Cynhadledd Aberdyfi

Oddi ar Wicipedia
Cynhadledd Aberdyfi

Cynhaliwyd Cynhadledd Aberdyfi wrth aber afon Dyfi yn 1216. Dyma'r gynhadledd a welodd arweinwyr y Cymry yn cydnabod Llywelyn Fawr yn Dywysog ar y wlad.

Roedd Cynhadledd Aberdyfi yn coroni ymgyrchoedd llwyddiannus Llywelyn yn y de yn 1215. Arweiniodd Llywelyn fyddin fawr oedd yn cynnwys tywysogion Deheubarth a chanolbarth Cymru ac adenillwyd darnau sylweddol o dir o ddwylo'r Saeson ac arglwyddi'r Mers.

Afon Dyfi ger Machynlleth.

Mae union leoliad y gynhadledd yn anhysbys, ond gellid tybio mae rhywle rhwng Pennal a Machynlleth y'i cynhaliwyd yn hytrach nag ar safle tref Aberdyfi ei hun. Dyma'r man lle roedd ffiniau Gwynedd, Powys, a Deheubarth yn cwrdd yn yr Oesoedd Canol a diau fod yr atgof am gynhadledd debyg gan y brenin Maelgwn Gwynedd ar ddechrau'r 6g yn rheswm arall dros ei chynnal yno.

Cadarnhaodd y gynhadledd awdurdod Llywelyn Fawr fel arweinydd y tywysogion Cymreig. Talodd y tywysogion hynny wrogaeth ffiwdal iddo. Rhannodd Llywelyn diroedd y de rhwng ei ddeiliaid o Ddeheubarth gan ddod i ben blynydoedd o ymrafael rhwng disgynyddion yr Arglwydd Rhys. Cafodd Maelgwn ap Rhys gantrefi Gwarthaf (gyda Chaerfyrddin), Cemais, Emlyn, Mallaen a Hirfryn yn Ystrad Tywi a chymydau Gwynionydd a Mabwnion yng Ngheredigion. Cafodd Rhys Gryg y Cantref Mawr a'r Cantref Bychan (heb Mallaen a Hirfryn), Cydweli a Charnwyllion. Rhoddwyd canolbarth a gogledd Ceredigion i feibion Gruffudd ap Rhys, sef Rhys Ieuanc ac Owain ap Gruffudd, yn cynnwys castell Aberteifi. Ni chymerodd Llywelyn Fawr ddim iddo'i hun, gan fodloni ar dderbyn gwrogaeth y tywysogion ac arglwyddi.[1]

Cafodd y tir ei rannu rhwng disgynyddion yr Arglwydd Rhys yn union â Chyfraith Hywel. Rhannodd yr hawlwr ieuengaf y tir ond rhoddwyd y dewis cyntaf ar y rhaniadau i'r hawlwr hynaf.[2]

Disgrifiodd Syr J. E. Lloyd Gynhadledd Aberdyfi fel "virtually a Welsh parliament, the first of its kind".[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. A. H. Williams, An Introduction to the History of Wales, cyfrol 2, tud. 71.
  2. R. R. Davies, Conquest, Co-existence and Change (Rhydychen, 1991), tud. 228.
  3. J. E. Lloyd, History of Wales, cyfrol ii, tud. 649.