Prifysgol Columbia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Prifysgol breifat yn yr Unol Daleithiau yw Prifysgol Columbia yn Ninas Efrog Newydd (neu Prifysgol Columbia ar lafar), sy'n aelod o'r Cynghrair Eiddew. Lleolir prif gampws Columbia yn ardal Morningside Heights ym mwrdeistref Manhattan, yn Ninas Efrog Newydd. Sefydlwyd fel 'Coleg y Brenin' gan Eglwys Loegr, gan dderbyn Siarter Brenhinol yn 1754 gan Siôr II, brenin Prydain Fawr. Mae'n un o ond dwy brifysgol yn yr Unol Daleithiau i gael ei sefydlu dan siarter brenhinol, a'r coleg cyntaf i gael ei sefydlu yn Nhalaith Efrog Newydd, a'r pumed coleg i gael ei sefydlu yn y Tair Trefedigaeth ar ddeg. Siarterwyd y coleg fel endid yn nhalaith Efrog Newydd am gyfnod byr yn dilyn y Chwyldro Americanaidd, rhwng 1784 a 1787, ond mae'r brifysgol yn gweithredu hyd heddiw dan siarter 1787, sy'n gosod y sefydliad dan bwrdd o ymddiriedolwyr preifat.

Flag-map of New York City.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ddinas Efrog Newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Graduation hat.svg Eginyn erthygl sydd uchod am brifysgol neu addysg uwch. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.