Onllwyn

Oddi ar Wicipedia
Onllwyn
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,194 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7785°N 3.6799°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001026 Edit this on Wikidata
Cod OSSN842102 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJeremy Miles (Llafur)
AS/auChristina Rees (Llafur)
Map

Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Onllwyn.[1][2] Mae hefyd yn enw'r ward etholiadol, sy'n cynnwyd Dyffryn Cellwen a Banwen. Saif tua 12 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Castell Nedd, ychydig i'r gogledd o Flaendulais, ar y briffordd A4109 a ger tarddle Afon Dulais.

Ardal lofaol oedd hon, gyda phump glofa o gwmpas y pentref ar un adeg. Mae traddodiad lleol i Sant Padrig gael ei eni yn yr ardal, a chynhelir gorymdaith ar 17 Mawrth i ddathlu hyn. Ceir gweddillion dwy gaer Rufeinig a ffordd Rufeinig gerllaw.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Christina Rees (Llafur).[4]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Onllwyn (pob oed) (1,194)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Onllwyn) (222)
  
19.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Onllwyn) (994)
  
83.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Onllwyn) (242)
  
46.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 30 Hydref 2021
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-23.
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]