Cynghrair Cymru Gogledd

Oddi ar Wicipedia
Cynghrair Cymru Gogledd
Gwlad Cymru
Sefydlwyd1990
Adrannau1
Nifer o dimau16
Lefel ar byramid2
Dyrchafiad iUwch Gynghrair Cymru
Disgyn iCynghrair Cymru (Ardal Wrecsam)
Cynghrair Undebol y Gogledd
Cynghrair Canolbarth Cymru
CwpanauCwpan Cymru
Cwpan y Gynghrair Undebol (hyd at dymor 2018/19)
Cwpan Cynghrair Cymru
Pencampwyr PresennolAirbus Brychdyn
(2018-19)

Cynghrair Cymru Gogledd (Saesneg: Cymru North) yw prif gynghrair pêl-droed gogledd a chanolbarth Cymru. Mae'r gynghrair yn ffurfio ail reng o byramid pêl-droed Cymru ac, ynghyd â Chynghrair Cymru De, yn cael ei hadnabod fel Pencampwriaeth Cymru, ac yn cael ei rheoli gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru. Mae Cynghgrair Cymru Gogledd yn bwydo Uwch Gynghrair Cymru.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ffurfiwyd y gynghrair ym 1990 fel Cynghrair Undebol y Gogledd er mwyn sicrhau cynghrair gref ar gyfer gogledd Cymru wedi i Gymdeithas Bêl-droed Cymru gyhoeddi eu bwriad i greu cynghrair genedlaethol ar gyfer tymor 1992-93.[1]. Cyn 1990, roedd tair cynghrair gwahanol, sef Cynghrair Undebol Arfordir y Gogledd, Cynghrair Cymru (Ardal Wrecsam) a Chynghrair y Canolbarth, yn rhannu lefel uchaf pyramid pêl-droed Cymru gyda Chynghrair Cymru (y De).

Daeth y Gynghrair Undebol â thimau gorau'r dair cynghrair at eu gilydd gyda'r bwriad o godi safon pêl-droed ar draws y rhanbarth.Yr 16 clwb gwreiddiol oedd:

Mae'r dair Gynghrair gafodd eu disodli gan y Gynghrair Undebol, sef Cynghrair Undebol Arfordir y Gogledd (Gogledd-orllewin ac Arfordir y Gogledd), Cynghrair Cymru (Ardal Wrecsam) a Cynghrair y Canolbarth, bellach yn bwydo'r Gynghrair Undebol.

Ailenwi[golygu | golygu cod]

Ers tymor 2019-20 mae Cynghrair Cymru Gogledd yn dod o dan adain Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac, ynghyd â Chynghrair Cymru De, yn ffurfio ail haen Uwch Gynghrair Cymru o dan yr enw Pencampwriaeth Cymru[2][3].

Pencampwyr[golygu | golygu cod]

Tymor Pencampwyr Tymor Pencampwyr Tymor Pencampwyr
1990-91 Y Fflint 2000-01 Caernarfon 2010-11 Cei Connah
1991-92 Caersws 2001-02 Y Trallwng 2011-12 Cei Connah
1992-93 Llansantffraid 2002-03 Porthmadog 2012-13 Y Rhyl
1993-94 Y Rhyl 2003-04 Airbus U.K. 2013-14 Derwyddon Cefn
1994-95 Bae Cemaes 2004-05 Bwcle 2014-15 Tref Llandudno
1995-96 Croesoswallt 2005-06 Glantraeth 2015-16 Caernarfon
1996-97 Rhaeadr Gwy 2006-07 Llangefni 2016-17 Prestatyn
1997-98 Rhydymwyn 2007-08 Prestatyn 2017-18 Caernarfon
1998-99 Derwyddon Cefn Flexsys 2008-09 Y Bala 2018-19 Airbus Brychdyn
1999-2000 Croesoswallt 2009-10 Llangefni 2019-20 Prestatyn

Sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Cymru Alliance: History". welshsoccerarchive.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 2018-11-26.
  2. https://www.faw.cymru/cy/news/croeso-i-gymru/?back=/cy/&pos=8
  3. https://clwbpeldroed.org/2018/11/28/football-association-wales-restructuring-pyramid/

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cynghrair Cymru Gogledd, 2019-20

Bae Colwyn | Bangor | Bwcle | Cegidfa | Corwen | Conwy | Gresffordd | Llandudno | Llangefni
Llanfair | Llanrhaeadr | Penrhyncoch | Porthmadog | Prestatyn | Rhuthun | Y Fflint | Y Rhyl


Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.