Balans cyllidol Cymru

Oddi ar Wicipedia
Cydbwysedd cyllidol net Cymru (coch) a'r Deyrnas Unedig (glas). Mae sero yn cynrychioli cydbwysedd tra bod y niferoedd negyddol yn ddiffygion a fesurir yn y ganran o gynnyrch mewnwladol crynswth

Mae gan Gymru, fel pob gwlad arall, falans cyllidol negyddol fel rhan o'r Deyrnas Unedig, sydd yn golygu fod mwy o arian cyhoeddus yn cael ei wario nag sydd yn cael ei godi mewn trethi. O fewn y Deyrnas Unedig, mae gan y rhan fwyaf o ranbarthau hefyd falans cyllidol negyddol, yn ogystal a'r wladwriaeth gyfan.

Dywed rhai nad yw balans cyllidol Cymru mewn gwirionedd yn perthyn i Gymru ond yn cael ei 'rhedeg yn enw Cymru' gan mai llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd â'r rhan fwyaf o bwerau dros drethiant yng Nghymru.

Mae rhai yn awgrymu y gall Cymru gael balans cyllidol positif pe bai'n wlad annibynnol gyda'r hawl i newid polisïau gwariant a threthi.

Diffyg cyllidol[golygu | golygu cod]

Mae gan Gymru a Lloegr ddiffyg cyllidol gan fod gwariant cyhoeddus y ddwy wlad yn fwy na’r refeniw treth. Mae rhai yn awgrymu nad yw'r diffyg yn ddiffyg Cymreig, gan nad oes gan Gymru bwerau sylweddol dros drethiant, nad yw’n gosod ei chyllideb ei hun ac felly mai diffyg cyllidol bwriadol (gan y Deyrnas Unedig) yw hi mewn gwirionedd. Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd yn dal llawer o’r pwerau cyllidol hyn.[1][2]

Oherwydd COVID-19, cynyddodd diffyg cyllidol net Cymru o £14.4 biliwn yn 2020 i £25.9 biliwn yn 2021. Roedd gan bob gwlad a rhanbarth arall yn y Deyrnas Unedig ddiffyg cyllidol hefyd yn 2021; roedd diffyg Gogledd Orllewin Lloegr yn £-49.9 biliwn; un yr Alban yn £-36 biliwn; un Gogledd Iwerddon yn £-18 biliwn ac un Llundain yn £-7.2 biliwn.[3]

Balans cyllidol net fesul gwlad a rhanbarth y pen yn y Deyrnas Unedig, 2017–18

Mae gan Gymru falans cyllidol o £-4,300 y person, sef yr ail uchaf o’r rhanbarthau economaidd, ar ôl diffyg cyllidol Gogledd Iwerddon, sef bron i £5,000 y pen.[4][5] Mae refeniw treth y pen yng Nghymru yn 76% o gyfartaledd y Deyrnas Unedig, ond mae gwariant yn 108%. Mae Cymru'n gwario mwy ar nawdd cymdeithasol na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig; mae gwariant cyfalaf ar seilwaith fel trafnidiaeth (nad yw wedi’i ddatganoli i Gymru) gryn dipyn yn llai.[6]

Mewn cymhariaeth, roedd diffyg cyllidol cyfan y Deyrnas Unedig yn £350 biliwn rhwng 2019-2020.[7] Mae cyfanswm dyled gyhoeddus y Deyrnas Unedig yn fwy na £2 triliwn (sy'n cyfateb i 85% o gynnyrch mewnwladol crynswth).[8][9]

Yn 2016, gwariodd Cymru £14.7 biliwn yn fwy nag y caniatawyd i’w gasglu mewn refeniw lleol, a ostyngodd i £13.7 biliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2018–19, oherwydd gostyngiad mewn gwariant cyhoeddus. Cyrhaeddodd gwariant cyhoeddus uchafbwynt yn 2011–12.[10][5]

Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018–19, bu'r diffyg cyllidol tua 19.4% o gynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) amcangyfrifedig Cymru, o’i gymharu â 2% ar gyfer y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd.[6]

Blwyddyn Diffyg cyllidol y Deyrnas Unedig fel canran o gynnyrch mewnwladol crynswth Diffyg cyllidol Cymru fel canran o gynnyrch mewnwladol crynswth Gwahaniaeth
2021-22 -6.4% [11]
2020-2021 -14.8% [12] (£25.9 biliwn o ddiffyg, [13] cynnyrch mewnwladol crynswth anhysbys)
2019-2020 -2.7% [14] -18.4% [14] -15.7%
2018-19 -2.0% [15] -18.0% [15] -16.0%
2017-18 -2.0% [16] -19.4% [16] -17.4%
2016-2017 -2.3% [16] -19.6% [16] -17.3%
2015-2016 -3.8% [16] -21.3% [16] -17.5%
2014-2015 -4.8% [16] -22.5% [16] -17.7%
2013-2014 -5.5% [16] -23.5% [16] -18%
2009-2010 -7.4% [11] -29.5% [14] -22.1%

Goblygiadau[golygu | golygu cod]

Mae Cymru'n gwario 11% yn fwy fesul person na Lloegr. Nododd yr economegydd Cymreig Ed Gareth Poole nad yw trosglwyddiadau cyllidol rhwng rhannau cyfoethocach a thlotach gwlad sofran yn anarferol.[6]

Y diffyg mewn Cymru annibynnol[golygu | golygu cod]

Canfu astudiaeth yn 2023 gan dri ymchwilydd yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd fod y diffyg yn golygu "rhagolygon economaidd anodd ar gyfer Cymru annibynnol", ac argymhellwyd y dylai dadl gyfansoddiadol ystyried y realiti ariannol.[17]

Mae’r ffigwr wedi’i feirniadu fel un sy’n camliwio’r sefyllfa ariannol wirioneddol y byddai Cymru annibynnol yn ei phrofi. Mae sylwebwyr yn dadlau y gallai Cymru sofran godi refeniw ychwanegol (ee trosglwyddo Ystadau'r Goron i Gymru) a lleihau gwariant ar eitemau nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig ag economi Cymru. Awgrymodd yr economegydd Cymreig, Dr John Ball y gallai llywodraeth Cymru annibynnol lenwi’r diffyg yn y gyllideb drwy sefydlu treth gwerth tir (a fyddai'n codi tua £6 biliwn y flwyddyn), treth dwristiaeth ac “archwilio rhai ffyrdd o wella refeniw trethiant y wladwriaeth sofran”. Yn ei farn ef, mae refeniw TAW o fusnesau nad ydynt yn eiddo i drigolion Cymru yn cael ei danamcangyfrif yn y data refeniw cyfredol, sy'n golygu efallai na fydd y diffyg mor uchel ag y mae'n ymddangos.[18][19]

Mae Ball hefyd yn awgrymu bod cost amddiffyn Cymru o £3bn yn ormodol a bod 3% o gynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) yn fwy nag unrhyw wlad arall. Mae hefyd yn nodi bod pensiynwyr sy’n dod i mewn i Gymru o Loegr yn costio £2bn i'r wlad a bod “addasiad cyfrifyddu” yn costio £3bn arall.[18] Mae’r nifer helaeth o berchnogaeth busnes o'r tu allan i Gymru yn ei gwneud yn anodd i amcangyfrif faint o TAW a gesglir mewn gwirionedd yng Nghymru ac a ddyrennir i bencadlys busnes yn Lloegr. Byddai llywodraeth Gymreig annibynnol yn penderfynu faint i'w wario ar faterion fel amddiffyn a gallai gael ei harian cyfred ei hun.[20]

Yn ôl y gwyddonydd gwleidyddol John Doyle o Brifysgol Dinas Dulyn, byddai'r diffyg ariannol yn "nyddiau cynnar" Cymru annibynnol tua £2.6bn. Mae hyn yn cyfateb i lai na 3.4% o gynnyrch mewnwladol crynswth, sy'n cymharu â chyfartaledd o 3.2% ar gyfer gwledydd yr OECD yn 2019.[21]

