Tony Lewis (FWA)

Oddi ar Wicipedia
Tony Lewis
Tony Lewis
GanwydAnthony Howard Lewis Edit this on Wikidata
15 Ebrill 1937 Edit this on Wikidata
Brynbuga Edit this on Wikidata
Bu farw8 Tachwedd 2005 Edit this on Wikidata
y Barri Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetheurych, gemydd, gyrrwr bws Edit this on Wikidata

Roedd Anthony Howard (Tony) Lewis 15 Ebrill 1937 - 8 Tachwedd 2005 yn ymgyrchwr dros genedlaetholdeb Cymreig, yn aelod o Fyddin Rhyddid Cymru ac yn emydd aur ac arian.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Lewis ym Mrynbuga yn fab i Charles Lewis a Martha (née Goodman ) ei wraig. Roedd y teulu yn ddi-gymraeg a phrin oedd ymwybyddiaeth y Tony ifanc o Gymreictod [1] yn wir roedd nifer o bobl Sir Fynwy yng nghyfnod ieuenctid Tony yn credu mai rhan o Loegr nid o Gymru oedd y sir. Wrth wneud gwasanaeth milwrol gorfodol yn y RAF yn Yr Almaen yn y 1950au, cafodd Lewis ei alw'n "Taff", ei wawdio am ei acen a'i fychanu am fod yn Gymro; canlyniad y driniaeth wrth Gymreig hyn oedd gwneud Lewis yn ymwybodol ac amddiffynnol o'i Gymreictod a magodd ynddo awch i ddysgu rhagor am hanes a diwylliant ei wlad[2].

Priododd Gillian Pewtner ym 1958, bu iddynt mab a merch.[3]

Cenedlaetholwr[golygu | golygu cod]

Wedi ymadael a'r lluoedd arfog bu Lewis yn gweithio fel gyrrwr bys yn Nhredegar, yn y cyfnod hwn ymunodd â Phlaid Cymru ac yng Nghynhadledd Plaid Cymru yn Abergwaun 1964 cyfarfu a Gethin ab Iestyn; sefydlodd y ddau fudiad o'r enw The Anti Sais Front. Mudiad i genedlaetholwyr di-gymraeg.[4]

Yn deillio o'r Anti Sais Front ffurfiodd Gethin a Lewis y Ffrynt Gwladgarol, gyda'r nod o recriwtio ym mysg y boblogaeth Gymreig mwyafrifol sef yr uniaith Saesneg a oedd, yn eu tyb hwy, yn cael eu hesgeuluso gan Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith. Enillodd y Ffrynt Gwladgarol cryn gefnogaeth a sefydlwyd canghennau yn Aberdâr, y Rhondda a Chwmbrân lle agorodd Tony Lewis clwb, y Patriots Rest, ym Mhontnewydd. Y bwriad oedd i'r Ffrynt Gwladgarol bod yn adran o fewn Plaid Cymru i ddarparu ar gyfer elfennau mwy milwriaethus y Blaid; ond wedi cael ei phlas cyntaf ar fuddugoliaeth gyfansoddiadol gyda Gwynfor Evans yn ennill isetholiad Caerfyrddin nid oedd y Blaid am gael ei gysylltu gyda mudiad milwriaethus mewn lifrau, a phenderfynodd Cynhadledd y Blaid yn Nolgellau 1966[5] nad oedd aelodaeth o'r Ffrynt yn gydnaws ac aelodaeth o'r Blaid a diarddelwyd ei harweinwyr.

FWA[golygu | golygu cod]

Pan ffurfiwyd Byddin Rhyddid Cymru gan Julian Cayo-Evans ym 1963, bu Lewis yn un o'i aelodau cynharaf. Lewis oedd yn gyfrifol am gynllunio a chreu bathodyn penwisg y fyddin, yr Eryr Wen, dyma oedd ei ymgais gyntaf i greu ardduniad metel. Fel aelodau eraill y fyddin byddai Lewis yn gwisgo lifrau'r fyddin mewn gorymdeithiau cenedlaetholgar ac o flaen newyddiadurwyr ond yn achlysurol byddai Lewis yn gwisgo lifrau morwrol gan hawlio fod yn Llyngesydd Llynges Rhyddid Cymru[6].

