Alun Oldfield-Davies

Oddi ar Wicipedia
Alun Oldfield-Davies
Alun Oldfield-Davies tua 1951
Ganwyd18 Ebrill 1905 Edit this on Wikidata
Clydach Edit this on Wikidata
Bu farw1 Rhagfyr 1988 Edit this on Wikidata
o niwmonia Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethathro, darlledwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Roedd Alun Bennett Oldfield-Davies CBE (18 Ebrill 19051 Rhagfyr 1988) yn ddarlledwr Cymreig a gwas cyhoeddus. Ymunodd â'r BBC ym 1937, gan dal nifer o swyddi cyn cael ei benodi'n gyfarwyddwr Rhanbarth Cymru ar gyfer Radio'r BBC. Drwy gydol ei hir stiwardiaeth ar y BBC yng Nghymru, goruchwyliodd oes aur o ddarlledu llais Cymreig a Chymraeg. Bu'n goruchwylio cyflwyniad darlledu teledu i Gymru. Er gwaethaf gwrthwynebiad i'r Gymraeg gan rai o uchelwyr y BBC yn Llundain a chwynion am ddiffyg darpariaeth ddigonol gan ymgyrchwyr yng Nghymru does dim amheuaeth nad oedd ymroddiad Oldfield-Davies i'r iaith Gymraeg yn absoliwt[1]

Hanes cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Oldfield-Davies yng Nghlydach, Abertawe ym 1905 yn fab i Jonathan Oldfield-Davies, gweinidog gyda'r Annibynwyr, a'i wraig, Mary, née Williams.[2] Dechreuodd ei dad ei weinidogaeth ar Glydach ym 1905, ar ôl symud o'r Talwrn Coedpoeth[3]. Arhosodd y teulu yng Nghlydach hyd 1910, gan symud i Don Pentre yn y Rhondda lle penodwyd ei dad yn weinidog Capel Bethesda. Roedd gan Oldfield-Davies dwy chwaer Ruth ac Elizabeth[2].

Derbyniodd ei addysg yn ysgol sir y Porth cyn cael ei dderbyn i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Dangosodd tueddiadau gwleidyddol yn ei flynyddoedd coleg gan gael ei ethol yn llywydd ar Undeb y myfyrwyr.[4] Ar ôl gadael y brifysgol aeth Oldfield-Davies yn athro a rhwng 1926 ac 1937 bu'n athro ysgol ac yn ddarlithydd i'r brifysgol yn y gymuned gan gynnal dosbarthiadau yn Rhydaman a rhannau eraill o Sir Gaerfyrddin. Yn ystod y cyfnod hwn bu hefyd yn dysgu hanes yn Ysgol Uwchradd y Bechgyn, Cathays. Ar 6 Awst 1931 priododd cyd athrawes ysgol, Lilian May Lewis, merch Thomas Lewis, groser.[5]

Gyrfa gyda'r BBC[golygu | golygu cod]

Tŷ Oldfield (chwith) gyda ran o  Ganolfan Darlledu BBC Cymru yn y cefndir

Ymunodd Oldfield-Davies a rhanbarth newydd Cymru gwasanaeth radio'r BBC fel trefnydd ysgolion. Roedd wedi bod yn gyfrannwr rheolaidd i raglenni yn ystod y tair blynedd flaenorol ar raglenni Rhanbarth gorllewin Prydain gan roi sgyrsiau ar gyfer disgyblion ysgol ar ddigwyddiadau'r byd ar raglen o'r enw, Cwrs y byd.[2] Yn ystod ei gyfnod fel trefnydd ysgolion gwelodd cynnydd yn y nifer o ysgolion a oedd yn defnyddio darllediadau radio fel rhan o'u hadnoddau dysgu yn codi o 126 i 700, cyn i ddechrau'r Ail Ryfel Byd achosi cau gwasanaethau radio rhanbarthol.[2] Un â fu'n frwd ei gefnogaeth i benodi Oldfield Davies yn drefnydd ysgolion Cymru oedd cyfarwyddwr rhanbarth Cymru'r BBC, Rhys Hopkin Morris ac fe a gymerodd Oldfield-Davies o dan ei adenydd yn y gorfforaeth. Parhaodd  Oldfield-Davies i weithio gyda'r BBC drwy gydol y rhyfel. Ar ddechrau'r rhyfel fe fu yn swyddog gweinyddol yng Nghymru, ond yn ddiweddarach derbyniodd swydd yn Llundain fel swyddog sefydliad darllediadau tramor.[4][5].

