C.P.D. Alexandra Yr Wyddgrug

Oddi ar Wicipedia
Alexandra Yr Wyddgrug
Enw llawn C.P.D. Alexandra Yr Wyddgrug
Llysenw(au) Alex
Sefydlwyd 1929
Maes Parc Alyn
Rheolwr Baner Cymru ?
Cynghrair Cynghrair Undebol

Clwb pêl-droed o dref Yr Wyddgrug, Sir Y Fflint yw Clwb Pêl-droed Alexandra Yr Wyddgrug (Saesneg: Mold Alexandra Football Club) sy'n chwarae yng Nghynghrair Undebol Huws Gray, sef prif adran gogledd Cymru ac ail reng pyramid pêl-droed cenedlaethol Cymru.

Ffurfwyd y clwb yn 1929[1] ac maent yn chwarae eu gemau cartref ar Barc Alun.

Pêl-droed yn Yr Wyddgrug[golygu | golygu cod]

Roedd C.P.D. Yr Wyddgrug yn cystadlu yng Nghwpan Cymru ym 1878-79 gan golli 8-1 yn erbyn Llangollen yn y rownd 1af[2] ond llwyddodd y clwb i gyrraedd y rownd gynderfynol ym 1887-88[3] ac ym 1890-91[4].

Ym 1881-82, roedd tîm Amaturiaid Y Fflint oedd wedi eu leoli yn nhref Yr Wyddgrug hefyd yn cystadlu yng Nghwpan Cymru[5] ac ym 1894-95 cafwyd dau dîm arall o'r dref yn y Gwpan gyda C.P.D. Sêr Alyn Yr Wyddgurg (Saesneg: Mold Alyn Stars) yn colli 0-21 yn erbyn Yr Amwythig[6] a chyda C.P.D. Sêr Coch Yr Wyddgrug (Saesneg: Mold Red Stars) yn colli 3-5 yn erbyn Y Derwyddon[7].

Wrth sefydlu Prif Gynghrair Cymru (Saesneg: Welsh Senior League) ym 1890-91, cafodd C.P.D. Yr Wyddgrug wahoddiad i ymuno[8], ac er iddynt dderbyn y gwahoddiad, nid oedd y clwb yn un o'r chwe clwb ddechreuodd y tymor[9].

Llwyddodd C.P.D. Yr Wyddgrug i gyrraedd rownd gyntaf Cwpan FA Lloegr ym 1925-26 cyn colli yn erbyn Southport[10].

C.P.D. Alexandra Yr Wyddgrug[golygu | golygu cod]

Ffurfiwyd C.P.D. Alexandra Yr Wyddgrug yn 1929[1] gan chwarae mewn cynghreiriau lleol cyn ymuno â Chynghrair Gorllewin Sir Gaer[1] ar ddechrau tymor 1937-38. Ond wedi'r Ail Ryfel Byd, dychwelodd Alex i chwarae yng Nghymru yng Nghynghrair Cymru (Ardal Wrecsam)[11] tan cael gwahoddiad i fod yn un o glybiau gwreiddiol Y Gynghrair Undebol ym 1990[12].

Yn 1992 cafodd y clwb wahoddiad i fod yn un o'r 20 clwb yn nhymor cyntaf Uwch Gynghrair Cymru gan orffen y tymor cyntaf yn yr 13eg safle[13] cyn colli eu lle ym mhrif adran Cymru ar ddiwedd tymor 1994-95[14].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "History: Mold Alexandra". Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Welsh Cup 1878-79". Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Welsh Cup 1887-88". Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Welsh Cup 1890-91". Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "Welsh Cup 1881-82". Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "Welsh Cup 1894-95". Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. "Welsh Cup 1894-95". Unknown parameter |published= ignored (help)
  8. "Welsh Senior League History". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 2018-11-26. Unknown parameter |published= ignored (help)
  9. "Welsh Senior League 1890-91". Unknown parameter |published= ignored (help)
  10. "FA Cup 1925-26". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2015-07-15. Unknown parameter |published= ignored (help)
  11. "Wrexham Area Welsh National League 1947-48". Unknown parameter |published= ignored (help)
  12. "Cymru Alliance: History". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 2018-11-26. Unknown parameter |published= ignored (help)
  13. "Teithio'r Tymhorau: 1992-93". Unknown parameter |published= ignored (help)
  14. "Welsh Tables 1994-95". Unknown parameter |published= ignored (help)
Cynghrair Undebol, 2018-19

Airbus UK | Bangor | Bwcle | Cegidfa | Conwy | Dinbych | Gresffordd | Hotspur Caergybi |
Llanrhaeadr | Penrhyncoch | Porthmadog | Prestatyn | Rhuthun | Treffynnon Y Fflint | Y Rhyl