Argyfwng economaidd 2008–presennol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
     Gwledydd mewn dirwasgiad swyddogol (am ddau chwarter ar ôl ei gilydd)      Gwledydd mewn dirwasgiad answyddogol (un chwarter)      Gwledydd gyda dirywiad o 1% neu fwy yn eu heconomi      Gwledydd gyda dirywiad o 0.5% neu fwy yn eu heconomi      Gwledydd gyda dirywiad o 0.1% neu fwy yn eu heconomi      Gwledydd lle mae eu heconomi'n tyfu      N/A Rhwng 2007 a 2008, fel amcangyfrifon gan yr IMF (International Monetary Fund)
Twf GDP gwledydd y Byd, 2009; mae'r gwledydd mewn brown mewn dirwasgiad.

Yn ystod 2008–2011 fe ddirywiodd economi'r byd i lefelau nas gwelwyd erioed cyn hynny. Yn ystod yr amser yma, a elwir yn argyfwng economaidd 2008-presennol (Saesneg: The Great Recession), cafwyd gostyngiad sylweddol mewn prisiau tai ac eiddo, gostyngiad ym marchnadoedd stoc y byd a nifer o fanciau yn mynd i'r wal.[1][2] Un o'r mesurau a gymerwyd yng ngwledydd y Gorllewin i geisio atal yr argyfwng oedd lliniaru meintiol.

Caiff economi gwlad ei alw'n "argyfwng economaidd" pan fo gwlad mewn dyled neu ddiffyg o ran ei GDP am ddau chwarter ar ôl ei gilydd. Parodd yr argyfwng, yn ôl y diffiniad hwn rhwng Q4-2011 hyd at Q2-2012 (9 mis).[3]

Ar ddechrau'r argyfwng cafwyd sawl cyhoeddiad negyddol am system forgais Unol Daleithiau America; deilliodd yr argyfwng o'r hyn a elwid yn 'fenthyg tocsig', sef trachwant cwmniau i wneud elw ac i roi morgeisi i bobl nad oeddent yn medru fforddio ei dalu'n ôl. Ymledodd yr argyfwng tai hwn a elwid yn Subprime mortgage crisis drwy'r byd. Dyma gychwyn y dirwasgiad byd-eang. Gwelwyd pris olew yn dyblu mewn ychydig fisoedd ychydig cyn hyn, ac yna yn ôl i tua $85 y gasgen yn Medi 2008. Gwelwyd hefyd diweithdra'n codi drwy'r byd a dyblodd rhwng Mehefin a Chwefror 2009 yng Ngwledydd Prydain - o 1 miliwn i tua dwy filiwn o bobol.

O ganol 2008 ymlaen cafwyd hefyd argyfwng global ceir a ddeilliodd (unwaith eto) yn America, ac yna yn Ewrop a Japan. Aeth pethau'n ddrwg iawn ar General Motors yn Ebrill a Mai 2009. Syrthiodd incwm cyfartalog teuluoedd UDA 35%: o $106,591 yn 2005 i $68,839 yn 2011.[4]

Prisiau Uchel[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn Ionawr 2008 pasiodd pris olew y garreg filltir bwysig honno o $100 y gasgen. Erbyn Gorffennaf roedd olew yn $147 y gasgen. Yr adeg hon hefyd, gwelwyd codiad sylweddol ym mhrisiau bwyd.

Pris olew Brent (mewn Doleri) rhwng 1987 a 2011.

Enghraifft arall o'r chwyddiant byd-eang hwn ydy Asid Swlffiwric - a oedd chwe gwaith ei bris arferol erbyn diwedd haf 2008.

Yr Argyfwng yn yr Unol Daleithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafwyd argyfwng yn y byd morgeisi yn yr Unol Daleithiau, o'r enw 'The Sub-prime Chrisis'; argyfwng a gychwynodd oherwydd trachwant llawer o gwmniau yn rhoi benthyciadau o dros 110% o bris yr eiddo, benthyciadau amheus eraill a phrynu-a-gwerthu morgeisi risg uchel. Collwyd llawer o'r gweithlu yn yr un cyfnod. O ganlyniad, aeth llawer o gwmniau i'r gwellt, gan gynnwys: 'Bear Stearns' a chwmni Lehman Brothers (Medi 2008). Cenedlaetholwyd y benthycwyr Fannie Mae a Freddie Mac gan iddynt fynd i drafferthion ariannol enbyd.

Aeth pethau'n fler hefyd ar sefyllfa arian yr Unol Daleithiau, gyda Merrill Lynch yn cael ei brynu gan Fanc America oherwydd i'r cwmni yswiriant bron a methu parhau. Plymiodd y gyfradd i lawr yn "Wall Street" ar Fedi 15 ac eto ar 10 Hydref 2008. Yn ystod y flwyddyn 2008 (hyd at Hydref) aeth 81 cwmni ariannol i'r wal yn yr Unol Daleithiau.

