AEK

Oddi ar Wicipedia
AEK
Enghraifft o'r canlynolAdult School, cyhoeddwr Edit this on Wikidata
IaithBasgeg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1985 Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadSecretary General of AEK Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.aek.org Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Euskaltegi (canolfan iaith) AEK yn nhref Durango

Mae Alfabetatze Euskalduntze Koordinakundea - AEK (Llythrennedd a Chydweithrediad dros Fasgeg) yn fudiad a sefydlwyd ym 1976 i hyrwyddo Euskara – yr iaith Fasgeg trwy ei dysgu fel ail iaith i oedolion.

Mae AEK hefyd yn rhoi cryn bwyslais ar lythrennedd ac yn annog a chynorthwyo oedolion sydd yn siaradwyr Euskara yn barod i fod yn hyderus ysgrifennu a darllen yr iaith.

Mae AEK wedi datblygu rhwydwaith eang o dros 100 Euskaltegi (canolfannau dysgu'r iaith Fasgeg) sydd yn cyflogi dros 600 o athrawon. Mae'r Euskaltegi bellach wedi'u lleoli ym mhob rhan o Euskal Herria (Gwlad y Basg), yn cynnwys yr ardaloedd yn Ffrainc a Nafarroa (Sbaeneg: Navarra).

Dechreuwyd AEK ar ddiwedd cyfnod pan orfodid y Sbaeneg yn unig iaith y wlad gan lywodraeth Madrid.

Ers y 1970au sefydlwyd senedd hunanlywodraethol yn debyg i Gynulliad Cymru mewn tair o saith talaith Gwlad y Basg. Yn yr ardaloedd yma mae'r llywodraeth Basgeg yn noddi'n hael gweithgaredd AEK.

Ond yn y tair talaith yn Ffrainc a hefyd Nafarroa (Sbaeneg: 'Navarra', talaith nid yw lywodraeth Sbaen yn cydnabod fel rhan o weddill Gwlad y Basg) mae statws a defnydd swyddogol o'r iaith dal yn gyfyngedig iawn.

Korrika[golygu | golygu cod]

Rhedwyr y Korrika
Croesawu'r Korrika

Pob yn ail flwyddyn, ers 1980, cynhelir y Korrika (Rhedeg) er mwyn codi arian ar gyfer AEK, ac annog pobl i ddysgu Basgeg.

Rhediad 2300 km (1400 milltir) ydy'r Korrika gyda miloedd o bobl yn rhedeg, yn eu tro, rhannau'r marathon trwy'r dydd a trwy'r nos am 11 diwrnod dros Wlad y Basg.

Mae arian yn cael ei godi ar gyfer AEK trwy 'brynu' neu noddi cilomedrau'r rhedwyr.

Mae rhedwr ar flaen y Korrika yn dal yn uchel 'y tyst' sef pastwn pren, yn debyg i'r modd mae rhedwr Olympaidd yn dal y fflam. Mae pastwn 'y tyst' yn cael ei basio ymlaen i redwr nesaf pob cilomedr. Wrth i'r Korrika cael ei rhedeg dydd a nos mae'n meddwl bod pastwn 'y tyst' yn mynd o law i law yn ddi-stop am 11 diwrnod.[1][2]

Wedi'i ysbrydoli gan y Korrika, cynhaliwyd Ras yr Iaith dros y Gymraeg am y tro cyntaf ar Wener 20 Mehefin 2014. Yn ystod y dydd, rhedodd hyd at 1,000 o bobl o Senedd-dy Glyn Dŵr ym Machynlleth trwy ganol trefi Aberystwyth, Tregaron, Llambed, Aberaeron, Cei Newydd, Llandysul, Castell Newydd Emlyn ac Aberteifi[3]

Darllen Pellach[golygu | golygu cod]

Lleoliad Gwlad y Basg
Taleithiau Gwlad y Basg
  • Korrika: Basque Ritual For Ethnic Identity (The Basque Series), Teresa Del Valle, ISBN 978-0874172157
  • Gwlad y Basg - Yma o Hyd! Hanes Goroesiad Cenedl - Robin Evans, 2012. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 9781845273316 (1845273311)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-13. Cyrchwyd 2015-03-24.
  2. http://www.euskomedia.org/aunamendi/54923
  3. http://rasyriaith.cymru/

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]