Neidio i'r cynnwys

Whakaata Māori

Oddi ar Wicipedia
Whakaata Māori
Enghraifft o'r canlynolgorsaf deledu Edit this on Wikidata
IaithMāori
Dechrau/Sefydlu2004 Edit this on Wikidata
Perchennog
  • Llywodraeth Seland Newydd
  • Te Putahi Paoho
PencadlysAuckland Edit this on Wikidata
Gwefanwhakaatamaori.co.nz
Dwyrain Auckland a'r afon Tāmaki ger pencadlys y Sianel
Cerbyd gyda brandio Māori Television ym mhorthladd Auckland, 2014

Gorsaf deledu yn Aotearoa yw Whakaata Māori sy'n ceisio adfywio'r iaith Māori, "Te Reo Māori", a diwylliant Māori, "Tikanga Māori".[1] Gyda chyllid gan Lywodraeth Seland Newydd, sefydlwyd yr orsaf yn Auckland a dechreuodd ddarlledu ar 28 Mawrth 2004.[2] Mae pencadlys yr orsaf yn 433 East Tāmaki Road, sy'n faestref o ddinas Auckland ar Ynys y Gogledd yn Seland Newydd.

Lansiwyd y sianel yn dilyn Deddf Gwasanaeth Teledu Maori 2003 (Maori Television Service Act) a ddywedodd, “Prif swyddogaeth y Gwasanaeth yw hyrwyddo te reo Maori me nga tikanga Maori [Iaith Maori a diwylliant Maori] trwy ddarparu gwasanaeth teledu Maori cost-effeithiol o ansawdd uchel, yn y Maori a’r Saesneg, fel ei gilydd. yn hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu cynulleidfa eang, ac, wrth wneud hynny, yn cyfoethogi cymdeithas, diwylliant a threftadaeth Seland Newydd".[3]

Cyllideb

[golygu | golygu cod]

Mae'r sianel yn gweithredu ar gyllideb gyfyngedig y rhwydwaith, sef NZ$34.7m yn 2016 (oddeutu £16.3m, tua chwarter cyllideb flynyddol S4C yng Nghymru) gyda’r mwyafrif helaeth yn dod gan y llywodraeth.[4]

Logo Māori Television cyn newid enw'r sianel yn swyddogol i Whakaata Māori yn 2022

Mae'r enw "Whakaata Māori" wedi bod yn swyddogol ers 2022, ond mae wedi cael ei ddefnyddio fel enw de facto Māori ar y sianel ers ei sefydlu. Hyd at 2022, Māori Television, yr enw Saesneg, oedd enw swyddogol de jure ar y sianel.

Mae'r gair "Whakaata" yn golygu "i adlewyrchu" ac "i arddangos". Defnyddir "Whakaata" hefyd fel rhan o'r cyfansoddyn "pouata whakaata", sy'n llythrennol yn golygu "blwch arddangos", yn ei dro, "teledu".[5]

Newidiodd yr orsaf ei henw i Maori Television Tahi ("Teledu Maori Un") ar ddiwedd 2007, wrth i orsaf newydd, Maori Television Rua ("Teledu Maori Dau"), ddechrau rhaglennu. Newidiwyd yr enwau ill dau eto wedyn i "Whakaata Māori" ac i "Te Reo".

Te Reo - Ail Sianel

[golygu | golygu cod]

Lansiwyd ail sianel, Te Reo ("yr iaith") ar 28 Mawrth 2008 ac mae'n cynnig 100% o'i rhaglenni yn Maori, heb isdeitlau Saesneg. [6] Mewn cyferbyniad â'r brif sianel, mae'n rhydd o hysbysebion ac yn gyfan gwbl yn yr iaith Māori (heb is-deitlau). Mae Te Reo yn cynnwys rhaglenni llwythol arbennig gyda ffocws arbennig ar raglenni newydd ar gyfer aelodau rhugl ei gynulleidfa.

Darlledir rhaglenni Channel 1 rhwng 6:30a.m. a 11:30p.m. ac mae llawer o'i raglenni yn Māori. Darlledir y rhaglen newyddion, Te Kaea, am 5:30 p.m. gydag ailddarllediadau gydag isdeitlau Saesneg. Mae'r rhaglen oriau brig yn Saesneg.

Gwasanaeth Newyddion

[golygu | golygu cod]

Yn 2021, lansiodd Māori TV wasanaeth newyddion o'r enw Te Ao Māori News ac ap ffrydio o'r enw MĀORI+ i ymestyn eu cynulleidfa a gwneud eu cynnwys yn fwy hygyrch i wylwyr.[5]

Rhaglenni

[golygu | golygu cod]
Cyfweliad ar gyfer y Sianel, 2016

Ymhlith arlwy'r sianel mae:

  • Te Kaea: Newyddion bob nos
  • Homai Te Paki Paki: doniau gwych, cerddoriaeth wych
  • Ma Tatou: Sioe Iwi-tainment ("iwi" = llwyth)
  • Korero Mai: Opera sebon yn iaith Māori
  • Tau Ke: Rhaglen i blant
  • Haa, Tu Wera: Rhaglenni ieuenctid
  • Ora: Sioe goginio
  • kapa haka: Dawns traddodiadol
  • What’s up with the Tumoanas (fersiwn Maori o gyfres Americanaidd am dylwyth or-gyfoethog y Kardashian)[4]

