Richard Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
del |
Cyfnewid Mari o'r Alban am Mari I o Loegr |
||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
==Bywgraffiad== |
==Bywgraffiad== |
||
Cafodd ei addysg ym [[Prifysgol Rhydychen|Mhrifysgol Rhydychen]] lle daeth dan ddylanwad y diwygwyr [[Protestaniaeth|Protestannaidd]]. Ar ôl treulio cyfnod mewn alltudiaeth yn ninas [[Frankfurt]] yn [[yr Almaen]] oherwydd ei ffydd ar ddiwedd teyrnasiad [[Mari, brenhines |
Cafodd ei addysg ym [[Prifysgol Rhydychen|Mhrifysgol Rhydychen]] lle daeth dan ddylanwad y diwygwyr [[Protestaniaeth|Protestannaidd]]. Ar ôl treulio cyfnod mewn alltudiaeth yn ninas [[Frankfurt]] yn [[yr Almaen]] oherwydd ei ffydd ar ddiwedd teyrnasiad [[Mari I, brenhines Lloegr|Mari I]], dychwelodd i Gymru a chafodd ei apwyntio'n Esgob [[Llanelwy]] ac yna ym [[1561]] yn Esgob [[Tyddewi]]. |
||
Gweithiai'n ddyfal gyda [[William Salesbury]] i berswadio senedd [[San Steffan]] i basio deddf i awdurdodi cyfieithu'r [[Beibl]] a'r [[Llyfr Gweddi Gyffredin]] i'r Gymraeg a phan gafwyd y ddeddf honno ym [[1563]] ymunodd â Salesbury yn ei blas yn [[Abergwili]] i gyfieithu'r [[Testament Newydd]] gyda fo. Richard Davies yw awdur yr ''[[Epistol at y Cembru]]'' ('Llythyr at y Cymry') a geir ar ddechrau Testament Newydd [[1567]]; cafodd ddylanwad mawr ar [[hanesyddiaeth]] [[Cymru]]. |
Gweithiai'n ddyfal gyda [[William Salesbury]] i berswadio senedd [[San Steffan]] i basio deddf i awdurdodi cyfieithu'r [[Beibl]] a'r [[Llyfr Gweddi Gyffredin]] i'r Gymraeg a phan gafwyd y ddeddf honno ym [[1563]] ymunodd â Salesbury yn ei blas yn [[Abergwili]] i gyfieithu'r [[Testament Newydd]] gyda fo. Richard Davies yw awdur yr ''[[Epistol at y Cembru]]'' ('Llythyr at y Cymry') a geir ar ddechrau Testament Newydd [[1567]]; cafodd ddylanwad mawr ar [[hanesyddiaeth]] [[Cymru]]. |
Fersiwn yn ôl 19:11, 30 Ebrill 2017
- Am enghreifftiau eraill o bobl o'r enw Richard Davies, gweler Richard Davies (gwahaniaethu).
Esgob a chyfieithydd oedd Richard Davies (?1501 – 7 Tachwedd 1581), a aned yn y Gyffin, ger tref Conwy. Yn ystod ei yrfa eglwysig bu'n Esgob Llanelwy a Thyddewi. Fe'i cofir yn bennaf am ei waith ar y cyd â William Salesbury yn cyfieithu'r Testament Newydd i'r Gymraeg. Roedd yn ewythr i'r ysgolhaig Siôn Dafydd Rhys (John Davies).
Bywgraffiad
Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen lle daeth dan ddylanwad y diwygwyr Protestannaidd. Ar ôl treulio cyfnod mewn alltudiaeth yn ninas Frankfurt yn yr Almaen oherwydd ei ffydd ar ddiwedd teyrnasiad Mari I, dychwelodd i Gymru a chafodd ei apwyntio'n Esgob Llanelwy ac yna ym 1561 yn Esgob Tyddewi.
Gweithiai'n ddyfal gyda William Salesbury i berswadio senedd San Steffan i basio deddf i awdurdodi cyfieithu'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin i'r Gymraeg a phan gafwyd y ddeddf honno ym 1563 ymunodd â Salesbury yn ei blas yn Abergwili i gyfieithu'r Testament Newydd gyda fo. Richard Davies yw awdur yr Epistol at y Cembru ('Llythyr at y Cymry') a geir ar ddechrau Testament Newydd 1567; cafodd ddylanwad mawr ar hanesyddiaeth Cymru.
Roedd Richard Davies yn noddwr hael i feirdd a llenorion ei oes a gwnaeth gryn dipyn i gael gwared â'r llygredd oedd yn rhemp yn yr eglwys ar y pryd. Bu farw yn Abergwili, lle'i claddwyd.
Llyfryddiaeth
- D. R. Thomas, The Life and Work of Richard Davies and William Salesbury (Croesoswallt, 1902)