Meir Amit

Oddi ar Wicipedia
Meir Amit
Meir Amit ym 1957.
Ganwyd17 Mawrth 1921 Edit this on Wikidata
Tiberias Edit this on Wikidata
Bu farw17 Gorffennaf 2009 Edit this on Wikidata
Tel Aviv Edit this on Wikidata
DinasyddiaethIsrael Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Fusnes Columbia Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, entrepreneur, swyddog milwrol Edit this on Wikidata
SwyddMinister of Communications, Aelod o'r Knesset Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid WleidyddolDemocratic Movement for Change, Shinui, Alignment Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Israel, Yakir Ramat Gan Edit this on Wikidata

Milwr a gwleidydd Israelaidd oedd Meir Amit (17 Mawrth 192117 Gorffennaf 2009) a wasanaethodd yn Gyfarwyddwr Mossad o 1963 i 1968, yn aelod o'r Knesset o 1977 i 1981, ac yn Weinidog Cludiant a Gweinidog Cyfathrebu Israel o 1977 i 1978.

Bywyd cynnar (1921–48)[golygu | golygu cod]

Ganed Meir Slutzky yn ninas Tiberias, ar lannau Môr Galilea, ar 17 Mawrth 1921, pan oedd Palesteina yn fandad Prydeinig. Astudiodd yn yr ysgol amaethyddol yng nghibwts Givat HaShlosha ac yn ysgol uwchradd Balfour Reali yn Tel Aviv.[1]

Ymunodd â Haganah, prif filisia'r mudiad Seionaidd, yn 15 oed. Enillodd enw fel arweinydd milwrol a thactegydd craff yn ystod ei ieuenctid, wrth amddiffyn gwladfeydd Iddewig yn erbyn cyrchoedd gan yr Arabiaid. Gwasanaethodd yn noter, un o'r plismyn cynorthwyol Iddewig a recriwtiwyd gan y Prydeinwyr yn ystod gwrthryfel yr Arabiaid ym 1936–39.[1]

Yn y cyfnod hwn, cymerodd Meir y cyfenw Hebraeg Amit.[1] Priododd Meir Amit ag Yona Kelman ym 1941, a chawsant dair merch.[2]

Gyrfa filwrol (1948–63)[golygu | golygu cod]

Wedi i Israel ddatgan ei hannibyniaeth ym 1948, goresgynnwyd y wlad gan luoedd y Cynghrair Arabaidd. Yn ystod Rhyfel yr Arabiaid a'r Israeliaid, arweiniodd Amit gwmni o Luoedd Amddiffyn Israel (IDF) yn erbyn byddinoedd Irac, Syria, a'r Aifft. Cafodd ei anafu'n ddifrifol yn ystod yr ymladd yn Jenin ym Mehefin 1948, wrth iddo arwain cyrch ar un o amddiffynfeydd y gelyn. Er gwaethaf yr anaf iddo, dychwelodd i faes y gad ym Mawrth 1949 i arwain un o'r bataliynau a gipiodd Umm al-Rashrāsh (bellach Eilat) yn Ymgyrch Uvda.

Wedi buddugoliaeth Israel yn ei rhyfel annibyniaeth, dyrchafwyd Meir Amit yn ben ar Frigâd Golani ym 1950.[2][1] Ym Mai 1951, gorchmynnwyd i Amit fwrw lluoedd Syriaidd allan o Tel Mutilla, ar gyrion Ucheldiroedd Golan, a oedd i fod yn dir dadfilwroledig rhwng y ddwy wlad. Fe arweiniodd Frigâd Golani wrth ymosod ar y Syriaid am bedwar diwrnod yn olynol. Er gwaethaf enciliad lluoedd Syria o'r ardal, bu farw 40 o filwyr Israelaidd ar faes y gad a chafodd Amit ei feirniadu gan swyddogion uwch. Cafodd ei holi am y frwydr gan y Cadfridog Moshe Dayan, Cadlywydd y Rheolaeth Ddeheuol, a wrthodai'r achos yn erbyn Amit yn syth. Yn ôl Dayan, buddugoliaeth gan lu dewr a diwyd oedd y frwydr ac esiampl i unedau milwrol eraill oedd Brigâd Golani.[1] Daeth Amit dan adain Dayan, a fe'i penodwyd yn gynorthwywr iddo.[2]