Ym Medi, gwnaed 'short selling' yn anghyfreithlon. Ychydig wedyn, cytunodd senedd y wlad i achub y banciau drwy roi rhwng 700 biliwn a thriliwn o ddoleri iddynt.

Yn Rhagfyr 2008, cyhoeddodd y 'National Bureau of Economic Research' fod yr Unol Daleithiau wedi bod mewn argyfwng economaidd ers Rhagfyr 2007, a chyhoeddodd sawl economegydd nad oedd golau dydd i'w weld yn nhynel du'r argyfwng, ac na fedrant broffwydo gwelliant yn yr economi tan o leiaf 2011.[5] Dyma'r argyfwng economaidd gwaethaf ers yr hyn a elwid yn 'Great Depression' yn yr 1930au[6]<

Yr Argyfwng yn Ewrop[golygu | golygu cod y dudalen]

Deg gwlad mwyaf eu heconomi - gan gyfrif yr Undeb Ewropeaidd fel un wlad; mwyaf o ran Cynnyrch mewnwladol crynswth yn 2011.[7]

Cyhoeddodd Denmarc ei bod mewn cyflwr o ddirwasgiad mor gynnar ag Ebrill 2008. Dilynwyd hi gan Estonia a Latfia.

Ar 6 Hydref 2008 dywedodd Geir Haarde, Prif Weinidog Gwlad yr Ia "the Icelandic economy, in the worst case, could be sucked with the banks into the whirlpool and the result could be national bankruptcy" a bod y llywodraeth yn chwilio am arian ychwanegol ar ffurf nawdd. Deuddydd yn ddiweddarach, cymerodd Llywodraeth Gwlad yr Iâ y banc Landsbanki o dan eu rheolaeth a ,'bailout' o £400m i fanc mwyaf y wlad, sef Kaupthing.

Aeth Icesave i'r wal, gydag oddeutu 4 biliwn o bunnoedd Sterling wedi'i fuddsoddi yn y banc gan oddeutu 600,000 o Brydeinwyr. Ar 8 Hydref 2008, cyhoeddodd Prif Weinidog Gwledydd Prydain Gordon Brown y byddai'n erlyn Gwlad yr Iâ mewn llys. Rhewyd asedau Landsbanki (mam-gwmni Icesave) gan Alistair Darling gan ddefnyddio cyfreithiau newydd 'atal terfysgaeth' i wneud hynny. Cafwyd ymateb ffyrnig gan drigolion Gwlad yr Iâ o'r ensyniad o'u galw'n 'derfysgwyr'.

Bu'n rhaid i lywodraethau nifer o wledydd yn Ewrop gynorthwyo gwledydd mewn trafferthion economaidd gan gynnwys Portiwgal, Iwerddon a Sbaen. Ymddiswyddodd prif weinidog yr Eidal oherwydd dyled difrifol y wlad a phenodwyd Mario Monti yn ei le. Arweiniodd Nicolas Sarkozy, Llywydd Ffrainc ac Angela Merkel, Canghellor yr Almaen y trafodaethau i atal yr Ewro rhag mynd i'r wal. Yn Rhagfyr 2011 daethant a nifer o gynigion gan gynnwys cytundeb newydd rhwng gwledydd yr Undeb Ewropeaidd a fyddai'n eu cosbi pe baent yn peidio a gweinyddu rhai mesurau megis cwtogi ariannol, cynyddu treth a rheoli'r banciau.

Yr Argyfwng yng Ngwledydd Prydain[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynffon o bobl yn ciwio y tu allan i Fanc Northern Rock ym Medi 2007 gyda'r nod o dynnu eu pres allan o'r banc. Dyma ragflas o'r hunllef economaidd a oedd i ddod flwyddyn yn ddiweddarach.
Prisiau tai yng ngwledydd Prydain.

Dywedodd y gymdeithas adeiladu fwyaf, sef Nationwide, i brisiau tai Gorffennaf ostwng 8.1% o'r hyn oeddent flwyddyn ynghynt, gan rybuddio hefyd fod dirwasgiad economaidd yn wynebu Gwledydd Prydain. Yng Ngorffennaf, cafwyd lleihad o 1.7% ym mhrisiau tai.

Ar 23 Ionawr cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol ("The Office of National Statistics") fod gwledydd Prydain yn swyddogol mewn dirwasgiad.

Diwydiant[golygu | golygu cod y dudalen]

Arafodd diwydiant hefyd, gyda chynnyrch ffatrioedd yn is nag y bu ers 1991.

