Huw Edwards

Oddi ar Wicipedia
Huw Edwards
Ganwyd18 Awst 1961 Edit this on Wikidata
Pen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
Man preswylDulwich, Llangennech Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
TadHywel Teifi Edwards Edit this on Wikidata
PriodVicky Flind Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Newyddiadurwr a chyflwynydd newyddion o Gymro yw Huw Edwards (ganwyd 18 Awst 1961).[1]

Mae wedi cyflwyno nifer o brif raglenni newyddion ar rwydwaith Prydeinig y BBC yn ogystal a rhaglenni newyddion arbennig ar ddigwyddiadau gwladol a rhyngwladol. Bu'n brif gyflwynydd Newyddion y BBC am ddeg o'r gloch. Mae hefyd wedi cyflwyno nifer o raglenni teledu a radio yng Nghymru - yn Gymraeg a Saesneg. Cyflwynodd sawl cyfres i BBC Cymru gan gynnwys The Story of Wales, The Wales Report, a'r rhaglen drafod materion cyfoes, The Exchange. Bu hefyd yn cyflwyno rhai o raglenni Bore Sul i BBC Radio Cymru.

Cyflwynodd nifer o raglenni ar S4C gan gynnwys Pawb a'i Farn a Dechrau Canu Dechrau Canmol. Yn 2021, i nodi ei ben-blwydd yn 60, darlledwyd rhaglen ddogfen arbennig amdano ar S4C.[2]

Ar 8 Medi 2022, cyhoeddodd Edwards farwolaeth Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig, gan gyflwyno darllediadau newyddion treigl yn dilyn cyhoeddiad gan Balas Buckingham yn gynharach yn y dydd.[3] Cyflwynodd ddarllediadau'r BBC o angladd y Frenhines ar 19 Medi hefyd.[4]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Fe'i ganwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn fab i Hywel Teifi Edwards, yr hanesydd a llenor Cymraeg, a'i wraig, yr athrawes Aerona Protheroe.[5] Fe'i magwyd yn Llangennech, ger Llanelli, ac fe'i addysgwyg yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Llanelli. Graddiodd mewn Ffrangeg ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd yn 1983.

Ar ôl ei radd cyntaf, cychwynodd waith ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd ar Ffrangeg y canol oesoedd, cyn dod yn ohebydd ar gyfer orsaf radio lleol Swansea Sound ac yna ymuno a'r BBC.[6]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae Edwards yn briod a Vicky Flind, cynhyrchydd teledu, sydd wedi gweithio fel golygydd ar This Week a Peston.[7][8] Mae'r cwpl yn byw yn Dulwich, Llundain,[7] ac mae ganddynt bump o blant.[9] Mae Edwards yn Gristion ac yn mynychu'r eglwys yn wythnosol.[10] Mae wedi sôn ei fod wedi dioddef pyliau o iselder ers 2002.[11]

Honiadau am ei fywyd preifat[golygu | golygu cod]

Ar 7 Gorffennaf 2023 cyhoeddwyd stori ym mhapur newydd The Sun yn cynnwys honiadau o dalu £35,000 i berson ifanc am luniau o natur rywiol. Gwnaed yr honiad gan fam a llysdad y person ifanc, er y cafwyd datganiad wedyn gan y person dan sylw yn dweud fod y stori yn "rwtsh". Cafwyd straeon pellach yn y papur newydd am ei fywyd preifat. Ni gyhoeddwyd ei enw ar y pryd ond cyfeiriwyd at un 'brif gyflwynwyr y BBC' a oedd yn ennill cyflog 6 ffigwr.[12] Y diwrnod wedyn cyhoeddodd y BBC y byddai ymchwiliad i'r mater ac fe ataliwyd y cyflwynydd o'i waith ar 9 Gorffennaf. Yn ogystal pasiwyd manylion yr honiadau i Heddlu'r Met ar 10 Gorffennaf.

Ar 12 Gorffennaf cyhoeddodd yr heddlu eu bod wedi cyflawni eu hasesiad ac na fydd camau pellach yn cael eu cymryd. Daeth i'r amlwg hefyd bod Heddlu De Cymru wedi ymchwilio i honiad a wnaed yn Ebrill 2023 ac ni ganfuwyd unrhyw dystiolaeth o dorcyfraith y pryd hynny chwaith.[13] Yr un diwrnod, ar raglen newyddion 6 y BBC, cyhoeddwyd ei enw am y tro cyntaf yn gyhoeddus, ac adroddwyd fod Edwards wedi ymddiswyddo. Cywirwyd hyn o fewn munudau i ddweud nad oedd wedi ymddiswyddo. Darllenwyd datganiad gan ei wraig Vicky, yn dweud ei fod yn cael "triniaeth am iselder yn yr ysbyty, ble bydd yn aros am y dyfodol rhagweladwy."

Ar 22 Ebrill 2024, cyhoeddwyd y bod Edwards wedi gadael y BBC "ar sail cyngor meddygol".[14]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "EDWARDS, Huw". Who's Who 2016 online edition (yn Saesneg). Oxford University Press. Cyrchwyd 24 Ionawr 2016.
  2. "Huw Edwards: Angen ymchwiliad 'cadarn' i honiadau". BBC Cymru Fyw. 2023-07-13. Cyrchwyd 2023-07-13.
  3. "Huw Edwards reflects on the Queen's life as he announces her death on the BBC". The Independent (yn Saesneg). 8 Medi 2022. Cyrchwyd 8 Medi 2022.
  4. "'Do it solemnly, quickly, and shut up': how TV is preparing for the royal funeral". the Guardian (yn Saesneg). 17 Medi 2022. Cyrchwyd 17 Medi 2022.
  5. Rees, D. Ben (26 Ionawr 2010). "Hywel Teifi Edwards obituary". The Guardian (yn Saesneg).
  6. "Simon Hattenstone talks to Huw Edwards". the Guardian (yn Saesneg). 20 Ionawr 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Hydref 2022. Cyrchwyd 15 Ebrill 2021.
  7. 7.0 7.1 James Robinson (19 Rhagfyr 2010). "Huw Edwards: The country's new master of ceremonies". The Guardian (yn Saesneg). London: Guardian News and Media. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd 25 Ionawr 2016.
  8. Rigby, Elizabeth. "Newsreader's wife changes channels". The Times (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Hydref 2022. Cyrchwyd 23 Hydref 2021.
  9. "Mr Huw Edwards". Cardiff School of Journalism, Media and Cultural Studies website (yn Saesneg). Cardiff University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Ionawr 2013. Cyrchwyd 25 Ionawr 2016.
  10. "Huw Edwards in fight to save Welsh church in London". The Telegraph (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Tachwedd 2018. Cyrchwyd 10 Ebrill 2018.
  11. Weaver, Matthew (23 Rhagfyr 2021). "Huw Edwards tells of 20-year struggle with depression". The Guardian (yn Saesneg). London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Rhagfyr 2022. Cyrchwyd 22 Ionawr 2022.
  12. Nadeem Badshah (12 Gorffennaf 2023). "Huw Edwards' wife says presenter in mental health hospital after allegations in the Sun newspaper – live". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2023.
  13. "Enwi Huw Edwards fel cyflwynydd yng nghanol sgandal". BBC Cymru Fyw. 2023-07-12. Cyrchwyd 2023-07-12.
  14. "Huw Edwards yn gadael y BBC 'ar sail cyngor meddygol'". BBC Cymru Fyw. 2024-04-22. Cyrchwyd 2024-04-22.