Gwener (planed): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cell Danwydd (sgwrs | cyfraniadau)
mewnforio gwaith Twm
Cell Danwydd (sgwrs | cyfraniadau)
2
Llinell 13: Llinell 13:


Fydd hi byth yn crwydro ymhell o'r haul, chwaith, a bydd i'w gweld, ar ei hamlycaf, ychydig cyn y wawr neu ar ôl y machlud. Dyma pam y'i gelwir hi'n "Seren y Gweithiwr", gan ei bod yn codi gyda'r wawr, neu yn "Seren y Machlud". Mewn gwirionedd, cyfeirir atynt ym mytholeg Groeg fel dwy seren a cheid yr enwau Hesperus arni yn ei chyflwr boreuol a Phosphorus gyda'r nos.
Fydd hi byth yn crwydro ymhell o'r haul, chwaith, a bydd i'w gweld, ar ei hamlycaf, ychydig cyn y wawr neu ar ôl y machlud. Dyma pam y'i gelwir hi'n "Seren y Gweithiwr", gan ei bod yn codi gyda'r wawr, neu yn "Seren y Machlud". Mewn gwirionedd, cyfeirir atynt ym mytholeg Groeg fel dwy seren a cheid yr enwau Hesperus arni yn ei chyflwr boreuol a Phosphorus gyda'r nos.

===Eicon Sosialaidd===
Daeth Seren y Gweithiwr, yn arbennig, yn eicon pwysig i'r mudiad sosialaidd yn yr [[20g]] ganrif, gan ymddangos yn amlach ar faneri'r gwledydd Comiwnyddol na hyd yn oed y morthwyl a'r cryman a'r llu o symbolau eraill oedd yn arwyddo goruchafiaeth (honedig) y [[proletariat]]. Fe'i gwelir hyd heddiw ar faner [[Tsieina]], [[Angola]], [[Y Congo]], [[Ciwba]], [[Gogledd Corea]], [[Mosambic]] a [[Fietnam]] ac arferai gael lle amlwg ar faneri yr hen Rwsia neu'r [[USSR]], yr hen [[Iwgoslafia]] ac amryw o wledydd eraill. Yn nes adre cawsai amlygrwydd ar faneri a phosteri'r [[Undebau Llafur]] a hi yw arwyddlun y cwmni bwsiau o Ddyffryn Nantlle – Y Seren Arian – a gychwynodd ei yrfa, lawer blwyddyn yn ôl, yn cludo chwarelwyr yr ardal i'w gwaith yn y boreuau.

===Cysylltiadau dwyfol a Cheltaidd===
Gwener oedd duwies cariad a harddwch [[y Rhufeiniaid]] a gyflawnai swyddogaeth debyg iawn i Aphrodyte'r Groegiaid. Ond nid delweddau o'r fath geir i'r blaned gan bawb o bobol y byd. I'r [[Tsieineaid]], mae gwyn llachar yn anlwcus ac ysbrydaidd ac mae'r blaned yn cynrychioli dial a chosb. I'r [[Maya]] roedd y blaned yn un rhyfelgar – hi oedd y seren-dduw Quetzalcoatl a byddai'r bobl yn cau eu drysau a'u ffenestri rhag pelydrau'r duw peryglus hwn pan ymddangosai yn y boreau. I'r Swmeriaid ei henw oedd Ishtar, oedd yn un o drindod yr haul, y lleuad a hithau. Roedd Ishtar yn dduwies cariad, ffrwythlondeb a rhyfel.

Mae'n anodd adnabod duwies gyfatebol i Gwener ym mytholeg y [[Celtiaid]], yn enwedig yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon. Mae'n ymddangos bod duwiesau ein cyndeidiau ni yn llawer amlach eu doniau ac yn meddu ar gyfuniad o ffrwythlondeb, crefft, a'r gallu i wella yn ogystal a rhywioldeb, er yn amrywio ym mhwyslais a'u swyddogaethau o un llwyth, cwlt, a lle cysegredig, i'r llall. Ond yng nghyfnod goruchafiaeth y Rhufeiniaid ceir sawl allor Celtaidd i Gwener ar hyd a lled Ewrop.


{{planedau}}
{{planedau}}

Fersiwn yn ôl 06:09, 17 Mai 2018

Y blaned Gwener yn ei lliwiau cywir
Llun radar o'r blaned Gwener
Gwener yn croesi o flaen yr haul; Mehefin 2012.

Gwener yw'r ail blaned yng Nghysawd yr Haul, 67,200,000 milltir oddi wrth yr Haul ar gyfartaledd, wedi'i henwi ar ôl duwies Rufeinig cariad. Yr enw poblogaidd arni yw Seren y dydd. Ar lafar, ei henw yw Seren y Gweithiwr.

Nid oes planed sy'n cyrraedd mor agos i'r Ddaear â Gwener pan bo hi ar ei hagosaf atom: 24 miliwn milltir. Mae hi o gwmpas yr un maint, cyfaint (0.92), trwch (4.99 ar raddfa seiliedig ar drwch dŵr) a chrynswth (0.81) â'r Ddaear. Mae awyrgylch Gwener yn drwm ac yn niwlog ac o ganlyniad mae ei hwyneb yn guddiedig; mae'r niwl yn adlewyrchu golau'r haul hefyd ac mae hynny'n ei gwneud hi'n un o'r gwrthrychau mwyaf disglair yn y nefoedd. Mae probau diweddar wedi darganfod fod wyneb y blaned wedi'i britho â chraterau a rhychau, nid annhebyg i'r rhai a welir ar wyneb y Lleuad.

Oherwydd ei chymylau trwchus, sy'n adlewyrchu'r haul mor dda, ychydig iawn a wyddem amdani tan yn lled ddiweddar. Hyd yn oed cyn hwyred a'r 1960au tybid bod ei hwyneb yn gefnforoedd eang a bod rhannau ohonni, efallai, yn fforestydd tebyg i'r hyn oedd ar y ddaear adeg ffurfio'r meusydd glo. Roedd posibiliadau o'r fath yn sbardun enfawr i ddychymyg awduron ffuglen wyddonol gan gynnwys Dan Dare a'r 'Fenwsiaid' yn y comic The Eagle yn y 1950au. Ac yn ei stori fer enwog, The Illustrated Man, disgrifia Ray Bradbury helynt teithwyr gofod ar Gwener yn ceisio lloches rhag y glaw parhaus. Roedd o'n rhannol gywir – mae hi yn bwrw'n barhaus yno – ond am fod wyneb y blaned mor boeth dydy'r glaw byth yn cyrraedd y llawr. Fe ddisgyna o tua 20 milltir uwchben y wyneb, ond try'n ager ar uchder o tua 10 milltir!

Rhaid oedd aros tan i chwiliedyddion Rwsiaidd, yng nghyfres 'Venera' a 'Vega', lanio ar Gwener rhwng 1970 a 1984, cyn y cawsom wybodaeth gywir am ei natur. Darganfyddwyd fod Gwener yn llawer poethach na'r Ddaear achos bod ganddi gryf effaith tŷ gwydr. Ers hynny llwyddwyd i fapio ei nodweddion daearyddol yn fanwl a chytunwyd, drwy'r Undeb Astronomegol Ryngwladol, ar enwau iddynt. Nid yn annisgwyl, enwau merched sydd i'r mwyafrif ohonynt, e.e. enwyd 'cyfandir' o lif folcanig ar ôl Aphrodite, duwies cariad y Groegiaid; crater anferth ar ôl y gantores Billie Holiday ac ucheldir Lada ar ôl y dduwies Slafaidd (nid y car!). Mae yma gysylltiad Cymreig hefyd – ceir ucheldir 'Guinevere', neu Gwenhwyfar ac enwyd rhes o fynyddoedd ar ôl y gwyddonydd Albanaidd, James Clerk Maxwell. Ef, druan ohono, yw'r unig ddyn ar y blaned!

