Pen-tyrch

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Pentyrch)
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref a chymuned yng ngorllewin dinas Caerdydd yw Pen-tyrch, weithiau Pentyrch. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 6,297. Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd 1,219 (20.5%) o'r boblogaeth (3 oed ac yn hŷn) yn gallu siarad Cymraeg.[1]

Yn wreiddiol, plwyf gwledig oedd yr ardal, ond daeth yn rhan o ddinas Caerdydd yn 1996. Heblaw pentref Pen-tyrch, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Gwaelod-y-garth a Creigiau. Mae'r rhan fwyaf o'r gymuned yn parhau i fod yn dir agored, a saif Mynydd y Garth gerllaw pentref Pen-tyrch. Yn yr Oesoedd Canol, roedd Pen-tyrch yn faenor a oedd yn rhan o gwmwd Meisgyn.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pen-tyrch (pob oed) (6,101)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pen-tyrch) (1,219)
  
20.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pen-tyrch) (4548)
  
74.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Pen-tyrch) (705)
  
28.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. [http://www.nomisweb.co.uk Tabl KS207WA Cyfrifiad 2011
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013


Cymunedau Caerdydd

Adamsdown | Caerau | Castell | Cathays | Cyncoed | Yr Eglwys Newydd | Gabalfa | Glan'rafon | Grangetown | Llandaf | Llanisien | Llanrhymni | Llys-faen | Y Mynydd Bychan | Pentref Llaneirwg | Pen-twyn | Pen-tyrch | Pen-y-lan | Plasnewydd | Pontprennau | Radur a Threforgan | Rhiwbeina | Y Rhath | Sain Ffagan | Y Sblot | Tre-Biwt | Tredelerch | Treganna | Trelái | Tongwynlais | Trowbridge | Tyllgoed | Ystum Taf