Mae'r grŵp Melin Drafod wedi awgrymu y gallai Cymru annibynnol gael gwarged cyllid o £3 biliwn y flwyddyn y gellid ei ddefnyddio i ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Mae Melin Drafod yn dweud y gallai'r refeniw hwn gael ei godi drwy drethiant gwahanol a newidiadau polisi eraill.[22][23]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Why framing the union as a progressive force is pure dogma". Nation Cymru. Nation Cymru. 17 January 2021. Cyrchwyd 16 February 2021.
  2. "Allow Welsh Government to borrow more, says Mark Drakeford". BBC. BBC. 16 Mai 2018. Cyrchwyd 17 Chwefror 2021.
  3. "Country and regional public sector finances, UK - Office for National Statistics". www.ons.gov.uk. Cyrchwyd 2023-03-12.
  4. Birnie, Esmond (18 Chwefror 2020). "Scrutinising Northern Ireland's sizeable fiscal deficit is interesting". Belfast Telegraph. Cyrchwyd 23 Ebrill 2020.
  5. 5.0 5.1 Rutter, Calum (2 Awst 2019). "Welsh spending cuts cause deficit reduction, says study". Public Finance. Cyrchwyd 23 Ebrill 2020.
  6. 6.0 6.1 6.2 "Shortfall in public finances in Wales due to lower revenues, report finds". Cardiff University (yn Saesneg). 2 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 23 April 2020.
  7. "UK set to borrow £350b and more is likely: think tank". Business Times. 9 July 2020. Cyrchwyd 30 Ionawr 2021.
  8. Government Expenditure and Revenue Wales 2019 (Adroddiad). 2019. https://www.cardiff.ac.uk/__data/assets/pdf_file/0004/1540498/Government-Expenditure-and-Revenue-Wales-2019.pdf.
  9. Barry, Professor Mark (4 Ionawr 2021). "The Environment, Tax and Wales". swalesmetroprof.blog. Cyrchwyd 13 Ionawr 2021.
  10. Dickins, Sarah (29 Gorffennaf 2019). "Tax and public spending gap narrows in Wales". BBC News. Cyrchwyd 23 April 2020.
  11. 11.0 11.1 Pettinger, Tejvan. "UK Budget Deficit". Economics Help (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-08-01.
  12. "Country and regional public sector finances, UK - Office for National Statistics". www.ons.gov.uk. Cyrchwyd 2022-07-30.
  13. "Country and regional public sector finances, UK - Office for National Statistics". www.ons.gov.uk. Cyrchwyd 2022-07-30.
  14. 14.0 14.1 14.2 Ifan, Guto (2022). Devolution, independence and Wales' fiscal deficit (PDF). Cardiff University. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2022-10-03. Cyrchwyd 2023-04-23.
  15. 15.0 15.1 Ifan, Guto (2020). Wales' Fiscal Future: A path to sustainability? (PDF). Wales Fiscal Analysis (Cardiff University).
  16. 16.00 16.01 16.02 16.03 16.04 16.05 16.06 16.07 16.08 16.09 Ifan, Guto (2019). Wales Fiscal Analysis (PDF). Wales Fiscal Analysis (Cardiff University).
  17. Ifan, Guto; Siôn, Cian; Wincott, Daniel (2022). "DEVOLUTION, INDEPENDENCE AND WALES’ FISCAL DEFICIT". National Institute Economic Review 261: 16–33. doi:10.1017/nie.2022.8.
  18. 18.0 18.1 Ball, John (25 Ionawr 2019). "Is Wales really too poor to be independent?". Institute of Welsh Affairs. Cyrchwyd 23 Ebrill 2020.
  19. Ball, Dr John (5 Gorffennaf 2019). "Does Wales have the tax base to make independence viable?". birminghampost. Cyrchwyd 23 Ebrill 2020.
  20. Ifan et all, Guto. Wales' Fiscal Future: A Path to Sustainability. Cardiff University. pp. 7–9. https://www.cardiff.ac.uk/__data/assets/pdf_file/0004/1767424/Wales_Fiscal_Future_FINAL.pdf. Adalwyd 17 February 2021.
  21. "'Game changing' figures a major boost to case for Wales independence, says Plaid". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2022-09-29. Cyrchwyd 2022-09-29.
  22. "An Independent Wales could invest billions more in public services - report". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2023-01-27. Cyrchwyd 2023-04-23.
  23. "GWIREDDU'R GYMRU ANNIBYNNOL CYLLID — PAPUR TRAFOD" (PDF).