Ffranco-Brofensaleg

Iaith Romáwns yw Arpitaneg neu Franco-Brofensaleg (francoprovençâl, arpetan neu patouès) a siaredir yn nwyrain canol Ffrainc, gorllewin y Swistir a gogledd-orllewin yr Eidal. Mae ganddi nifer o dafodieithoedd ac mae'n perthyn yn agos i'r ieithoedd Romáwns cyfagos: ieithoedd Oïl, Ocsitaneg, Galo-Eidaleg a Romaunsch. Rhoddwyd yr enw Franco-Brofensaleg i'r iaith gan Graziadio Isaia Ascoli yn y 19g oherwydd ei bod yn rhannu nodweddion â Ffrangeg a Phrofensaleg heb fod yn un neu'r llall.
Dosraniad
[golygu | golygu cod]Siaradwyd Arpitaneg yn draddodiadol yn yr ardaloedd canlynol (Arpitania):
Ffrainc
[golygu | golygu cod]- Y rhan fwyaf o'r hen ranbarth Rhône-Alpes: Savoie, Forez, Bresse, Dombes, Revermont, Gex, Bugey, Lyon, Gogledd Dauphiné, rhan o Franche-Comté, a Saône-et-Loire.
Yr Eidal
[golygu | golygu cod]- Dyffryn Aosta, ac eithrio'r cymdogaethau Walser Gressoney-Saint-Jean, Gressoney-La-Trinité ac Issime, yn Nyffryn Lys.
- Nifer fawr o gymdogaethau yn rhannau uchaf Dyffrynnoedd Arpitaneg Piemont
- Dau gilfach yn ardal y Pouilles o ganlyniad i all-fudo yn yr 14g: Faeto/Fayet a Celle di San Vito/Cèles de Sant Vuite.
Noder: Ocsitaneg a siaredir yn y dyffrynnoedd yn Ne Piemont (Dyffryn Suse, Dyffryn Cluson)
Swistir
[golygu | golygu cod]Y cyfan o'r ardal romand ble mae'r Ffrangeg yn iaith swyddogol (ac eithrio canton Jura ac ardal Moutier (yng nghanton Berne), sy'n rhan o ardal y Langues d'Oïl.
|