ysgol. Ffurfiwyd y tîm a fedyddiwyd wedi hynny yn 'Ddawnswyr Nantgarw'. Rhieni ac athrawon Ysgol Heol y Celyn oedd yr aelodau gwreiddiol, ond nid dyna'r sefyllfa bellach.

Bwriad y cwmni oedd atgyfodi rhai o hen draddodiadau a dawnsfeydd Cwm Taf a Morgannwg, i'r safon uchaf posib ac i ddod a dawnsio gwerin a'r diwylliant gwerin Cymreig yn ôl i gymoedd y Rhondda a Dyffryn Taf. Maent yn ymarfer bellach yng nghlwb cyn-filwyr Ffynnon Taf.

Yr Enw[golygu | golygu cod]

Enwir y cwmni dawns ar ôl pentref bychan Nantgarw, sydd, bellach, yn fwy adnabyddus efallai fel lleoliad stâd ddiwydiannol a mân-werthu sy'n cynnwys Coleg y Cymoedd a sinemâu oddi ar ochr orllewinnol ffordd yr A470 sydd rhwng Caerdydd a Phontypridd.

Bu ar un cyfnod yn bentref enwog oherwydd Crochendy Nantgarw oedd creu porslen rhagorol a ceir bellach amgueddfa [2] yno i gofnodi a dathlu'r ffaith. Rhedai Camlas Morgannwg wrth y gwaith porslen gan ei wneud yn gyfleus i fasnachu ac allforio o Gaerdydd.

Yn y 19g a dechrau'r 20g daeth gweithwyr i'r ardal i weithio yn y pyllau glo cyfagos a Chymraeg oedd iaith yr ardal a Chymreig oedd ei thraddododiadau. Ar droad yr 19g a'r 20g aeth merch ifanc o'r enw Catherine Margaretta Thomas gyda'i mamgu i ffeiriau cyfagos Caerffili a Thonglwynlais. Yno gwelodd ddawnswyr a wnaeth gryn argraff arni. Yn ystod y diwygiadau crefyddol a ddilynodd daeth terfyn ar y dawnsfeydd, ond oherwydd cof rhyfeddol Margaretta cofnodwyd nifer o ddawnsfeydd gan drosglwyddo i'r genedl gasgliad o ddawnsfeydd unigryw Nantagarw. Cofnodwyd atgofion Catherine Margaretta Thomas, gan ei merch Ceinwen Thomas a aned yn 1911.[1]

Perfformio[golygu | golygu cod]

Bu'r cwmni yn perfformio mewn danwsfeydd neu ddigwyddiadau megis adeg y Nadolig, y Flwyddyn Newydd, Calan Mai, Gŵyl Ifan i'r Cynhaeaf a Chalan Gaea'. Mae'r cwmni yn cynnal twmpathau a chyngherddau yn gyson ar hyd a lled Cymru ac yn teithio dros glawdd Offa i arddangos eu dawnsio i gymdeithasau Cymraeg. Maent wedi ymddangos yn Neuadd Albert, Llundain sawl gwaith.

Anrhydeddau a Gwobrau[golygu | golygu cod]

Mae'r cwmni wedi ennill sawl gwobr ac anrhydedd.[3] Yn eu mysg mae:

1983 ac 1985; Gwobr gyntaf yn Gŵyl Pan Geltaidd Kilarne
1982, 1983 ac 1984 - Yr Ŵyl Gerdd Dant, llwyddwyd i ennill tair gwobr gyntaf a dwy ail allan o bum cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun ym 1986 a'r brif gystadleuaeth eto'r flwyddyn ganlynol ym Mhorthmadog ym 1987.
1989 - Ennill y goron driphlig sef yr Wyl Gerdd Dant, Eisteddfod Gydwladol Llangollen a'r Eisteddfod Genedlaethol. Dychwelwyd i Langollen ym 1990 a 1992 a dod yn ail ddwy waith.

Wedi ei lwyddiant yng ngwledydd Prydain, gwahoddwyd y grwp i gystadlu ym mhencampwriaethau'r byd yn Palma, Mallorca ym 1991 ac yno llwyddwyd i ennill ail wobr yn y categori y grŵp gorau. Dilynodd y rhaglen deledu gylchgrawn 'Hel Straeon' y grwp i Mallorca a cynhyrchwyd rhaglen ddeugain munud ar y daith fuddugoliaethus. Mae'r cwmni hefyd wedi ymddangos yn rheolaidd ar y teledu.

Mae aelodau'r grwp yn enillwyr cenedlaethol hefyd, nid yn unig yn y cystadlaethau dawnsio a chlocsio unigol, ond hefyd yn y meysydd adrodd, cerdd-dant, canu gwerin a chanu'r delyn.

Eiryls Britton[golygu | golygu cod]

Anrhydeddwyd Eirlys Britton â Gwobr Goffa T. H. Parry-Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg yn 2012 am ei chyfraniad dros 30 mlynedd i fyd dawnsio gwerin Cymreig ac atgyfodi dawniau gwerin. Bu hi'n gyfrifol am greu a llunio'r ddawns a ddefnyddir i gyfarch y prif lenor yn yr Eisteddfod Genedlaethol.[4] Mae Eirlys yn briod â Cliff Jones sydd hefyd yn dawnsio gyda'r grŵp ac yn adnabyddus am ei waith yn hyrwyddo'r traddodiad dawnsio gwerin Cymreig ac urddwyd y ddau i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri yn 2005. Bu Eirlys hefyd yn actio am flynyddoedd fel cymeriad Beth Leyshon yn yr opera sebon Pobol y Cwm a'i brawd y cyn-ddrymiwr y grŵp Edward H. Dafis, Charli Britton.

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-05-04. Cyrchwyd 2019-01-18.
  2. http://amgueddfa[dolen marw] https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Tourism/Thingstodo/HistoryandHeritage/Museums/AmgueddfaCrochendyNantgarw.aspx
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-05-04. Cyrchwyd 2019-01-18.
  4. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/17727157