Ym 1969, rhoddwyd naw o alodau blaenllaw Byddin Rhyddid Cymru ar brawf gan yr awdurdodau Prydeinig, gyda Lewis yn eu plith. Cyhuddwyd Lewis o ddau drosedd o dan Ddeddf y Drefn Cyhoeddus sef rheoli grŵp terfysg a threfnu grŵp terfysg, fe'i cafwyd yn euog o drefnu ond yn ddieuog o reoli, ac fe'i dedfrydwyd i 8 mis o garchar wedi ei ohirio am dair blynedd. Er bod y barnwr wedi honni wrth y llys ei fod wedi trin Lewis gyda thrugaredd wrth ohirio ei ddedfryd ymddengys ei fod wedi anghofio ei fod eisoes wedi bod dan glo am 4 mis yn disgwyl diwedd yr achos.[7]

Crefftwr[golygu | golygu cod]

Mwclis Llwy Caru gan Tony Lewis

Ar ôl yr achos llys symudodd Lewis i Ynys Manaw lle sefydlodd gweithdy gofaint mewn metelau drudfawr; cafodd comisiwn gan Senedd yr Ynys i greu cyfres o fedalau ar arddull Celtaidd, symudodd ei weithdy i Ddolgellau ar ddiwedd y 1970au gan ennill enw da fel crefftwr o'r radd blaenaf. Creodd nifer wobrau eisteddfodol, medal i ddathlu 700 mlwyddiant marwolaeth Llywelyn ein Llyw olaf a thlws Cymry'r Byd a dyfarnwyd i Gwynfor Evans yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000. Un o nodweddion ei waith mewn aur ac arian oedd ei fod yn gwrthod rhoi'r dilysnod swyddogol Prydeinig arnynt, sydd yn gwneud ei waith, ar y naill law yn anghyfreithiol, ac ar y llaw arall yn ddeniadol iawn i gasglwyr.[8]

Yn ogystal â bod yn grefftwr mewn metelau prin, roedd Tony hefyd yn gerddor crefftus yn canu'r delyn, y pibgorn a'r ffidl,[9] bu yn ei elfen yn ymuno gyda cherddorion traddodiadol eraill mewn sesiynau anffurfiol mewn gwyliau ledled y gwledydd Celtaidd.[10]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn y Barri yn 68 mlwydd oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Anthony Lewis, The Independent 11 November 2005; [1] adalwyd 31 Mawrth 2016
  2. Tony Lewis. Times (London, England) 8 Dec. 2005: 67.The Times Digital Archive. Adalwyd. 31 Mawrth. 2016. [2]
  3. Tony Lewis Presmon [3] adalwyd 30 Mawrth 2016
  4. Clews, Roy, To Dream of Freedom: The Story of Mac and the Free Wales Army, Y Lolfa, 1980. tud. 94-95
  5. Cynhadledd 1967 Dolgellau
  6. Tributes to Free Wales Army man, Daily Post 17 Tachwedd 2005 [4] adalwyd 30 Mawrth 2016
  7. "Leniency by judge in sentencing six 'lovers of Wales'." Times (London, England) 2 July 1969: 2. The Times Digital Archive. Adalwyd 31 Mawrth 2016. [5]
  8. Tributes paid to activist Tony Lewis [6] adalwyd 31 Mawrth 2016
  9. Anthony Lewis The Independent 11 November 2005 [7] adalwyd 31 Mawrth 2016
  10. "Lives Remembered." Times (London, England) 20 Dec. 2005: 54. The Times Digital Archive. Adalwyd 31 Mawrth. 2016. [8]