C.P.D. Tref Llangefni

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
C.P.D. Tref Llangefni
CJ0nik8WoAAmAe8.jpg
Enw llawn Clwb Pêl-droed Tref Llangefni
Llysenw(au) Cefni
Sefydlwyd 1897
Maes Lôn Talwrn
Cynghrair Cynghrair Undebol y Gogledd


Clwb pêl-droed o dref Llangefni, Ynys Môn ydy Clwb Pêl-droed Tref Llangefni (Saesneg: Llangefni Town Football Club) sy'n chwarae yng Nghynghrair Undebol y Gogledd, sef ail adran gogledd Cymru; trydydd rheng pyramid pêl-droed cenedlaethol Cymru.

Ffurfiwyd y clwb ym 1897[1] ac maent yn chwarae eu gemau cartref ar faes Lôn Talwrn.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffurfiwyd y clwb ym 1897[1] ac roeddent yn aelodau gwreiddiol o Gynghrair Môn ym 1897-98[2]. Ym 1987-88, wedi 90 mlynedd yn y gynghrair, ac er iddynt orffen y tymor tua gwaelodion yr Ail Adran o Gynghrair Môn[3] penderfynodd y clwb geisio am aelodaeth o Gynghrair Gwynedd ar gyfer tymor 1988-89. Llwyddodd y clwb i ennill y Bencampwriaeth yn eu tymor cyntaf ym 1988-89 ac eto ym 1989-90[4][5] cyn sicrhau dyrchafiad i Gynghrair Undebol y Gogledd.

Llwyddodd y clwb i gipio Bencampwriaeth Cynghrair Undebol y Gogledd yn eu tymor cyntaf[6] ac ar ôl ennill y Gynghrair am y pedwerydd tro ym 1998-99[7] cafwyd ddyrchafiad i'r Gynghrair Undebol.

Yn 2006-07, llwyddodd Llangefni i gipio'r Bencampwriaeth[8] a sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru, ond cafwyd tymor anodd gyda'r clwb yn disgyn yn syth yn ôl i lawr i'r Gynghrair Undebol wedi tymor yn unig yn y brif adran[9].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]