Prif swyddogion yr IDF a rhai o weinidogion y cabinet ym Mai 1961, gan gynnwys: yn y rhes ganol, yr Uwchfrigadydd Meir Amit (ail o'r chwith) a'r Uwchfrigadydd Yitzhak Rabin (pedwerydd o'r dde); yn y rhes flaen, ar eu heistedd, y Prif Weinidog a Gweinidog Amddiffyn David Ben-Gurion (trydydd o'r chwith), y Gweinidog Ariannol Levi Eshkol (trydydd o'r dde), yr Is-weinidog Amddiffyn Shimon Peres (ail o'r dde), a'r Gweinidog Amaeth Moshe Dayan (y cyntaf ar y dde).

Wedi iddo dderbyn hyfforddiant yng Ngholeg Milwrol y Fyddin Brydeinig yn Camberley ym 1954,[2] penodwyd Amit yn bennaeth ar Gangen Ymgyrchoedd y Lluoedd Amddiffyn ym 1956, ac i bob pwrpas yn ddirprwy i Dayan, a oedd erbyn hynny yn Bennaeth y Staff Cyffredinol. Yn ystod Argyfwng Suez (1956), pan oedd Dayan yn teithio yn ôl ac ymlaen i'r cadlysoedd ar faes y gad yng ngorynys Sinai, bu Amit yn rheoli ymgyrch yr Israeliaid o bencadlys y fyddin yn Tel Aviv. Dyrchafwyd Amit yn Gadlywydd y Rheolaeth Ddeheuol gan Dayan ym 1958.[1] Cafodd Amit ei anafu yn ddifrifol, a bron ei ladd, ym 1958, oherwydd diffyg ar ei barasiwt yn ystod ymarferiad gyda'r awyrfilwyr. Treuliodd 18 mis yn yr ysbyty, a thybiodd na fyddai eto ar wasanaeth gweithredol. Wedi iddo wella, aeth i Efrog Newydd i astudio busnes ym Mhrifysgol Columbia ym 1959.[1]

Y Cadfridogion Meir Amit (dde) a Chaim Herzog (yn ddiweddarach Arlywydd Israel) ar 1 Ionawr 1962.

Pan ddychwelodd Amit i Israel, ymunodd â'r Gyfarwyddiaeth Gudd-wybodaeth Filwrol (Aman). Dyrchafwyd yn bennaeth ar Aman ym 1962. Yn y swydd hon, cafodd ei gythruddo gan obsesiwn Isser Harel, Cyfarwyddwyr Mossad (asiantaeth cudd-wybodaeth sifil Irsrael), â chanlyn gwyddonwyr Natsïaidd a oedd yn gweithio i lywodraeth yr Aifft.[3] Ar 25 Mawrth 1963, pan oedd Amit ar daith i'r Môr Marw, cafodd ei orchymyn i hedfan i Tel Aviv ar unwaith i gwrdd â'r Prif Weinidog a Gweinidog Amddiffyn David Ben-Gurion. Yno, fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Mossad yn sgil ymddiswyddiad Harel.[1]

Cyfarwyddiaeth Mossad (1963–68)[golygu | golygu cod]