Y gyfradd Llog[golygu | golygu cod y dudalen]

Disgynodd y gyfradd llog i lawr i 1.5% ar 8 Ionawr 2009: yr isaf yn ei hanes ers 300 o flynyddoedd. Yn Awst 2011, roedd y gyfradd yn 0.5%.[8]

Diweithdra[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn Awst 2008 roedd y nifer di-waith wedi codi i oddeutu 900,000. Ar 21 Ionawr cyhoeddodd y "Office of National Statistics" fod y nifer a oedd yn ddiwaith wedi codi i 1.92 miliwn, yr uchaf ers 11 mlynedd.[9]

Banciau a chwmniau mewn trafferthion enbyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Daeth y Llywodraeth i gynorthwyo'r banciau ddwywaith: yn gyntaf ar 8 Hydref 2008 am £500 biliwn ac yn ail ar 19 Ionawr 2009 am swm o £50 biliwn. Dyma rai o'r cerrig milltir:

Ar 6ed o Fawrth 2009, cymerodd y Llywodraeth gwmni bancio Lloyds Banking Group plc (Lloyds TSB) drosodd gan yswirio eu dyledion.

Aeth y cwmniau canlynol i'r wal neu i drafferth ariannol enbyd:

Nifer y cwmniau a aeth i'r wal rhwng 1960 a 2007
Gydag arweinwyr yr 20 gwlad mwyaf yn ymgasglu yn Llundain cafwyd nifer o brotestiadau yn erbyn twyll ariannol a thros yr amgylchedd.

Gwledydd Eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Seland Newydd. Erbyn Hydref 2008 roedd 23 o gwmniau ariannol wedi ffeilio eu bont yn fethdalwyr. Ym Mehefin roedd y nifer o dai newydd 20% yn is na'r mis cynt; roedd y nifer o dai a werthwyd 42% yn is yn yr un mis.
  • Awstralia. Yn ôl yr IMF mae Awstralia mewn sefyllfa gwell na'r rhan fwyaf o wledydd yn yr hinsawdd stormus hon. Datganodd Fforwm economaidd y Byd mai Awstralia yw'r bedwaredd wlad gryfaf, yn ariannol.
  • De Affrica. Roedd chwyddiant yma yn hydref 2008 oddeutu 10% (o'i gymharu â tua 3% yng Ngwledydd Prydain. oherwydd llogau uchel, disgynnodd y nifer o geir a werthwyd yn y wlad i lawr 22% ym Mehefin i'r hyn oeddent y mis cynt.
  • Japan. Disgynodd yr allforion am y tro cyntaf ers pum mlynedd yn hydref 2008 (1.7 yn is). Roedd yr allforion i'r Unol Daleithiau oddeutu 22% yn is. Roedd dau o fanciau mawr o Japan ar restr credidwyr Lehman Brothers.
  • Pacistan. Chwyddiant o 25% yn 2008; y rupee wedi colli tuag 20% o'i werth.
  • Awstralia, 3 Mehefin 2009: y Llywodraeth yn cyhoedd fod yr economi, am yr ail chwarter yn ddilynol, wedi cynyddu o ran twf; mae hyn felly'n golygu nad ydyd Awstralia mewn arygwng economaidd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Gweler llyfr Fred E. Foldvary: [1] 'The Depression of 2008' gan The Gutenberg Press, isbn 0-9603872-0-X Medi 18, 2007.
  2. (Saesneg) [2] 'A Global Breakdown Of The Recession In 2009' gan Nouriel Roubini; Ionawr 15, 2009
  3. Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol; DU; adalwyd 18 Tachwedd 2014
  4. Kurtzleben, Danielle (23 Awst 2014). "Middle class households' wealth fell 35 percent from 2005 to 2011". Vox.com. http://www.vox.com/2014/8/23/6057467/middle-class-households-wealth-fell-35-percent-from-2005-to-2011. Adalwyd 13 September 2014.
  5. (Saesneg)[http://money.cnn.com/2008/12/01/news/economy/recession/index.htm? 'It's official: Recession since Dec. '07'
  6. (Saesneg)[3] 'Congressional Budget Office compares downturn to Great Depression' gan David Lightman; McClatchy Washington Bureau. Ionawr 27, 2009.
  7. Ffigyrau Medi 2011 wedi'u darparu gan yr International Monetary Fund: World Economic Outlook Database. Figure for EU, accessed 22 September 2011. Ffigyrau gwledydd y byd, adalwyd 22 Medi 2011.
  8. Gwefan Saesneg y BBC.
  9. BBC News - Diweithdra yn 1.92 miliwn
  10. (Saesneg) Trafferthion y Royal Bank of Scotland
  11. Wales Online

Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]