Charli Britton
Charli Britton | |
---|---|
Ganwyd | Charles Britton 12 Rhagfyr 1952 Caerdydd |
Bu farw | 14 Awst 2021 Ysbyty Gwynedd |
Man preswyl | Carmel |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | drymiwr, dylunydd graffig |
Cerddor a dylunydd o Gymro oedd Charli Britton (12 Rhagfyr 1952 – 14 Awst 2021).[1] Roedd yn ddrymiwr ac un o aelodau gwreiddiol y band Edward H. Dafis.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Fe'i ganwyd yn Nhreganna, Caerdydd. Aeth i Ysgol Gyfun Rhydfelen. Cychwynnodd ei yrfa yn yr ysgol mewn eisteddfodau. Bu'n chwarae i'r band Cyffro, y band merched gwreiddiol, gyda'i chwaer Eirlys un o'r cantorion.
Fe astudiodd cwrs graffeg sylfaen yng Ngholeg Celf Cymru ac yna aeth ymlaen i Goleg Ealing yn Llundain. Bu'n drymio i nifer o fandiau fel myfyriwr ac roedd ganddo fand Saesneg ei hun o'r enw 'Boots'. Yn y cyfnod yma cafodd ei ddylanwadu gan y Beatles a Ringo Starr.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Daeth yn ôl i Gymru i ffurfio Edward H. Dafis gyda Cleif Harpwood, Hefin Elis, John Griffiths a Dewi Pws. Ef hefyd a ddyluniodd gloriau albym y band, fel yr Hen Ffordd Gymreig o Fyw, Yn Erbyn y Ffactore a 'Sneb yn Becso Dam.
Bu'n ddrymiwr i nifer o fandiau eraill gan gynnwys Injaroc, Dafydd Iwan a'r Band, John ac Alun a Hergest.[2] Roedd hefyd wedi gweithio gydag artistiaid eraill megis Linda Griffiths a Geraint Griffiths. Drymiodd ar CD Aled Jones Hear My Prayer a ryddhawyd yn 2005.
Ers yr 1990au roedd yn gweithio fel dylunydd graffig yng Nghaernarfon. Bu'n darlunio a dylunio cloriau ar gyfer nifer o lyfrau Cymraeg, megis Dathlu Rygbi Cymru (Gorffennaf 2007, Gwasg Carreg Gwalch) a llyfrynnau crynoddisg, megis CD newydd Mojo, Ardal (2007) ac Eliffant gan Geraint Griffiths.
Charli oedd yn dylunio Papur Bro ardal Dyffryn Nantlle a Chaernarfon, sef Lleu.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd yn byw yng Ngharmel ac yn dad i ddau o blant, Siôn a Rhys.[3] Bu farw yn Ysbyty Gwynedd yn 68 mlwydd oed wedi salwch byr.[4] Cynhaliwyd ei angladd ar brynhawn Mercher, 1 Medi 2021 gyda gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am 1.30pm.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Charli Britton: teyrnged i “ffrind annwyl a dyn diymhongar, tawel, diffuant ac unigryw” , Golwg360, 15 Awst 2021.
- ↑ Edward H Dafis. BBC. Adalwyd ar 1 Medi 2013.
- ↑ Hysbysiad marwolaeth Charli Britton. Daily Post (24 Awst 2021).
- ↑ Charli Britton, drymiwr Edward H. Dafis, wedi marw , BBC Cymru Fyw, 15 Awst 2021.