Neidio i'r cynnwys

Ysgol Heol y Celyn

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Heol y Celyn
Mathysgol gynradd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru

Ysgol gynradd ddwyieithog yn Rhondda Cynon Taf yw Ysgol Heol y Celyn sy'n darparu addysg ar gyfer tua 350 o blant o 4 i 11 oed. Mae Adran Gymraeg yr Ysgol yn bwydo Ysgol Gyfun Garth Olwg a'r Adran Saesneg yn bwydo Ysgol Gyfun y Ddraenen Wen (Hawthorn Comprehensive). Lleolir yr ysgol yn Rhydfelen ger Pontypridd. Dalgylch yr ysgol yw cymunedau Rhydfelen a'r Ddraenen Wen.

Agorwyd yr ysgol ym 1968. Mae ganddi ddau prif adeilad. Clare Jones yw'r pennaeth presenol gyda David Roberts (un o Arweinwyr Ffit Cymru) yn ddirprwy. Bydd yr ysgol yn cau yn 2022 gyda ysgol newydd Gymraeg ar y safle.

Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.