Mossad

Oddi ar Wicipedia

Mossad (Hebraeg: המוסד למודיעין ולתפקידים מיוחדים HaMossad leModi'in uleTafkidim Meyuhadim) yw asiantaeth diogelwch cenedlaethol Israel. "Mossad" yw'r gair Hebraeg am y sefydliad. Ystyrir ymaelodaeth o Mossad yn fraint aruchel gan rai yn y gymuned Israelaidd ac mae eraill yn ei ystyried yn un o'r asiantaethau diogelwch cenedlaethol mwyaf effeithiol yn y byd. Er hynny, mae wedi cael ei feirniadu am ddefnyddio dulliau anghyfreithlon ar raddfa eang, yn cynnwys herwgipio a chuddlofruddiaeth.

Dulliau dadleuol[golygu | golygu cod]

Er bod Israel yn gynghreiriad pwysig i'r Unol Daleithiau yn y Dwyrain Canol, mae arbenigwyr diogelwch Llu Arfog UDA yn wyliadwrus o Mossad. Mewn adroddiad ar y posiblrwydd o sefydlu llu o 20,000 o filwyr i warchod cytundeb i gael 'ateb dwy wladwriaeth' - Palesteina ac Israel - yn y rhanbarth, roedd SAMS (School of Advanced Military Studies) Byddin yr Unol Daleithiau yn ystyried fod Mossad yn "Wildcard. Ruthless and cunning. Has capability to target U.S. forces and make it look like a Palestinian/Arab act."[1]

Ceir tystiolaeth fod dulliau Mossad yn cynnwys sefydlu celloedd ffug-Al-Qaeda yn y Tiriogaethau Palesteinaidd a Libanus. Defnyddiwyd presenoldeb honedig celloedd Al-Qaeda yn "gweithio gyda Hezbollah" yn Libanus gan Ariel Sharon, Prif Weinidog Israel ar y pryd, fel un o'r rhesymau dros ymosod ar dde Libanus yn 2002.[2] Tua'r un adeg, arestiwyd aelodau o "gell Al-Qaeda" a sefydlwyd gan Mossad yn Llain Gaza: yn ôl Yasser Arafat sefydlodd Mossad y "gell" er mwyn cyfiawnhau ymosodiadau ar Lain Gaza.[3]

Ym Mehefin 2004, arestiwyd Israeliad a oedd yn aros yn y Philipinau yn anghyfreithlon gan yr heddlu ar gyhuddiad o "weithio i Al-Qaeda" a chynorthwyo grwpiau terfysgol Islamig sy'n weithgar yn ne'r wlad i ymosod ar dargedau Gorllewinol. Roedd ganddo "digon o ffrwydron i suddo llong" yn ei feddiant.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Israel. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.