Baner Shetland

Oddi ar Wicipedia
Baner Shetland
Llun o'r faner yn cyhwfan yn Unst

Dyluniwyd baner Shetland gan Roy Grønneberg a Bill Adams ym 1969. Fe'i crëwyd yn answyddogol i goffáu pumcanmlwyddiant trosglwyddiad yr ynysoedd o Norwy i Deyrnas yr Alban a'r pum can mlynedd cyn hynny yn rhan o Norwy.[1]

Cydnabuwyd hi gan Lys yr Arglwydd Lyon, awdurdod herodraeth yr Alban, ar 1 Chwefror 2005[2], mewn pryd i Gemau'r Ynysoedd ym mis Gorffennaf 2005 yn Shetland[3]. Fe'i mabwysiadwyd yn swyddogol ynghyd â disgrifiad ohoni gan Cyngor Ynysoedd Shetland ar 13 Rhagfyr 2006. Ar yr un pryd y datganwyd mai 3:5 fyddai'r cyfrannedd a bod y meysydd i'r hòs yn sgwâr fel baneri Norwy, Gwlad yr Iâ a Ynysoedd Ffaröe. Cyn 2006 roedd y meysydd i'r hòs fel arfer yn betryal. Mae lled y barrau 1/6 uchder y faner, sy'n creu cyfraneddau o 5:2:5, 5:2:13.

Mae'r faner yn defnyddio lliwiau baner yr Alban, ond yn ffurf y groes Nordig er mwyn symboleiddio cysylltiadau hanesyddol a diwylliannol Shetland â'r gwledydd Nordig. Gwrthwyneb baner y Ffindir yw ei lliwiau a'i dyfais.

Defnyddir y faner yn eang gan bobl Shetland ar dir a môr ac fe'i hystyrir yn symbol hunaniaeth arbennig Shetland.

Cyflwynwydd Diwrnod Baner Shetland ar Alban Hefin 2007. Mae Cyngor Ynysoedd Shetland yn gobeithio defnyddio'r diwrnod hwn i ddathlu "popeth sy'n ymwneud â Shetland".[4]

Mae'r faner bron yn union debyg i hen faner answyddogol Gwlad yr Iâ, yr Hvítbláinn, a ddefnyddiai cenedlaetholwyr yng Ngwlad yr Iâ o 1897 hyd 1915. Rhoddwyd y gorau i'w defnyddio'n rhannol oherwydd ei thebygrwydd i faner Gwlad Groeg a baner Sweden, ac roedd rhai yn meddwl y byddai'n anodd eu gwahaniaethu ar y môr a oedd yn beth pwysig adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'r faner wen a glas yn dal i gael ei defnyddio gan Gymdeithas Ieuenctid Gwlad yr Iâ.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Shetland Islands (United Kingdom)
  2. http://www.shetland-news.co.uk/archives/pages/news%20stories/2005/02_2005/shetland%E2%80%99s_flag_now_official.htm[dolen marw]
  3. "IGA - Games Profile 2001". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-17. Cyrchwyd 2014-02-27.
  4. Article from shetlandtoday on Shetland Flag Day

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]


Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato