Dyfodol papurau newydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Papurau newydd rhyngwladol ar werth yn Rhufain.

Mae dyfodol papurau newydd yn bwnc llosg yn y diwydiant newyddiaduraeth, yn sgil argyfwng economaidd 2008–presennol[1] a dyfodiad cyfryngau digidol a newydd. Mae papurau newydd yn wynebu cynydd mewn costau a chwymp mewn gwerthiant hysbysebion chylchrediad.

Yn y 2010au roedd y nifer o gyhoeddiadau dan fygythiad methdalu, neu doriadau ariannol wedi cynyddu'n sylweddol. Yn yr Unol Daleithiau mae'r diwydiant wedi colli un o bob pump o'i newyddiadurwyr ers 2001.[2] Mae refeniw wedi gostwng yn sylweddol a chystadleuaeth o'r rhyngrwyd wedi rhoi pwysau ar y cyhoeddwyr print a oedd wedi aros yn eu hunfan.[2][3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]