Ar y cychwyn, yn ystod y naw mis pan oedd yn bennaeth ar Aman yn ogystal â Mossad, cafodd Amit ei ystyried yn ddieithryn nas croesewir gan nifer o swyddogion Mossad. Ar ei ddiwrnod cyntaf yn y swydd, bu cynnwrf ym y pencadlys wrth i'r cyfarwyddwr newydd gerdded i mewn i'r adeilad yn ei wisg filwrol lawn â'i holl rubanau,[1] ac ymhen fawr o dro ymddiswyddai sawl aelod o Mossad a oedd yn ffyddlon i Harel, gan gynnwys Yitzhak Shamir (yn ddiweddarach Prif Weinidog Israel).[3] Fodd bynnag, aeth Amit i'r afael â diwygio cyfundrefn Mossad, gan geisio moderneiddio pob agwedd o'i gwaith a dod â therfyn i'r cystadlu rhwng yr asiantaethau cudd-wybodaeth sifil a milwrol. Cyflwynodd Amit gyfrifiaduron a thechnoleg newydd arall, a defnyddiodd ei addysg fusnes i ailstrwythuro a gwella rheolaeth ac atebolrwydd. Yn ogystal, crëwyd rhwydwaith o ffynonellau cudd-wybodaeth ddynol gyda chysylltiadau ag asiantaethau gwledydd eraill, a throsglwyddwyd uned arbennig o'r fyddin i Mossad i gyd-lynu ysbïwriaeth Israelaidd yn y byd Arabaidd. Ymddiswyddodd Amit o gyfarwyddiaeth Aman yn Ionawr 1965, gan ganolbwyntio ar arwain Mossad yn unig.

Meir Amit (y cyntaf ar y dde) gyda Mustafa Barzani (ail o'r dde), arweinydd y Cyrdiaid yn Irac, mewn ysbyty maes a sefydlwyd gan yr Israeliaid ar gyfer yr herwfilwyr Cyrdaidd.

Ymdrechai Amit i ffurfio berthnasau rhwng Israel a gwledydd yn Affrica ac Asia, gan gynnwys Cenia, Wganda, Singapôr, India, Twrci, ac Indonesia. Honnai iddo deithio i Iran pob mis i ymweld â'r Shah.[3] Un o'i benderfyniadau ymarferol cyntaf oedd i fagu cysylltiadau â'r Cyrdiaid yn Irac, gan gwrdd â'u harweinwyr a chyflenwi arfau ac hyfforddiant iddynt. Ei nod oedd i fanteisio ar wybodaeth y Cyrdiaid am luoedd arfog Irac, ac i'w defnyddio i danseilio awdurdod llywodraeth Irac yn nhiroedd y Cyrdiaid.[1] Llwyddodd Mossad osod ei ysbïwyr mewn sawl gwlad Arabaidd dan arweiniad Amit, gan gynnwys Eli Cohen, a fyddai'n gynghorwr i weinidog amddiffyn Syria cyn cael ei ddatgelu ym 1965. Yng nghanol 1963 lansiwyd Ymgyrch Diemwnt i gael gafael ar yr MiG-21, awyren ymladd a rhagodi a gynhyrchwyd gan yr Undeb Sofietaidd. Daeth y llwyddiant yn Awst 1966 pan ffoes Munir Redfa, peilot o Awyrlu Irac, yn ei MiG-21 i Faes Awyrlu Israel yn Hatzor.

Ym 1965 gofynnodd y Cadfridog Mohammed Oufkir, Gweinidog Cartref Moroco, i Amit gynorthwyo cynllwyn i lofruddio'r gweriniaethwr sosialaidd Mehdi Ben Barka, a oedd yn byw yn alltud yn y Swistir. Diflannodd Ben Barka ar 29 Hydref 1965 wedi iddo deithio i Ffrainc a chael ei gipio gan heddweision ym Mharis. Credir iddo gael ei ddwyn i gartref gangster gan gudd-asiantau, ei saethu'n farw, a'i gladdu. Gwylltiwyd y Ffrancod gan ran yr Israeliaid yn llofruddiaeth Ben Barka, a chaewyd canolfan Ewropeaidd Mossad ym Mharis gan yr Arlywydd Charles de Gaulle. Galwyd ymchwiliad i weithgareddau Mossad gan Levi Eshkol, Prif Weinidog Israel, dan arweiniad y cyn-gyfarwyddwr Isser Harel, a oedd bellach yn gynghori'r prif weinidog ar faterion cudd-wybodaeth. Honnodd Amit nad oedd gan swyddogion Mossad ran yn y llofruddiaeth, oni bai am ddarparu pasbort ffug a cheir hur, ond argymhellodd Harel y dylai Amit gael ei ddiswyddo ar unwaith. Bygythiodd Amit, os câi ei ddiswyddo, y byddai'n codi stŵr ac yn cyhoeddi'r ffaith i Eshkol roi sêl ei fendith ar y cynllwyn. Penderfynodd Eshkol i gadw Amit yn y swydd ac i guddio'r manylion er mwyn atal sgandal.[1]

Meir Amit (chwith) gyda James Jesus Angleton, pennaeth gwrth-ysbïwriaeth y CIA, ym 1966.

