Wicipedia, ydy'r wefan fwyaf, a'r mwyaf poblogaidd yn y Gymraeg ac yn wefan sy'n goferu o wybodaeth ddefnyddiol - a hynny am ddim i bawb! Mae'n ffynhonnell ddihysbydd o wybodaeth; hon yw cof y genedl...
Fy enw i ydy Robin a dw i'n gweithio fel Rheolwr Cymru i Wikimedia UK ers 02 Mehefin 2013. Cysylltwch drwy fy ebost (bar sgrolio ar y chwith) i gysylltu a fi. Dw i'n Weinyddwr ers 18 Gorffennaf 2008 ac yn Fiwrocrat ers 22 Rhagfyr 2011. Arswydus swydd!
Dyma englyn neu ddau i'ch croesawu:
Wrth Ddarllen Llythyrau O.G. ar y Traeth yn Harlech ar Kindle
O hen archoll anarchydd, - o galon
I galon o'r newydd,
Ar y we yn Gymry rhydd:
O'r llenor i'r darllenydd.
ac un i Sgwennwyr Wicipedia:
Yn organig - rho ganwaith - y diolch
Sy'n blodeuo'n berffaith:
Rho yn ôl i'r hen, hen iaith
Ei thwf, ei nerth, ei hafiaith...
Cliciwch y tab 'Stwff Defnyddiol' (uchod) ac fe welwch bethau defnyddiol, gobeithio!
Os canfyddwch gangymeriad neu os fedrwch ehangu arnynt - gwnewch hynny! Mae mwy a mwy o bobl, ysgolion, cwmniau a cholegau yn defnyddio Wicipedia, bellach, felly ychwanegwch bwt ar eich ardal neu eich diddordeb!!! ...fel y cadwer i'r oesoedd a ddêl...
Cofio: angen newid [[Categori:Trefi Swydd Gaer]] i [[Categori:Pentrefi Swydd Gaer]] !!!
Crwban Môr Lledrgefn: crwban mwya'r byd ar draeth Harlech
Mireinio'r erthygl Rhestr o grugiau crynion yng Nghymru drwy nodi'r cyfesurynnau daearyddol ar y rhestr; yna creu nodyn gyda'r cyfesurynnau i bob erthygl.