Y Ganolfan Ddarlledu, Caerdydd
Y Ganolfan Ddarlledu oedd cyn-bencadlys BBC Cymru yn ardal Highfields, Llandaf, gogledd Caerdydd. Roedd yn gartref i wasanaethau radio, teledu ac arlein BBC Cymru. Fe'i adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer y BBC ac agorodd yn 1966, pan oedd yn cynnwys tri bloc gyda stiwdios, swyddfeydd a chyfleusterau technegol. Symudodd BBC Cymru i bencadlys newydd yng nghanol Caerdydd gyda'r gwaith o drosglwyddo gwasanaethau yn cychwyn yn 2019 a chwblhau erbyn Medi 2020. Gwerthwyd y tîr i gwmni Taylor Wimpey a bydd y cwmni yn dymchwel y ganolfan ac adeiladu 400 o dai ar y safle.
Hanes
[golygu | golygu cod]Cynlluniwyd yr adeiliad gan y pensaer Cymreig Dale Owen (1924-97).[1][2] Fe'i agorwyd yn 1966 a roedd yn bencadlys ar gyfer BBC Cymru hyd at 2020. Roedd yn gartref i stiwdios, swyddfeydd a chyfleusterau technegol. Lleolwyd yr adeilad yn ardal Llandaf, gogledd Caerdydd ger Afon Taf. Mae'n agos at orsaf reilffordd Danescourt a mae sawl gwasanaeth Bws Caerdydd yn rhedeg heibio. Symudodd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (BBC NOW) a Chorws Cenedlaethol Cymru'r BBC allan o Stiwdio 1 yn y Ganolfan Ddarlledu i adeilad newydd, Neuadd Hoddinott y BBC yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn 2009. Symudodd cyfleusterau stiwdio drama teledu'r BBC allan yn 2011 i adeiladau pwrpasol newydd ym Mhorth y Rhath, Bae Caerdydd.
Ym mis Awst 2013, cyhoeddwyd bod y Ganolfan Ddarlledu a Thŷ Oldfield, ochr draw y ffordd, ar werth, gyda chynlluniau i symud i un pencadlys pwrpasol newydd yng Nghaerdydd erbyn 2018. Dywedodd y BBC fod y "seilwaith sy'n heneiddio yn Llandaf yn amlwg wedi cyrraedd y diwedd ei oes ac mae'n amser i edrych i'r dyfodol". Edrychwyd ar dri safle posib yng Nghaerdydd;
- Sgwâr Ganolog, i'r gogledd o orsaf reilffordd Ganolog Caerdydd
- Tir i'r de o'r orsaf rheilffordd
- Tir rhwng adeilad y Senedd a phencadlys Atradius.[3]
Cadarnhaodd y BBC yn 2015 mai Sgwâr Canolog fyddai lleoliad eu pencadlys newydd.[4]
Rhaglenni
[golygu | golygu cod]Roedd y Ganolfan yn gartref i Pobol y Cwm ers iddo gychwyn yn 1974 a ffilmiwyd nifer o gyfresi drama a chomedi yma yn cynnwys The Chatterley Affair, Perthyn, High Hopes, Satellite City a The District Nurse.[angen ffynhonnell]. Mae'r ganolfan yn cynnwys stiwdios ar gyfer rhaglenni newyddion BBC Wales Today a Newyddion. Cynhyrchwyd nifer o raglenni plant Cymraeg yma yn cynnwys Yr Awr Fawr a HAFoc.
Cyhoeddwyd ym mis Mawrth 2009 y byddai'r BBC yn symud ffilmio sioeau megis Casualty a Crimewatch i stiwdios porth y Rhath yng Nghaerdydd.[5]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Obituary: Dale Owen". The Independent. 28 Tachwedd 1997. Cyrchwyd 25 Medi 2017.
- ↑ "BBC Wales to move to new Foster-designed Cardiff HQ". Architects' Journal. 10 Mehefin 2014. Cyrchwyd 25 Medi 2017.
- ↑ "BBC Wales to locate its new £170m headquarters at Cardiff's Capital Square scheme". Wales Online. 9 Mehefin 2014. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2015.
- ↑ "New headquarters for BBC Cymru Wales expected to be confirmed shortly at heart of Central Square scheme". Wales Online. 30 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2015.
- ↑ Douglas, Torin (15 Hydref 2008). "Entertainment | BBC evicts top shows from London". BBC News. Cyrchwyd 17 Medi 2013.