Hen Ganolfan yr Urdd Caerdydd

Oddi ar Wicipedia
Safle Hen Ganolfan yr Urdd ar Heol Conwy, Caerdydd

Lleolwyd Hen Ganolfan yr Urdd Caerdydd (neu Aelwyd yr Urdd Heol Conwy) ar Heol Conwy yn ardal Pontcanna o ddinas Caerdydd a bu am bron i 40 mlynedd yn ganolfan Gymraeg gan gynnal swyddfeydd a gweithgareddau'r Urdd a digwyddidau Cymraeg eraill. Mae'r safle bellach yn safle fflatiau a does dim ar ôl o'r hen adeilad.

Hanes[golygu | golygu cod]

Perthyna'r adeilad yn wreiddiol i gapel Fethodistaidd Conway Road [1] (capel Saesneg ei hiaith) sydd ar waelod Heol Conway a gyferbyn â'r adeilad. Fe'i adeiladwyd yn 1893 a dyna oedd adeilad Ysgol Sut y capel.[2]

Daeth Canolfan Aelwyd yr Urdd Caerdydd yn symbol o fwrlwm bywyd Cymraeg y brifddinas ar ddechrau'r 1960au a'r 1970au.

Yn dilyn sawl Eisteddfod a chyngerdd llwyddiannus fe gyfrannodd y Côr Aelwyd Caerdydd £2,000 at gost prynu cartref parhaol ar gyfer gweithgareddau Cymraeg yng Nghaerdydd. Talwyd £14,000 i'r capel am brynu'r adeilad gan y Capel yn 1968.

Codwyd hefyd £14,000 i'r Ganolfan gan gêm rygbi olaf Barry John.[3] sef Gêm Jiwbili yr Urdd yn 50 oed yn 1972.[4]

Yn ôl Gwilym Roberts, oedd yn athro a thiwtor Cymraeg ail-iaith yng Nghaerdydd roedd "... yr aelwyd yn cyfarfod yno, ond roedd y parti dawns yn cyfarfod yno, dosbarthiadau Cymraeg, pob math o weithgareddau, ysgol feithrin hefyd." Daeth y lle, maes o law, yn swyddfa rhanbarthol i'r Urdd a bu siop lyfrau Cymraeg, 'Taflen' yno yn ystod yr 1980au.[5]

Ymysg nifer o'r gweithgareddau a chymdeithasau a ddefnyddiau'r Ganolfan fel canolfan i'w clwb oedd Cwmni Dawns Werin Caerdydd a sefydlwyd yn 1968 [6][7] a bu'n ymarfer yn y Ganolfan ac yn y clwb hwnnw y penderfynwyd sefydlu Dawnswyr Nantgarw yn 1980.[8] Yma hefyd y cynhaliwyd y cwrs dysgu dwsg i ddysgu Cymraeg, Wlpan yn 1973. Athrawon y cwrs cyntaf hwn oedd Chris Rees a Gwilym Roberts.[9]

Dirywiad[golygu | golygu cod]

Mae'n amlwg erbyn 1988 fod cost rhedeg y Ganolfan a llai o ddefnydd o'r lle. Mewn erthygl yn Y Dinesydd, papur bro Caerdydd, ysgogodd John Albert Evans i siaradwyr Cymraeg y ddinas ymaelodu a chyfrannu i gronfa 'Pwyllgor Rheoli Canolfan yr Urdd' er mwyn cynorthwyo gyda'r costau o gadw'r lle ar agor.[3] Fel nodwyd yn yr erthygl (ar dudalen 8) roedd siop lyfrau 'Taflen' wedi symud i 11, Arcêd Styd y Dug, ynghannol dinas Caerdydd. Yn wir, ar dudalen 12 o'r un rhifyn ceir hysbyseblen i lwyddiant y siop yn y lleoliad newydd.

Gwerthu[golygu | golygu cod]

Gwerthwyd yr adeilad yn Hydref 2003. Dymchwelwyd yr hen adeilad gan adeiladu oddeutu 15 o rhandai newydd yn ei le.

Canolfan Newydd[golygu | golygu cod]

Yn dilyn gwerthu'r adeilad, symudwyd gweithgareddau i sefydlu Gwersyll yr Urdd Caerdydd yn rhan o adeilad Ganolfan y Mileniwm a agorwyd yn fuan wedyn. Yn ogystal â darparu swyddfeydd dyma bellach bencadlys genedlaethol yr Urdd, ond, yn wahanol i'r hen aelwyd, ni chynhelir gweithgareddau gwirfoddol gan grwpiau megis grwpiau dawns werin neu gorau yno.

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://conwayroadmethodist.com/
  2. https://en.wikipedia.org/wiki/Conway_Road_Methodist_Church
  3. 3.0 3.1 http://dinesydd.cymru/dinesyddhenpdf/din1988m02r142p.pdf[dolen marw]
  4. https://www.casgliadywerin.cymru/items/38520
  5. http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_3190000/newsid_3198800/3198888.stm
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-05-17. Cyrchwyd 2019-01-17.
  7. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/44813953
  8. http://dinesydd.cymru/index.php/2018/07/31/dawnswyr-nantgarw/[dolen marw]
  9. "WLPAN: O Israel i Gymru: Hanes cyrsiau Cymraeg i Oedolion". Gwefan ddwyieithog Parallel Cymru. 23 Awst 2018.