Pen-y-bont ar Ogwr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Penybont-ar-Ogwr)
Neidio i: llywio, chwilio
Pen-y-bont ar Ogwr
Pen-y-bont ar Ogwr
CymruPenybont.png
Smotyn Coch.gif

Mae Pen-y-bont ar Ogwr (Saesneg: Bridgend) yn dref ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr ag oddeutu 40,000 o bobol. Ei gefeilldref yw Langenau yn Yr Almaen. Tan yr 20fed ganrif, tref marchnad oedd hi yn bennaf. Mae hi bellach yn dref ddiwydiannol oherwydd datblygu ystadau diwydiannol ger yr M4 sydd wedi denu cwmnïau megis Sony a Ford i'r ardal. Mae Pen-y-bont yn gartref hefyd i bencadlys Heddlu De Cymru. Adeiladwyd carchar preifat (Carchar Parc Ei Mawrhydi) yn niwedd y 1990au ar safle hen ysbyty seiciatreg ar gyrion y dref uwchben pentref Coety.

Cynnwys

[golygu] Ardaloedd

[golygu] Afonydd

Mae Afon Ogwr yn llifo trwy'r dref, gyda'r Nant Morfa yn ei chyfarfod ger Meysydd y Bragdy. Mae'r Afon Ewenni yn llifo ar gyrion y dref yn Nhredŵr i gyfarfod yr Ogwr ger Castell Ogwr ar ben yr aber.

[golygu] Cysylltiadau ffyrdd a rheilffordd

Mae Pen-y-bont yn agos i gyffyrdd 35 a 36 traffordd yr M4, hanner ffordd rhwng dinas Abertawe a dinas Caerdydd.
Mae gan Pen-y-bont orsaf rheilffordd ar lein y Great Western, gyda gwasanaethau cyflym i ddinas Llundain ac Abertawe. Mae yna orsaf arall ym Melin Wyllt ar lein Maesteg. Mae gwasanaethau lleol yn rhedeg i Gaerdydd a Gorllewin Lloegr ar y brif lein a lein Bro Morgannwg. I'r gorllewin mae gwasanaethau lleol i Abertawe a Gorllewin Cymru. Hefyd mae gwasanaethau lleol i Faesteg. Gweithredir y gwasanaethau lleol gan Trenau Arriva Cymru, a'r gwasanaethau cyflym gan First Great Western.

[golygu] Enwogion

[golygu] Ysgolion

  • Ysgol Gyfun Brynteg
  • Ysgol Gyfun Bryntirion
  • Ysgol Gyfun Pencoed
  • Ysgol Gyfun Ynysawdre
  • Ysgol Gyfun Ogwr
  • Ysgol Gynradd Penybont
  • Ysgol Gynradd yr Hen Gastell
  • Ysgol Gynradd Bragle
  • Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr
  • Ysgol Gynradd Tremaen
  • Ysgol Archddeon John Lewis yr Eglwys yng Nghymru
  • Ysgol Gynradd Llidiart
  • Ysgol Plant Bach Bryntirion
  • Ysgol Plant Iau Llangewydd
  • Ysgol Gynradd Brynmenyn
  • Ysgol Gynradd Ffaldau
  • Ysgol Gynradd Betws

[golygu] Eisteddfod Genedlaethol

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym 1948. Am wybodaeth bellach gweler:

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Ogwr 1998 ym Mhencoed.

[golygu] Gefeilldrefi

[golygu] Gweler hefyd

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill