Abercynffig
Pentref ym mwrdeisdref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ne Cymru yw Abercynffig (Saesneg:Aberkenfig). Roedd y boblogaeth yn 2,024 yn 2001.
Saif Abercynffig i'r gogledd o dref Pen-y-bont ar Ogwr, heb fod ymhell o gyffordd y briffordd A4063 a'r draffordd M4. Saif ger cymer Afon Llynfi ac Afon Ogwr, ac i'r de o bentref Tondu. Gweithio ym Mhen-y-bont ar Ogwr y mae'r rhan fwyaf o'r trigolion bellach.
Abercynffig · Abergarw · Betws · Blaengarw · Bragle · Bryncethin · Brynmenyn · Caerau · Cefn Cribwr · Corneli · Cwm Ogwr · Cynffig · Drenewydd yn Notais · Heol-y-cyw · Llangeinwyr · Llangrallo · Llangynwyd · Maesteg · Melin Ifan Ddu · Merthyr Mawr · Mynydd Cynffig · Nant-y-moel · Notais · Pencoed · Pen-y-bont ar Ogwr · Pen-y-fai · Y Pîl · Pontycymer · Porthcawl · Price Town · Sarn · Ton-du · Trelales · Ynysawdre