Euskaltegi

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Euskaltegi (canolfan iaith) AEK yn nhref Durango
Dysgwyr yn Gabriel Aresti Euskaltegi, dinas Bilbo

Mae Euskaltegi yn ganolfan ar gyfer dysgu Euskara – yr iaith Fasgeg - i oedolion.

Sefydlwyd yr Euskaltegis cyntaf yn y 1960au a 1970au pan orfodwyd y Sbaeneg yn unig iaith swyddogol Gwlad y Basg gan lywodraeth Madrid. Roedd cenhedlaeth gyfan o Fasgwyr wedi'u hatal rhag dysgu eu hiaith eu hunain yn yr ysgol ers Rhyfel Cartref Sbaen, llawer yn methu ei siarad o gwbl ac eraill ddim ond yn gallu ei siarad ond yn methu ei darllen neu'i hysgrifennu.

Tyfaint yr Euskaltegis[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae cannoedd o Euskaltegi bellach wedi'u lleoli ym mhob rhan o Euskal Herria (Gwlad y Basg), yn cynnwys yr ardaloedd yn Ffrainc a Nafarroa (Sbaeneg: Navarra).

Mae'r dosbarthiadau nos yr Euskaltegis wedi bod yn hynod o lwyddiannus gyda miloedd o bobl yn llwyddo dysgu'r iaith yn rhugl.

Cynhelir yr Euskaltegis gan awdurdodau addysg lleol, mudiad AEK (Llythrennedd a Chydweithrediad dros Fasgeg) a chwmnïau a phrosiectau preifat.

Yn yr Euskaltegis mae modd sefyll arholiadau angenrheidiol ar gyfer swyddi. Mae'r Euskaltegis hefyd yn rhoi cryn bwyslais ar lythrennedd gan gynorthwyo oedolion sydd yn siaradwyr Euskara yn barod i fod yn hyderus ysgrifennu a darllen yr iaith.

Ers y 1970au sefydlwyd senedd hunanlywodraethol yn debyg i Gynulliad Cymru mewn tair o saith talaith Gwlad y Basg. Yn yr ardaloedd yma mae'r Llywodraeth Basgeg yn noddi'r Euskaltegis a'r iaith Fasgeg yn cyffredinol.

Ond yn y tair talaith yn Ffrainc a hefyd Nafarroa (Sbaeneg: Navarra, talaith nid yw lywodraeth Sbaen yn cydnabod fel rhan o weddill Gwald y Basg) mae statws a defnydd swyddogol o'r iaith dal yn gyfyngedig iawn. Yn fan hyn mae angen i gefnogwyr a myfyrwyr codi arian sylweddol i gynnal yr Euskaltegis.

Korrika[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhedwyr y Korrika

Pob yn ail flwyddyn, ers 1980, cynhelir y Korrika (Rhedeg) er mwyn codi arian ar gyfer AEK, ac annog pobl i ddysgu Basgeg.

Rhediad 2300 km (1400 milltir) ydy'r Korrika gyda miloedd o bobl yn rhedeg, yn eu tro, rhannau'r marathon trwy'r dydd a trwy'r nos am 11 diwrnod dros Wlad y Basg.[1][2]

Mae arian yn cael ei godi trwy 'brynu' neu noddi cilomedrau'r rhedwyr.

Wedi'i ysbrydoli gan y Korrika, cynhaliwyd Ras yr Iaith dros y Gymraeg am y tro cyntaf ar Wener 20 Mehefin 2014.[3]

Darllen Pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

Lleoliad Gwlad y Basg
Taleithiau Gwlad y Basg
  • Korrika: Basque Ritual For Ethnic Identity (The Basque Series), Teresa Del Valle, ISBN 978-0874172157
  • Gwlad y Basg - Yma o Hyd! Hanes Goroesiad Cenedl - Robin Evans, 2012. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 9781845273316 (1845273311)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]