Basgeg
Enghraifft o'r canlynol | iaith fyw, iaith naturiol |
---|---|
Math | Basque languages, Ieithoedd De Ewrop |
Label brodorol | Euskara |
Rhan o | Ieithoedd rhanbarthol Ffrainc, iaith swyddogol, languages of Europe |
Yn cynnwys | Tafodiaith Bizkaia, Gipuzkoan, Upper Navarrese, Navarro-Labourdin, Eastern Navarrese, tafodiaith Souletin, Alavese Basque, Salazarese, Euskara Batua |
Rhagflaenydd | Hen Fasgeg |
Enw brodorol | Euskara |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | eu |
cod ISO 639-2 | eus, baq |
cod ISO 639-3 | eus |
Gwladwriaeth | Sbaen, Ffrainc |
System ysgrifennu | Yr wyddor Fasgeg, yr wyddor Ladin |
Corff rheoleiddio | Euskaltzaindia |
Gwefan | http://www.euskaltzaindia.net |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Iaith Gwlad y Basg yw Basgeg (Basgeg: Euskara; ceir hefyd y ffurfiau Euskera, Eskuara ac Üskara). Siaredir hi gan dros 700,000 o bobl yng Ngwlad y Basg, y mwyafrif llethol ohonynt yn Sbaen. Ynghyd â'r Sbaeneg, mae hi'n iaith swyddogol o fewn Cymunedau Ymreolaethol Gwlad y Basg.
Nid yw'r Fasgeg yn perthyn i deulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd fel y rhan fwyaf o ieithoedd eraill Ewrop. Mae hi'n iaith arunig, hynny yw, nid oes perthynas hanesyddol rhyngddi hi ac unrhyw iaith arall, er bod rhai cysylltiadau dadleuol ag ieithoedd y Cawcasws wedi cael eu hawgrymu. Mae'n bosibl felly ei bod yn oroeswr o'r ieithoedd a siaradwyd yng ngorllewin Ewrop cyn dyfodiad yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd.
Hanes yr iaith
[golygu | golygu cod]Ceir olion o'r Fasgeg o'r cyfnod Rhufeinig mewn arysgrifau yn yr iaith Acquitaneg o'r dalaith Rufeinig Gallia Aquitania. Y dystiolaeth bwysicaf yw cyfres o arysgrifau Lladin sy'n cynnwys tua 400 o enwau personol a 70 o enwau duwiau. Mae'r rhain yn awgrymu fod gan yr iaith berthynas glos a'r iaith Fasgeg neu'n dafodiaith o'r Fasgeg.
Yn hanesyddol mae Gwlad y Basg wedi'i rhannu rhwng Ffrainc a Sbaen, gyda mynyddoedd mawr y Pyreneau hefyd yn rhannu ardaloedd y wlad. Roedd llawer o siaradwyr Basgeg heb fawr o gysylltiad gyda siaradwyr o ardaloedd eraill a datblygwyd y tafodieithoedd yn dra gwahanol i'w gilydd. Sbaeneg a Ffrangeg oedd unig ieithoedd y system addysg ac roedd y Fasgeg wedi'i gwahardd, felly prin oedd nifer y Basgwyr oedd y gallu ysgrifennu a darllen yr iaith.
Cafodd Euskara Batua (Basgeg Unedig) ei lunio gan gefnogwyr yr iaith ar ddiwedd y 1960au ar ddechrau'r 1970au, cyfnod ar ddiwedd unbennaeth Ffasgaidd Sbaen. Eu gobaith oedd adfywio'r iaith a'i gwneud yn iaith pob maes o fywyd y wlad wrth i'r mesurau gormesol cael eu llacio.
Yn 1979 rhoddwyd peth hunanlywodraeth i ran o ochr deheuol y Wlad gan lywodraeth Sbaen, gan warantu statws swyddogol i'r iaith Fasgeg. Sefydlwyd canolfannau i oedolion ddysgu'r iaith (Euskaltegi), ysgolion iaith Fasgeg (Ikastola) a dechreuodd awdurdodau lleol a busnesau ddefnyddio'r iaith. Sefydlwyd sianeli teledu EiTB, Radio Euskadi Irratia a phapurau newydd. Ond yng ngogledd Gwlad y Basg ar ochr Ffrainc o'r ffin mae'r iaith yn parhau i fod heb ei chydnabod yn llawn, gyda Ffrangeg fel yr iaith swyddogol.
Ers y 1970au mae'r iaith Fasgeg wedi ennill lle yn y system addysg, darlledu, cyhoeddi, busnes a llywodraeth gyda nifer y siaradwyr yn cynyddu.
Enghreifftiau o'r iaith
[golygu | golygu cod]- Kaixo = Helo
- Eskerrik asko = Diolch
- Ikasle/ak = Myfyriwr/Myfyrwyr
- Euskal Herria/Euskadi = Gwlad y Basg
- Euskara/Euskera = Basgeg
- Txokolatea = Siocled
- Eta = a/ac
- Nire Jauna eta nire Jaunko = Fy Arglwydd a'm Duw (Geiriau Sant Tomos yn y Beibl)
- Bai = Ie
- Ez = Nage
- Kaixo!, Epa! = Hwyl!
- Agur!, Adio! = Tara!
- Ikusi arte = Tan tro nesaf!
- Egun on = Bore da
- Mesedez = Os gwelwch yn dda
- Barkatu = Esgusodwch fi
- Komunak = Tai bach
- Komuna non dago? = Ble mae'r tai bach?
- Non dago tren-geltokia? = Ble mae'r orsaf drên?
- Ba al dago hotelik hemen inguruan? = Ble mae'r gwesty agosaf?
- Zorionak = Gwyliau da
- Ez dut ulertzen / Ez ulertzen dut = Dwi ddim yn deall
- Ez dakit euskaraz = Dwi ddim yn siarad Basgeg
- Ba al dakizu galesez? = Ydych chi'n siarad Cymraeg?
- Zein da zure izena? = Beth ydy'ch enw chi?
- Ongi etorri! = Croeso!
- Egun on denoi = Croeso i bawb!
- Berdin / Hala zuri ere = A chi hefyd
- Jakina! Noski! = Mae'n iawn!
- Nongoa zara? = O ble ydych chi'n dod?
- Non dago ... ? = Ble mae'r ... ?
- Badakizu euskaraz? = Ydych chi'n siarad Basgeg?
- Bai ote? = Wel wrth gwrs?
- Bizi gara! = Yma o hyd!
- Bagarela = Ni hefyd
- Topa! = Iechyd da!
- Hementxe! = Yma ac acw!
- Geldi! = Arhoswch!
- Ez dut nahi... / Ez nahi dut... = Dwi ddim eisiau...
-
Trawsyriad teulu o'r Fasgeg (y Fasgeg yn iaith gychwynnol)
-
Lleoliad tiriogaeth y Fasgeg o fewn Sbaen a Ffrainc
Gramadeg
[golygu | golygu cod]Mae gramadeg y Fasgeg yn wahanol i ramadeg y Gymraeg a ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill mewn nifer o ffyrdd. O ran cyflyrau gramadegol, nid yw'r Fasgeg yn defnyddio'r system enwol-gwrthrychol - yn hytrach, mae'n defnyddio'r cyflwr absolutibo ar gyfer yr asiant gyda berfau cyflawn a gwrthrych berfau anghyflawn, a'r ergatibo ar gyfer goddrych berfau anghyflawn.
Ergatibo–absolutibo | Enwol–gwrthrychol | |
---|---|---|
A= asiant (goddrych) berf anghyflawn | ERG | ENWOL |
O= gwrthrych berf anghyflawn | ABS | GWRTHRYCHOL |
S= asiant berf anghyflawn | ABS | ENWOL |
Dyma enghraifft syml:
Berf cyflawn | Berf anghyflawn | |
---|---|---|
Basgeg | Martin etorri da. | Martinek txakur ikusi du. |
Cymraeg | Mae Martin wedi cyrraedd. | Gwelodd Martin gi. |
Sylwadau | Y cyflwr absolutibo yn Basgeg, y cyflwr enwol yn Gymraeg. | Yn y Fasgeg, rhaid ychwanegu -ek er mwyn dangos mai Martin yw'r goddrych, gan adael y gair txakur (ci) yn y cyflwr absolutibo.