Ym 1945 ymddiswyddodd Hopkin Morris o'r BBC wedi iddo gael ei ethol yn AS Caerfyrddin. Gwasanaethodd Oldfield-Davies yn gyfarwyddwr dros dro yn ei le hyd iddo gael ei benodi i'r swydd yn barhaol  ar 15 Mehefin 1945.[4] Ym 1948 newidiwyd ei deitl i reolwr Cymru, a bu yn y swydd hyd  ei ymddeoliad ym 1967[6]. Bu Oldfield-Davies yn arwain darlledu yng Nghymru trwy dwf y radio yn y 1940au, trwy ddyfodiad teledu i Gymru yn y 1950au a chyflwyniad cystadleuaeth masnachol gyda genedigaeth ITV ym 1955.[7]

Bu Oldfield-Davies hefyd yn sicrhau bod sylfaen darlledu cryf yn bodoli yng Nghymru gan sefydlu adrannau newyddion cryf yn y ddwy iaith. Yn ystod ei gyfnod ef ad-leolodd y BBC yng Nghymru ei safle yn Llandaf, gwaith a gwblhawyd ychydig cyn ei ymddeoliad ym 1967.[2] Ail enwyd hen loj ystad Llandaf ar safle'r Ganolfan Darlledu yn Tŷ Oldfield er anrhydedd iddo.[6]

Darlledu trwy'r Gymraeg[golygu | golygu cod]

Mae ansawdd cyfraniad Oldfield-Davies, a'r amheuon a'r feirniadaeth a ysgogodd, yn cael eu trafod yn fanwl yn llyfr gan John Davies Broadcasting and the BBC in Wales. Bu nifer o ymgyrchwyr iaith yn gweld Oldfield Davies fel llais y BBC yng Nghymru yn hytrach na llais Cymru yn y BBC ac yn teimlo'n rhwystredig efo ddiffyg darpariaeth ddigonol yn y Gymraeg. Roedd gan yr ymgyrchwyr pwynt dilys. Roedd rhai o agweddau Oldfield-Davies yn hen ffasiwn ac ambell un yn hynod od. Wrth roi tystiolaeth i Aelodau Seneddol Cymru ym 1946 dywedodd nad oedd yn credu bod gan Gymru ddigon o bobl dalentog i ddarparu gwasanaeth (yn y naill iaith na'r llall) mwy nag oedd ar gael ar y pryd.[8]. Mewn darlith i'r Cymrodorion ym 1971 awgrymodd mai'r ffordd orau o gael mwy o ddarpariaeth i'r Gymraeg byddid i gael sianeli a oedd yn darparu cyfieithu ar y pryd o raglenni Saesneg.[9] (Wrth gwrs mae rhywfaint o'i weledigaeth bellach ar gael trwy wasanaeth y botwm coch).

Cerdyn Prawf

Er hynny mae ei lythyrau i benaethiaid y BBC yn Llundain yn dangos pa mor anodd bu'n rhaid iddo frwydro i gael, ac wedyn i gynyddu, yr ychydig o ddarpariaeth Cymraeg oedd yn bodoli. Pan ddechreuodd gwasanaethau teledu, hyd at y 1980au, doedd rhaglenni ddim yn cael eu darlledu trwy'r amser. Bu cyfnodau hir o'r dydd pan fyddai cerdyn prawf yn cael ei ddarlledu, roedd y cerdyn prawf yn llun geometrig a defnyddiwyd i wirio cywirdeb y llun ar y sgrin. Bu Oldfield-Davies yn gyfrifol am gomisiynu'r rhaglen ddogfen Cymraeg cyntaf, portread o Bob Owen, Croesor. Bu raid i Oldfield-Davies cyfiawnhau i'w bosys yn Llundain ei benderfyniad i ddarlledu rhaglen mewn incomprehensible language yn hytrach na'r cerdyn prawf[1].

