ETB 1

Oddi ar Wicipedia
ETB 1
Enghraifft o'r canlynolgorsaf deledu Edit this on Wikidata
IaithBasgeg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu31 Rhagfyr 1982 Edit this on Wikidata
PerchennogEITB Edit this on Wikidata
PencadlysBilbo Edit this on Wikidata
GwladwriaethSbaen Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.eitb.eus/eu/telebista/etb1/ Edit this on Wikidata

ETB 1 (Ynganiad Basgeg: e te be bat) yw sianel gyntaf Euskal Telebista (Teledu Gwlad y Basg). Mae i'w weld ledled Gwlad y Basg, ac yn darlledu'n gyfan gwbl yn Fasgeg. Roedd y darllediad cyntaf ar 31 Rhagfyr, 1982, gyda'r prif nod o normaleiddio'r Fasgeg. Ers 1982, mae nifer o raglenni, sioeau teledu, rhaglenni newyddion, a chystadlaethau wedi'u darlledu ar ETB1.

Dechreuodd Euskal Telebista gynnig sianeli ETB 1 HD ac ETB 2 HD ar Deledu Daearol Digidol (LTD) ar 21 Ragfyr 2016.

O 1982 hyd heddiw, mae wedi bod yn un o'r sianeli teledu Basgeg pwysicaf, ynghyd â Hamaika Telebista, y ddau wedi mynd y tu hwnt i'r lefel ranbarthol ac wedi lledaenu ledled Gwlad y Basg. Rhaid dweud bod y gorsafoedd teledu Basgaidd eraill yn canolbwyntio ar ranbarth arbennig, megis Erlo (Urola Kosta), Goienak (ardal Deba), dotb (ardal Durango), ac ati. O ran darpariaeth tir a chebl, mae ETB 1 yn cwmpasu holl daleithiau Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg a Nafarroa, ond mae hefyd yn cyrraedd rhai tiriogaethau eraill sy'n ffinio â Gwlad y Basg (Aragon, Burgos, Cantabria ac Errioxa). Gall trigolion Gogledd Gwlad y Basg hefyd wylio ETB 1 (ynghyd ag ETB 3), trwy loeren, diolch i becyn Fransat rhad ac am ddim. Mae'r pecyn hefyd yn caniatáu derbyn teledu Basgeg yng ngweddill Ewrop, gan ddefnyddio lloeren Eutelsat 5 West A. Yn ogystal, gall bobl ledled y byd wylio'r sianel, oherwydd ers 2018 mae'n bosibl gwylio darllediadau byw ar ei gwefan swyddogol, ar unrhyw adeg, diolch i system Nahieran (ar alw).

Gellir olrhain gwreiddiau ETB 1 yn ôl i ETB, pan mai EITB oedd yr unig wasanaeth teledu cartref. O ddechrau'r 90au, dim ond ar y sianel deledu hon y dechreuwyd defnyddio'r Fasgeg. Yn 1986, fodd bynnag, crëwyd ail sianel dan adain EITB, ETB 2, a oedd yn darparu cynnwys yn Sbaeneg yn unig. Felly, fel yn achos gorsafoedd radio bryd hynny (Euskadi Irratia a Radio Euskadi), crëwyd le ar gyfer y naill iaith a'r llall ar sianeli teledu hefyd. Darlledodd ETB 1 ac ETB 2 eu rhaglenni yn y ddwy iaith i ddechrau, nes o'r diwedd roedd un iaith yn bodoli ym mhob un a rhannwyd y ddwy sianel yn gyfan gwbl yn ôl iaith. Yn ôl y model presennol, dim ond ETB 1 sy'n darlledu mewn Basgeg ac ETB 2 yn Sbaeneg yn unig.

Mae ETB 1 wedi gwneud ac yn gwneud sawl ymdrech i ddangos a hyrwyddo'r iaith Fasgeg, fel y gwelir yn y mathau o gynnwys y mae'n ei gynnig. Fodd bynnag, nid oes gan ei chwaer sianel, ETB 2, safle mor amlwg o blaid y Fasgeg, gan fod y rhaglenni y mae'n eu cynnig yn debyg i raglenni sianeli teledu Sbaeneg eraill, a dyna pam y mae'n cystadlu â gorsafoedd teledu lleol. Mae’r cynnwys arbennig a gynigir gan ETB 1 yn gwneud lle i ddiwylliant Gwlad y Basg, er enghraifft, drwy ddarlledu rhaglenni sy’n canolbwyntio ar bertsolaritza (trwy raglen Hitzetik Hortzera, er enghraifft), pêl-droed Basgeg (ETB Kantxa) neu chwaraeon traddodiadol. Mae hefyd yn gwneud lle i ddiwylliant Gwlad y Basg, awduron a chantorion Basgeg a gwyddonwyr y wlad. Yn yr un modd, cyn creu ETB 3, roedd ganddi raglennu helaeth i blant, gyda rhaglenni fel Betiz. Mae’n werth nodi bod cystadlaethau mawr a phwysicaf y byd chwaraeon (Cynghrair ACB neu Gynghrair y Pencampwyr) bob amser wedi cael eu darlledu yn y Fasgeg ar y teledu hwn.

Ers Ragfyr 21, 2016, mae gan ETB 1 fersiwn diffiniad uchel o'r enw ETB 1 HD. Disodlodd hyn y sianel deledu ETB HD a oedd yn rhedeg yn flaenorol, a oedd yn darlledu cymysgedd rhwng ETB 1 ac ETB 2.