Yn y Gymraeg, rhaid treiglo'r gair "ci" yn feddal er mwyn dangos mai'r ci yw'r gwrthrych, gan adael y gair Martin yn y cyflwr enwol. |
Ffonoleg
[golygu | golygu cod]Llafariaid
[golygu | golygu cod]Llafariad blaen | Llafariad canol | Llafariad cefn | |
---|---|---|---|
Llafariad agos | i /i/ |
u /u/ | |
Llafariad canolig | e /e/ |
o /o/ | |
Llafariad agored | a /a/ |
Cytseiniaid
[golygu | golygu cod]Gwefusol | Llafnol- Deintiol |
Abigol- Alfeolaidd |
Taflodol neu Ôl-daflodol |
Felar | Glotol | ||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Trwynol | m /m/ |
n /n/ |
ñ, -in- /ɲ/ |
||||
Ffrwydrol | Di-lais | p /p/ |
t /t/ |
tt, -it- /c/ |
k /k/ |
||
Lleisiol | b /b/ |
d /d/ |
dd, -id- /ɟ/ |
g /ɡ/ |
|||
Affrithiol | Di-lais | tz /t̪s̻/ |
ts /t̺s̺/ |
tx /tʃ/ |
|||
Ffrithiol | Di-lais | f /f/ |
z /s̻/ |
s /s̺/ |
x /ʃ/ |
h /∅/, /h/ | |
fel arfer1 Lleisiol | j /j/~/x/ |
||||||
Ochrol | l /l/ |
ll, -il- /ʎ/ |
|||||
Rhotig | Crych | r-, -rr-, -r /r/ |
|||||
Trawol | -r- /ɾ/ |
Y Fasgeg yng Nghymru
[golygu | golygu cod]Trefnwyd gwersi Basgeg bob dydd adeg Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2008 gan Gymdeithas yr Iaith.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Cyffredinol
[golygu | golygu cod]Cyfieithiadau i'r Gymraeg
[golygu | golygu cod]Mae Cyfieithiadau i'r Gymraeg o ambell i stori fer, yn bennaf yn y cylchgrawn Breizh-Llydaw, a gyhoeddir gan Gymdeithas Cymru-Llydaw:
- O eira bedair gwaith (Lau aldiz elur) gan Bernardo Atxaga, cyfieithiad Cymraeg gan Rhisiart Hincks yn Taliesin, tud. 127, rhif 138, Gaeaf 2009.
- Yfory wna i ddim colli Mam (Bihar ez diot amari huts egingo) gan Patxi Zubizarreta, cyfieithiad Cymraeg gan Rhisiart Hincks yn Taliesin tud. 56 rhif 133, Gwanwyn 2008.
- Breuddwydion yn y Gogledd / Huñvreioù en hanternoz skornet (Ametzak iparralde izoztuan) gan Bernardo Atxaga, cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 31 rhif 49, Awst 2008.
- Dirgelion y Swyddfa / Kevrinoù ar Burev (Bulegoko misterioak), stori fer gan Patxi Zubizarreta, cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 37 rhif 47, Awst 2007.
- Y Peiriant Golchi (Garbigailua), gan Patxi Zubizarreta, cyfieithiadau Cymraeg a Llydaweg gan Rhisiart Hincks yn Breizh / Llydaw. tud. 16 rhif 44, Awst 2006.
- Dau Asyn / Daou Azen (Bi Asto), stori fer gan Pernando Amezketarra (2001), cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 25 rhif 42, Ionawr 2006.
- Esgidiau Rhad / Botou Marc'had Mad (Oenataku Merkeak), stori fer gan Pernando Amezketarra (2001), cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 24 rhif 43, Mai 2006.
- Y Fendith / Ar Benediste (Aitaren eta ...), stori fer gan Pernando Amezketarra (2001), cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 24 rhif 41, Awst 2005.
- Erthygl ddwyieithog am Patxi Zubizarreta, yn Llydaweg a Chymraeg, gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 16 rhif 44, Awst 2006.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://www.mintzaira.fr/fileadmin/documents/Aktualitateak/015_VI_ENQUETE_PB__Fr.pdf.
- ↑ 2.0 2.1 (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL International, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]
|