Ysgol Garth Olwg
| Ysgol Gyfun Garth Olwg | |
|---|---|
| Arwyddair | Deuparth ffordd eu gwybod |
| Sefydlwyd | 6 Medi 1962 - Ysgol Gyfun Rhydfelen 2006 - Ysgol Gyfun Garth Olwg 2019 - Ysgol Garth Olwg |
| Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
| Cyfrwng iaith | Cymraeg |
| Pennaeth | Trystan Edwards |
| Sylfaenydd | Gwilym Humphreys |
| Lleoliad | Y Brif Ffordd, Pentre'r Eglwys, Rhondda Cynon Taf, Cymru, CF38 1DX |
| AALl | Rhondda Cynon Taf |
| Disgyblion | 930+ |
| Rhyw | Cyd-addysgol |
| Oedrannau | 3–19 |
| Llysoedd | 6 |
| Lliwiau | Du a gwyrdd |
| Cyhoeddiad | Bytholwyrdd |
| Gwefan | http://www.gartholwg.co.uk/ |
Ysgol Gyfun Gymraeg yw Ysgol Garth Olwg (Enw gwreiddiol: Ysgol Gyfun Rhydfelen), sydd wedi ei lleoli ym Mhentre'r Eglwys ger Pontypridd yn Rhondda Cynon Taf. Agorwyd ar 6 Medi 1962 a hi oedd y trydydd ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghymru wedi iddi gael ei sefydlu yn 1962 o dan yr enw Ysgol Gyfun Rhydfelen.
Hanes
[golygu | golygu cod]Roedd adeiladau'r ysgol mewn cyflwr gwael gan i ran o'r ysgol gael ei adeiladu ar frys fel lleoliad dros-dro i hyfforddi cyn-filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1917.[1]
Symudwyd yr ysgol o Rydyfelin i adeilad newydd ym Mhentre'r Eglwys ym mis Medi 2006 ar safle Ysgol Gynradd Gymraeg Gartholwg. Bu dadl ynglŷn â'i hail-enwi i Ysgol Gyfun Gartholwg am fisoedd cyn penderfynu cadw'r enw newydd yn erbyn dymuniadau mwyafrif y disgyblion, athrawon a rhieni.[2][3]
Symudwyd yr ysgol o bentref Rhydyfelin i adeilad newydd ym Mhentre'r Eglwys ym mis Medi 2006 ar Gampws Cymunedol Gartholwg. Mae'r dadlau yn parhau ynglŷn â'i hail-enwi'n 'Ysgol Gyfun Garth Olwg' ac er yn groes i ddymuniadau mwyafrif y rhieni, disgyblion ac athrawon, penderfynwyd newid yr enw o Ysgol Gyfun Rhydfelen.[4][5]
Roedd yr hen adeilad mewn cyflwr gwael pan ddymchwelwyd ef, adeiladwyd rhan o'r ysgol ar frys fel lleoliad dros-dro i hyfforddi cyn-filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1917.[6]
Cyn-ddisgyblion o nôd
[golygu | golygu cod]- Jeremi Cockram - actor
- Daniel Evans - actor, cyfarwyddwr
- Magi Dodd - cyflwynydd
- Aneirin Karadog - bardd, ieithydd, darlledwr
- Dafydd Trystan Davies - academydd, gwleidydd
- Eirlys Britton - actores, athrawes
- Dudley Newbery - cogydd, darlledwr
- Jon Owen Jones - gwleidydd
- Maria Pride - actores, cantores
- Richard Lynch - actor
- Catrin Dafydd - bardd, awdur, ymgyrchydd.
- Emyr Lewis - bardd, cyfreithiwr
- Ceri James - Cynllunydd Goleuo
- Dafydd Hunt - Golygydd Ffilm
- John Owen - dramodydd, llenor ac athro
- Gwilym Harries - Cerddor, awdur ac athronydd
- Colin H. Williams - academydd a datblygwr polisïau adfer iaith
- Dewi Alban Roberts - Rheolwr Llawr / Rheolwr Llwyfan Darllediadau Allanol
- Ian Rowlands - dramodydd a chyfarwyddwr
- Gareth Potter - actor a cherddor
- Lisa Palfrey - actores
- Richard Harrington - actor
- Agor Ysgol Gyfun Rhydfelen 1962
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol yr ysgol
- Gwefan Campws Garth Olwg Archifwyd 2008-05-17 yn y Peiriant Wayback