Rhaglennu[golygu | golygu cod]

Yn ystod ei hanes hir, mae ETB 1 wedi cynhyrchu a darlledu amrywiaeth eang o sioeau, ynghyd â sawl ffilm a chyfres deledu.

Hitzetik Hortzera (O'r gair i'r dant)[golygu | golygu cod]

Dyma un o’r sioeau hynaf ar y teledu, gan iddi gael ei dangos am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 1988 ac mae'n parhau hyd heddiw.[1] Mae'n ymdrin â maes bertsolaritza ac wedi cyfrannu'n aruthrol at ei ehangu a'i hyrwyddo.[2][3] Roedd Felix Irazustabarrena, o gymdeithas y Bertsozale yn un o'r bobl a weithiodd yn galed ar greu'r rhaglen, ymhlith pethau eraill, gan ddiffinio'r pynciau y byddai'n eu cwmpasu a thywys y dynion camera. Pan oedd bertzolaritza ar dwf yn y 1980au, chwaraeodd Hitzetik Hortzera ran fawr, er ei bod yn sioe gydag adnoddau cyfyngedig iawn, oherwydd rhoddodd y gynulleidfa eang a chynnwys deniadol gryfder mawr iddi. Am y rheswm hwn, fe'i hystyrir yn un o bileri hirhoedledd y traddodiad.[1]

Nodwedd arall o’r rhaglen yw'r modd y mae wedi addasu dros y blynyddoedd, oherwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi symud i'r byd digidol, yn ogystal â rhoi sylw i’r lle y mae merched wedi’i chwarae yn bertsolaritza. Mae'r rhaglen hon wedi dwyn ynghyd "ecosystem gyfan y cantorion bertso",[4] yn ôl Eneritz Urkola, a oedd yn gyfarwyddwr yn 2018.[1]

Herri txiki infernu handi (Tref fach, uffern fawr)[golygu | golygu cod]

Daeth y rhaglen hon i fodolaeth ar Ionawr 4, 2015.[5] Yn ystod y rhaglen, mae’r cyflwynwyr Mikel Pagadizabal a Zuhaitz Gurrutxaga yn teithio i rai trefi yng Ngwlad y Basg i adrodd ar ddiwylliant lleol, arferion ac, yn anad dim, cymeriadau a troeon trwstan. Yn ogystal, mae'r bertsolarydd Sebastian Lizaso yn canu tri phennill byrfyfyr yn ystod rhaglen, sy'n tueddu i fod yn agos at y bobl y mae'r cyflwynwyr wedi cwrdd â nhw o gwmpas y dref. Yn ogystal, nodwedd arall o'r sioe yw'r rôl a chwaraeir gan y gynulleidfa, gan fod y cyflwynwyr, ar ôl ymweld â thref benodol, yn dangos y cyfweliadau a'r penodau y maent wedi'u recordio o flaen y cyhoedd. Yn y modd hwn, mae dinasyddion yn cofnodi eu hymatebion wrth wylio'r penodau ac weithiau hyd yn oed yn cymryd rhan.[5]

Dyma’r sioe fwyaf llwyddiannus i Euskal Telebista ei darlledu erioed, gyda chyfanswm o bum tymor wedi’u recordio a thua 95 o benodau, ynghyd â 15 o sioeau arbennig eraill. Yn 2019 roedd y rhaglen yn dal i fynd.

Cynulleidfa flwyddyn ar ôl blwyddyn[golygu | golygu cod]

Ystafell reoli sianel ETB 1, Bilbo.
CynulleidfaETB1
Blwyddyn Grafikoa Cyfran
1992
%4,3
1993
%5,5
1994
%5,1
1995
%5,9
1996
%6,7
1997
%7,5
1998
%6,7
1999
%5,4
2000
%4,6
2001
%5,3
2002
%5,6
2003
%6,2
2004
%5,3
2005
%5,0
2006
%4,4
2007
%3,7
2008
%3,4
2009
%3,2
2010
%2,2
2011
%2,0
2012
%2,1
2013
%2,1
2014
%2,0
2015
%1,9
2016
%1,9
2017
%2,0
2018
%2,2
2019
%2,0
2020 -----
2021
%2,2

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Berria.eus, "Bertsoa aldatu zuen saioa" (yn eu), Berria, https://www.berria.eus/paperekoa/1859/028/001/2018-12-28/bertsoa_aldatu_zuen_saioa.htm, adalwyd 2023-01-31
  2. "Hitzetik Hortzera: Bertsoak Euskal Telebistan | EiTB Hitzetik Hortzera" (yn eu), www.eitb.eus, https://www.eitb.eus/eu/telebista/programak/hitzetik-hortzera/
  3. "Hitzetik Hortzera — Bertsozale Elkartea" (yn eu), www.bertsozale.eus, https://www.bertsozale.eus/eu/hitzetik-hortzera
  4. Zabala, Juan Luis, "Meritu bikoitza" (yn eu), Berria, https://www.berria.eus/paperekoa/1876/036/002/2020-11-10/meritu-bikoitza.htm
  5. 5.0 5.1 "Mikel Pagadi eta Zuhaitz Gurrutxaga Euskal Herriko herri txikietan barrena" (yn eu), www.eitb.eus, https://www.eitb.eus/eu/telebista/programak/herri-txiki-infernu-handi/