Llwyddiannau

[golygu | golygu cod]

Yn ei fis cyntaf un ar yr awyr, cyrhaeddodd Teledu Māori gynulleidfa o 300,000 o bobl ar unwaith.[7] Dair blynedd yn ddiweddarach, ym mis Ebrill 2007, cyrhaeddodd Teledu Māori 722,000 o wylwyr, cynnydd o 140 y cant. Rhwng mis Mawrth 2004 a diwedd 2007, gwyliodd mwy na 1.7 miliwn o Seland Newydd raglenni'r sianel.[8]

Mae 70 y cant o bobl Māori dros 5 oed wedi gwylio Teledu Māori; 73 y cant o holl Ynyswyr Cefnforol; 43 y cant o Seland Newydd Pākehā (pobl wyn); a 32 y cant o Seland Newydd Asiaidd. Mae mwy na 97 y cant o boblogaeth Seland Newydd yn ymwybodol o Deledu Māori, mae 67 y cant o'r boblogaeth gyfan wedi gweld y rhaglen, ac mae 82 y cant o'r boblogaeth gyfan yn cefnogi Teledu Māori fel rhan barhaol o'r dirwedd deledu leol.

Cynnal Traddodiadau

[golygu | golygu cod]

Nodweddwyd lansiad darllediad y sianel newydd gan llafar-ganu cyfarchion yn y dull traddodiadol. Gwisgau'r mynychwyr, ddaeth yn actorion a chynulleidfa i'r darllediad byw ar doriad gwawr yn rhan o'r digwyddiad. Daliwyd fflangellau tân yn y lawnt y tu allan i'r stiwdio oedd hefyd yn bencadlys ac yna gorymdeithiodd y mynychwyr i'r adeilad. Gwisgai rhai pobl wisg traddodiadol neu gwn draddodiadol fel rhan o'r achlysur hanesyddol.[9]

Bob bore yn Teledu Maori, bydd cloch yn cael ei chanu a'r staff yn ymgynnull ar gyfer y karakia dyddiol. Wrth i weithwyr blygu eu pennau, darllenir swynganeuon yn yr iaith Maori am arweiniad ysbrydol ac amddiffyniad i ddechrau'r diwrnod. Daw’r seremoni i ben gyda chân cyn i bawb ddychwelyd i’w gwaith a’r gohebwyr baratoi ar gyfer cyfarfod golygyddol y bore.[4]

Cysylltiadau rhyngwladol

[golygu | golygu cod]

Yn 2024 arwyddodd y Whakaata Māori a sianel deledu Gwyddeleg, TG4, bartneriaeth strategol i gynnal gwerthoedddDiwylliannol ac adnoddau cyfnewid. Llofnodwyd y ddogfen yn y 45ain Ŵyl Cyfryngau Celtaidd a gynhaliwyd y flwyddyn honno yng Nghaerdydd. Nodwyd ei bod yn garreg filltir bwysig wrth wella'r cysylltiad rhwng y cymunedau Māori a Gwyddeleg.[10]

Hyd at 2024 nid oedd perthynas swyddogol rhwng y sianel Māori ac S4C.

Dolenni allannol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Impact of Mäori Television on the Mäori Language (Adroddiad). Te Puni Kōkiri. July 2011. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2017-05-03. https://web.archive.org/web/20170503213241/https://www.tpk.govt.nz/documents/download/271/Impact-Survey-Maori-Television.pdf. Adalwyd 2017-10-17. "The Impact Survey results show a consistent relationship between greater viewing of Mäori Television and increasing language usage, greater language learning, and proficiency increases and maintenance. Collectively these outcomes point towards Māori Television having a marked positive contributing impact on Mäori language revitalisation."
  2. Bagge, Holly (2016-03-11). "Doing a lot with a little: Māori TV gears up for its new season of programming". StopPress. Cyrchwyd 2020-12-03. Unknown parameter |archive= ignored (help)
  3. "Maori Television Service Act 2003". Gwefan newzealand.fandom.com. Cyrchwyd 13 Awst 2024.
  4. 4.0 4.1 4.2 Bergman, Justin. "Spreading the Word". Monocle Magazine. Cyrchwyd 13 Awst 2024.
  5. 5.0 5.1 "The Dawn Of A New Era. Māori Television Unveil New Name – Whakaata Māori". Scoop.co.nz. 23 May 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 May 2022. Cyrchwyd 26 June 2009.
  6. Māori Television (9 Mawrth 2008). "Māori Television launches second channel". Māori Television. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Ionawr 2008.
  7. "Non-Maori fans of Maori TV". New Zealand Herald. 24 Mehefin 2004. Cyrchwyd 20 Chwefror 2022.
  8. "Maori Television Marks Fifth On-Air Anniversary". Throng. 26 Mawrth 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Chwefror 2012. Cyrchwyd 26 Mehefin 2009.
  9. "Māori Television Launch". NZ Onscreen. Cyrchwyd 13 Awst 2024.
  10. "TG4 (Ireland) and Whakaata Māori (New Zealand) Forge Strategic Partnership to Uphold Cultural Values and Exchange Resources". TG4. 5 Mehefin 2024.
Eginyn erthygl sydd uchod am Seland Newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.