Gan fod Gwener yn nes i'r haul na'r Ddaear, fe fydd ei hymddanghosiad yn newid, yn union fel y lleuad, o lawn i hanner i chwarter ayyb; hynny yw, mae ganddi ei Chynnydd a'i Gwendid. Mae'n eitha hawdd gweld hynny os edrychwch arni drwy sbienddrych go dda, neu delisgop.

Fydd hi byth yn crwydro ymhell o'r haul, chwaith, a bydd i'w gweld, ar ei hamlycaf, ychydig cyn y wawr neu ar ôl y machlud. Dyma pam y'i gelwir hi'n "Seren y Gweithiwr", gan ei bod yn codi gyda'r wawr, neu yn "Seren y Machlud". Mewn gwirionedd, cyfeirir atynt ym mytholeg Groeg fel dwy seren a cheid yr enwau Hesperus arni yn ei chyflwr boreuol a Phosphorus gyda'r nos.

Eicon Sosialaidd

Daeth Seren y Gweithiwr, yn arbennig, yn eicon pwysig i'r mudiad sosialaidd yn yr 20g ganrif, gan ymddangos yn amlach ar faneri'r gwledydd Comiwnyddol na hyd yn oed y morthwyl a'r cryman a'r llu o symbolau eraill oedd yn arwyddo goruchafiaeth (honedig) y proletariat. Fe'i gwelir hyd heddiw ar faner Tsieina, Angola, Y Congo, Ciwba, Gogledd Corea, Mosambic a Fietnam ac arferai gael lle amlwg ar faneri yr hen Rwsia neu'r USSR, yr hen Iwgoslafia ac amryw o wledydd eraill. Yn nes adre cawsai amlygrwydd ar faneri a phosteri'r Undebau Llafur a hi yw arwyddlun y cwmni bwsiau o Ddyffryn Nantlle – Y Seren Arian – a gychwynodd ei yrfa, lawer blwyddyn yn ôl, yn cludo chwarelwyr yr ardal i'w gwaith yn y boreuau.

Cysylltiadau dwyfol a Cheltaidd

Gwener oedd duwies cariad a harddwch y Rhufeiniaid a gyflawnai swyddogaeth debyg iawn i Aphrodyte'r Groegiaid. Ond nid delweddau o'r fath geir i'r blaned gan bawb o bobol y byd. I'r Tsieineaid, mae gwyn llachar yn anlwcus ac ysbrydaidd ac mae'r blaned yn cynrychioli dial a chosb. I'r Maya roedd y blaned yn un rhyfelgar – hi oedd y seren-dduw Quetzalcoatl a byddai'r bobl yn cau eu drysau a'u ffenestri rhag pelydrau'r duw peryglus hwn pan ymddangosai yn y boreau. I'r Swmeriaid ei henw oedd Ishtar, oedd yn un o drindod yr haul, y lleuad a hithau. Roedd Ishtar yn dduwies cariad, ffrwythlondeb a rhyfel.

Mae'n anodd adnabod duwies gyfatebol i Gwener ym mytholeg y Celtiaid, yn enwedig yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon. Mae'n ymddangos bod duwiesau ein cyndeidiau ni yn llawer amlach eu doniau ac yn meddu ar gyfuniad o ffrwythlondeb, crefft, a'r gallu i wella yn ogystal a rhywioldeb, er yn amrywio ym mhwyslais a'u swyddogaethau o un llwyth, cwlt, a lle cysegredig, i'r llall. Ond yng nghyfnod goruchafiaeth y Rhufeiniaid ceir sawl allor Celtaidd i Gwener ar hyd a lled Ewrop.


Planedau yng Nghysawd yr Haul
Mercher
Mercher
Gwener
Gwener
Y Ddaear
Y Ddaear
Mawrth
Mawrth
Iau
Iau
Sadwrn
Sadwrn
Wranws
Wranws
Neifion
Neifion
Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.