Roedd Oldfield-Davies yn ffigur o gyfnod mwy ymostyngar, nid oedd yn teimlo'n gyfforddus â'r ymgyrchoedd anufudd-dod sifil dros y Gymraeg a oedd yn dod i'r amlwg wrth iddo ymddeol. Yn baradocsaidd, tarddiad Cymdeithas yr Iaith ar ymgyrchu am Radio Cymru ac S4C oedd ddarlith radio BBC Cymru o 1962 -Tynged yr Iaith gan Saunders Lewis, darlith byddai Oldfield-Davies wedi ei gymeradwyo.

Bu Oldfield Davies yn ymladd yn ddiflino dros donfedd teledu ar wahân ar gyfer Cymru a goruchwyliodd y gwaith o greu darlledu teledu yn yr iaith Gymraeg[1]. Wrth ysgrifennu yn 1994, nid oedd gan yr hanesydd John Davies unrhyw amheuaeth am bwysigrwydd rôl Oldfield-Davies  yn y byd darlledu Cymraeg, gan ddweud: "Os oedd un creawdwr teledu yn yr iaith Gymraeg Alun Oldfield-Davies oedd hwnnw".[2]

Bywyd diweddarach[golygu | golygu cod]

Wedi ymadael a'r BBC bu Oldfield-Davies yn gwasanaethu Cymru mewn nifer o feysydd, yn enwedig i addysg a'r celfyddydau. Ef oedd y llywydd Amgueddfa Genedlaethol Cymru o 1972 hyd 1977. Roedd hefyd yn aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru, cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol a Llys y Theatr Genedlaethol[2] Cafodd ei benodi yn CBE ym 1955. Roedd Oldfield-Davies oedd yn destun o nifer o weithiau celf, gan gynnwys cyfres o baentiadau gan yr artist, Syr Kyffin Williams a delwedd efydd o'i ben gan y cerflunydd Ivor Roberts-Jones.[10][11]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Ym 1971 a 1922 golygodd dwy gyfrol o ysgrifau radio yn ddwyn y teitlau Y Llwybrau Gynt. Cyhoeddwyd y llyfrau gan Gwasg Gomer

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw o niwmonia lobar a chlefyd rhiwmatig y galon yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ar 1 Rhagfyr 1988.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 The Museum of TV - Wales[dolen marw] adalwyd 21/05/2018
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 Davies, John (1994). Broadcasting and the BBC in Wales. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 978-0-7083-1273-5.
  3. "Carmel Clydach - Y Celt". H. Evans. 1905-01-27. Cyrchwyd 2018-05-21.
  4. 4.0 4.1 4.2 Davies, G. (2011-05-19). Davies, Alun Bennett Oldfield- (1905–1988), broadcaster and public servant. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 21 Mai 2018
  5. 5.0 5.1 (2007-12-01). Oldfield-Davies, Alun Bennett, (18 April 1905–1 Dec. 1988), Controller, Wales, British Broadcasting Corporation, 1945–67. WHO'S WHO & WHO WAS WHO adalwyd 21 Mai 2018
  6. 6.0 6.1 Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig gol. John Davies, Menna Baines, Nigel Jenkins a Peredur Lynch (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2008) ISBN 978-0-7083-1954-3
  7. Jamie Medhurst A History of Independent Television in Wales; tud 79; Gwasg Prifysgol Cymru 2010 ISBN0708323081
  8. Asa Briggs The History of Broadcasting in the United Kingdom Volume IV: Sound and Vision Oxfor University Press 1978 ISBN 9780192129673
  9. Trafodion Anrhydeddus Cymdeithas y Cymrodorion 1970 Rhan 2 Tud 214-22
  10. "Dr Alun Oldfield Davies (1905–1988), CBE". artuk.org. Cyrchwyd 17 April 2016.
  11. Black, Jonathan (2014). Abstraction and Reality: The Sculpture of Ivor Roberts-Jones. Cardiff: Philip Wilson Publishers. t. 203. ISBN 978-1-7813-0010-7.