Teithiodd Amit i Washington, D.C. ym Mai 1967 i ddwyn perswâd ar lywodraeth yr Unol Daleithiau i gefnogi rhagymosodiad gan Israel yn erbyn gwledydd cyfagos. Mynnodd y byddai Israel yn dymuno cymorth wrth ailarfogi wedi'r rhyfel, cefnogaeth yr Americanwyr yn y Cenhedloedd Unedig, ac ataliaeth os oedd angen i gadw'r Sofietiaid rhag ymyrryd yn y rhyfel. Ymatebodd Robert MacNamara, Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau, gan ddweud "I read you loud and clear". Dychwelodd Amit i hysbysu'r Prif Weinidog Eshkol bod gan Israel rwydd hynt i ymosod ar safleoedd Awyrlu yr Aifft, a dechreuodd felly y Rhyfel Chwe Diwrnod ar 5 Mehefin 1967.[1]

Gyrfa fusnes gynnar a gyrfa wleidyddol (1968–81)[golygu | golygu cod]

Ymddiswyddodd Amit o Mossad ym 1968, yn 47 oed. Cafodd swydd cyfarwyddwr cyffredinol Koor, y cydgwmni diwydiannol mwyaf yn Israel. Yn Hydref 1973, yn ystod Rhyfel Yom Kippur, cafodd ei benodi yn gynorthwywr i'w hen uwch-swyddog a chyfaill, Moshe Dayan, a oedd erbyn hynny yn weinidog amddiffyn y wlad.[1]

Camodd Meir Amit i fyd gwleidyddiaeth ym 1976 fel un o sefydlwyd y blaid ryddfrydol Dash. Er iddi bara ond dwy flynedd, enillodd Dash 15 o seddau'r Knesset yn yr etholiad ym Mai 1977, gan gynnwys un sedd i Amit. Ar 23 Hydref 1977 penodwyd Amit yn weinidog cludiant ac yn weinidog cyfathrebu yn llywodraeth glymblaid y Prif Weinidog Menachem Begin. Ymddiswyddodd o'r cabinet ar 15 Medi 1978 ac ymunodd â'r blaid Shinui. Ymaelododd â'r blaid lafur HaMa'arakh ym 1980, a daeth ei gyfnod yn y Knesset i ben ym 1981.

Gyrfa fusnes hwyrach a diwedd ei oes (1981–2009)[golygu | golygu cod]

Daliodd Meir Amit yn weithgar trwy gydol ei henaint, yn enwedig â chwmnïau uwch-dechnoleg. Bu'n cynghori ac yn ymwneud â datblygu lloerennau cyfathrebu gan gynnwys AMOS.

Ar Ddiwrnod Annibyniaeth Israel (5 Iyar), byddai Amit yn gwahodd cannoedd o bobl i'w barti blynyddol yn ei gartref yn Tel Aviv i fwyta, yfed, a chanu.[1] Yn ei gartref roedd ganddo gasgliad o 1500 o ddoliau, wedi eu casglu ganddo ar ei deithiau i wledydd y byd yn ystod ei yrfa.[3]

Bu farw Meir Amit ar 17 Gorffennaf 2009 yn 88 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 1.10 1.11 1.12 1.13 (Saesneg) "Major-General Meir Amit", The Daily Telegraph (22 Gorffennaf 2009). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 31 Mai 2021.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) "Meir Amit: Israeli intelligence chief and soldier", The Times (26 Awst 2009). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 30 Mai 2021.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 (Saesneg) Lawrence Joffe, "Major General Meir Amit", The Guardian (28 Gorffennaf 2009). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 31 Mai 2021.