Yr Awr Fawr (rhaglen deledu)

Oddi ar Wicipedia
Yr Awr Fawr
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Darllediad
Sianel wreiddiol BBC 2 Cymru, BBC 1 Cymru
Fformat llun 576i (4:3 SDTV)
Rhediad cyntaf yn –1982

Roedd Yr Awr Fawr yn rhaglen Gymraeg i blant yn y saithdegau hwyr a dechrau'r wythdegau.

Cyflwynwyr y rhaglen oedd Emyr Wyn a Malcolm 'Slim' Williams ynghyd â Janet Aethwy a Stif-Un (Stifyn Parri). Lleolwyd y gyfres ar loeren ddychmygol ac roedd thema'r rhaglen yn ymwneud â'r gofod, gyda defnydd helaeth o gerddoriaeth electronig (e.e. Jean Michel Jarre) i greu y naws.

Cynnwys y rhaglen yn bennaf oedd cartwnau a rhaglenni eraill wedi'u dybio i'r Gymraeg - Sandor (The Herculoids), Garan o'r Gofod (Jason of Star Command), Sami Sbardun a Gari'r Gath. Roedd y cyflwynwyr yn llenwi'r amser rhwng y cartwnau gyda thriciau, jôcs, ayyb.

Yn wreiddiol darlledwyd y rhaglen ar BBC2 yng Nghymru ar fore Sul am 08:45. Symudodd y rhaglen i BBC1. Nes ymlaen newidiodd y rhaglen i Yr Awr Fach, llai o faint ac yn darlledu yn y prynhawn. Roedd wedi gorffen erbyn i S4C ddechrau ym mis Tachwedd 1982. Fe wnaeth y BBC barhau gyda'i slot rhaglenni plant i S4C o dan yr enw Hanner Awr Fawr. Fe wnaeth hyn esblygu i'r gyfres boblogaidd 'HAFoc' a ddarlledwyd rhwng 1986 a 1991.